Roedd Isaac Jones (1804-1850) yn gyfieithydd gweithiau Saesneg i’r Gymraeg, ac roedd yn gweithio ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg yn unig.

Brodor o Geredigion oedd Jones. Ganwyd ef ar 2 Mai 1804 yn Llanychaearn ger Aberystwyth. Gwehydd oedd ei dad ac ef oedd ei athro cyntaf; dywedir ei fod yn gwybod rhywfaint o Ladin yn saith oed. Ar ôl hynny, aeth i’r ysgol yn ei blwyf ac yna i’r ysgol ramadeg yn Aberystwyth. Daeth yn gynorthwyydd yn ei ysgol hŷn ac yn brifathro yno yn 1828. Ar yr adeg hon, roedd cynifer â 100–120 o ddisgyblion yn yr ysgol. Dywedir bod Jones yn fyr iawn, ond dros ei bwysau. O ganlyniad fe’i gelwid yn ‘Isaac Dew.’  

Roedd Jones yn aelod cynnar o Goleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan. Aeth i’r coleg yn 1834; etholwyd ef yn ysgolhaig Eldon Hebraeg yno’r flwyddyn ganlynol. Fe’i ordeiniwyd yn ddiacon ym mid Medi 1836 ac yn offeiriad ym mis Medi 1837. Roedd ei ddwy guradiaeth gyntaf yn ardal Aberystwyth – Llanfihangel Genau’r-glyn ac yna Capel Bangor. Tra yn Llanfihangel, roedd hefyd yn brifathro’r ysgol ramadeg yn y pentref. Ym mis Chwefror 1840, symudodd Jones i Ynys Môn i ddod yn gurad Llanedwen a Llanddeiniol-fab. Bu yno hyd ei farwolaeth gynamserol.  

Roedd Jones yn ysgolhaig, gramadegydd a chyfieithydd Cymraeg rhagorol. Gan weithio gydag Owain Williams o Waunfawr, bu’n gyd-olygydd y gwyddoniadur Cymraeg cynnar, Y geirlyfr Cymraeg. (Er y gwnaed ymdrechion blaenorol i lunio gwyddoniadur Cymraeg yn 1721 ac 1795, hon oedd yr ymdrech lwyddiannus gyntaf i gynhyrchu gwyddoniadur cyffredinol Cymraeg.) Cyhoeddwyd Y geirlyfr Cymraeg mewn 45 o rannau; ymddangosodd y cyntaf yn 1830 a’r olaf yn 1835. Cyhoeddwyd y gwaith cyflawn mewn dwy gyfrol, wedi’u rhwymo’n un fel arfer. Ysgrifennodd Jones yr ail gyfrol gyfan. Daeth yn adnabyddus iawn ac roedd yn eitem gwerthfawr yng nghartrefi’r Cymry.  

Golygodd Jones ail gyfrol Testament Newydd William Salesbury; cyhoeddwyd hwn yng Nghaernarfon yn 1850, ychydig cyn ei farwolaeth. Roedd y gweithiau a gyfieithodd i’r Gymraeg yn cynnwys Dictionary of the Bible gan Gurney (1835) a Commentary on the New Testament gan Adam Clark (1847). Bu Jones hefyd yn cynorthwyo’r Parchedig E. Griffiths o Abertawe i gyfieithu Exposition gan Matthew Henry. Jones oedd awdur y gyfrol Gramadeg Cymreig (1832, 1841) a sawl pamffled a thraethawd. 

Ni phriododd Jones erioed. Bu farw yn Llanidan, ar Ynys Môn ar 2 Rhagfyr 1850. Fe’i claddwyd ym mynwent Llanidan.  

Ffynonellau 

Thomas, D., a Millward, E. (2004, Medi 23). Jones, Isaac (1804–1850), translator . Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd ar 5 Mehefin. 2020, o https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-15018. 

Ellis, T. I., (1959). JONES, ISAAC (1804 - 1850), clerigwr a chyfieithydd. Dictionary of Welsh Biography. Cyrchwyd ar 5 Mehefin 2020, o https://biography.wales/article/s-JONE-ISA-1804 

Samuel, D. (1894). The history of the grammar school (continued). The Aberystwyth Grammar School magazine. 4(2),17-21. Cyrchwyd o https://journals.library.wales/view/2520560/2520754/2#?xywh=-1536%2C-2%2C5754%2C3521 

Davies, J.I. (1984). The history of printing in Montgomeryshire, 1789-1960. Montgomeryshire collections relating to Montgomeryshire and its borders. 72,37-44. Adalwyd o https://journals.library.wales/view/1264487/1269493/38#?xywh=-1725%2C-28%2C6467%2C3957