Roedd Eric Evans (1928-1996) yn Ddeon Eglwys Gadeiriol St Paul.

Ganwyd Evans yn Arberth, yn fab i Eric Evans a’i wraig Florence Rogers gynt. Bedyddiwyd ef Thomas, ond roedd pawb yn ei adnabod wrth ei enw canol, Eric. Ar ymadael â’r ysgol, gwnaeth astudio am radd BA yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed, ac yna, am radd MA yng Ngholeg St Catherine, Rhydychen. Yna, gwnaeth baratoi ar gyfer bod yn offeiriad yn y sefydliad Anglo-Gatholig, St Stephen’s House, sy’n dal i fod yn Rhydychen o hyd. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1954, ac yn offeiriad yn 1955. 

Swydd glerigol gyntaf Evans oedd fel curad ym Margate. Pan oedd yno, gwnaeth gwrdd â Linda Budge a’i phriodi; cawsant ddwy ferch. Yn 1958, daeth Evans yn uwch-gurad yn eglwys St Peter, sydd yng nghanol Bournemouth.  Yn ystod ei amser yno, derbyniodd hyfforddiant fel Samariad, a daeth yn sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr cyntaf cangen Bournemouth. Daeth hefyd ymlaen yn dda gyda phobl ifanc. Yn 1962, symudodd i esgobaeth Caerloyw i fod yn gaplan ieuenctid. Dywedwyd y gallai eistedd mewn cae gyda gwydr o gwrw, ac ar yr un pryd, esbonio’n glir diwinyddiaeth Sant Paul ynglŷn ag iachawdwriaeth i’r bobl ifanc a oedd o’i gwmpas. Yn 1969, daeth yn ganon-genhadwr esgobaethol, ac yna, yn 1975, yn archddiacon Cheltenham. Gwnaeth y rolau hyn olygu byw yn y Clos yng Nghaerloyw am bedair ar bymtheg mlynedd; roedd yn hoff iawn o’r eglwys gadeiriol, y ddinas a’r esgobaeth. Pan oedd yno, gwnaeth ei rolau gynnwys bod yn llywodraethwr Coleg Merched Cheltenham, ac yn gaplan i’r Corfflu Hyfforddiant Awyr, i Goleg Addysg Caerloyw ac i Heddlu Swydd Gaerloyw. Yn 1981, daeth yn gadeirydd i’r Cyngor Gofal Eglwysi. Er gwaethaf y bygythiadau o ladrata a fandaliaeth, roedd yn gwrthwynebu’n gryf cadw eglwysi ar glo. Ei gred oedd ‘Our churches are in a sense sacramental. They are an outward and visible sign of God in our presence. People need an awareness of the numinous, and visit churches simply because they are different from other buildings.’ 

Gwnaeth ei benodiad yn ddeon Eglwys Gadeiriol St Paul yn 1988 beri syndod i rai. Y sôn oedd mai  Margaret Thatcher oedd yn gyfrifol am hyn, am nad oedd hi wedi maddau’r gyfundrefn flaenorol am  naws gwasanaeth diolchgarwch Ynysoedd y Falklands a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 1982. Ond nid oedd Cabidwl Eglwys Gadeiriol St Paul yn dîm arbennig o hapus nac unedig. Daeth Evans â doniau bugail a heddychwr. Dywedwyd y daeth heddwch yn ôl yn ystod ei gyfnod yno, a gwelwyd mwy o gariad ac undeb ymhlith y Cabidwl na welodd neb erioed o’r blaen. Roedd ef yn ffodus - daeth tair o’r pedair Canoniaeth yn wag ychydig ar ôl iddo gyrraedd, gan ddod â’r rhan fwyaf o’r absennu drwg-enwog i ben. Dywedwyd hefyd fod arddull fwyn Evans ei hun yn magu cytgord. Er enghraifft, gwnaeth annog aelodau cymuned yr eglwys gadeiriol i fwyta cinio gyda’i gilydd, gan gredu y byddai’r sawl sy’n rhannu pryd yn llai tebygol o gweryla. Byddai’n ceisio cael pawb i gyrraedd consensws yng nghyfarfodydd y Cabidwl, ond yn anaml iawn y bydden nhw’n pleidleisio dros unrhyw beth. Gwnaeth weithio dros warchod ac addasu adeiladwaith y gadeirlan. Yn ariannol, roedd hi bron yn doredig. Yn  1991, gorfodwyd iddi gymryd cam dadleuol a chodi tâl ar ymwelwyr am fynediad, un o’r eglwysi cadeiriol cyntaf i wneud hynny. 

Gwnaeth Evans ymdoddi’n rhwydd i Ddinas Llundain. Yn areithydd ar ôl cinio rhagorol, ac yn Saer Rhydd blaenllaw, roedd Evans yn addas iawn ar gyfer digwyddiadau dinesig a chiniawau lifrai. Penodwyd ef yn gaplan Gild y Rhyddfreinwyr, a phob blwyddyn, byddai’n cynnal y seremoni fer Bendithio’r Arglwydd Faer, sy’n digwydd yn ystod Sioe’r Arglwydd Faer. Yn 1922, gwnaethpwyd ef yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus yr Hybarch Gwmni Garddwyr. Mewn cyferbyniad, byddai’r deondy yn croesawu pawb; dywedwyd bod Linda, gwraig Evans, yn paratoi 200 o gwpanau o de’r wythnos i gardotwyr a fyddai’n cnocio’r drws.  

Roedd Evans yn draddodiadwr Anglo-Gatholig, ac yn gwrthwynebu’n gryf ordeinio menywod. Gwnaeth ddadlau ‘The Church of England should not go it alone on the issue of women priests.’ Ond ni anwadalodd ei ffyddlondeb at Eglwys Loegr. Meddai ‘If we are to keep the Church of England together we need more love and prayer, not to have a go at each other.’ Roedd ei wleidyddiaeth hefyd yn geidwadol, ac roedd yn aelod o’r Carlton Club. Yn enwedig, roedd yn gefnogwr cryf o’r frenhiniaeth, gan ddadlau y dylid parchu ‘the oldest continuing human constitutional organism in the world apart from the papacy’. Yn rhinwedd ei swydd, gwnaeth adeiladu cysylltiadau agos gyda’r Teulu Brenhinol, gan gymryd rhan yn trefnu gwasanaethau cenedlaethol-bwysig, er enghraifft, dathlu hanner canmlwyddiant diwrnod VE. Yn 1996, gwnaethpwyd Evans yn farchog Urdd Frenhinol Fictoria, anrhydedd a ddaeth drwy rodd bersonol y Frenhines.     

Hefyd, yn 1996, gwnaeth salwch orfodi Evans i ymddeol, ddwy flynedd cyn ei oed ymddeol dichonadwy, sef deg a thrigain mlwydd oed. Yn drist, bu farw yn ei gwsg ar Awst 17, chwe wythnos cyn y byddai wedi gorffen gweithio. Meddai Canon Michael Saward ‘For many years he had suffered from arthritis, he’d had a long-standing chest complaint and he had been on an oxygen supply on and off for the last three months.’ Cynhaliwyd angladd Evans yn Eglwys Gadeiriol Caerloyw, a dilynwyd hwn, ddeuddydd wedyn, gan wasanaeth o ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol St Paul. Mewn llythyr personol at ei wraig, ysgrifenodd y Frenhines ‘He will be a great loss to the Church and his many friends.’ 

Ffynonellau 

Evans, Very Rev. (Thomas) Eric, (1 Feb. 1928 – 17 Aug. 1996), Dean of St Paul’s, since 1988. Who’s Who & Who Was Who. Adalwyd ar Chwefror 3 2021 oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-178296?rskey=GIxFge&result=45 

[Hill, C.] (1996, August 30). The Very Revd. Eric Evans. Church Times. Adalwyd ar Chwefror 3 2021 oddi wrth https://www.ukpressonline.co.uk/ukpressonline/view/pagview/ChTm_1996_08_30_004 

The Very Rev. Eric Evans – obituary. (1996, August 19). The Times. Adalwyd ar Chwefror 3 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/0F924A2E22FAF302?p=UKNB 

The Very Rev Eric Evans (1996, August 19). The Daily Telegraph. Adalwyd ar Chwefror 3 2021 oddi wrth https://link.gale.com/apps/doc/IO0701656103/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=f644c40f 

Halliburton, J. (1996, August 19). The Very Rev Eric Evans. The Independent. Adalwyd ar Chwefror 3 2021 oddi wrth https://link.gale.com/apps/doc/FQ4200443031/INDA?u=nlw_ttda&sid=INDA&xid=660c06cd 

Longley, C. & Gledhill, R. (1989, October 3). Women priest issue casts shadow over Rome unity – Anglican and Roman Catholic churches. The Times. Adalwyd ar Chwefror 3 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/0F91035A0ACC2904?p=UKNB 

Hidalgo, L. (1993, May 10). Bishop says Anglican rebels are faithless. The Times. Adalwyd ar Chwefror 3 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/0F91FB04B2EB75B6?p=UKNB 

Smith, G. (1996, August 25). Three good men and true. Sunday Times. Adalwyd ar Chwefror 3 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/0F92A0BA0139303C?p=UKNB 

Dean of St Paul’s dies. (1996, August 18). Independent on Sunday. Adalwyd ar Chwefror 4 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/131FFEED792B3548?p=UKNB 

Knowsley, J. (1996, August 18). Queen’s tribute as Dean Evans dies. Sunday Telegraph. Adalwyd ar Chwefror 4 2021 oddi wrth https://link.gale.com/apps/doc/IO0700767562/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=33d2a703