Gweithiodd John Fisher (1862-1930) gyda'r mwy enwog Parch. Sabine Baring Gould ar y gwaith clasurol, Lives of the British saints.
Un o Landybïe, ger Rhydaman oedd Fisher; ef oedd mab hynaf Edward a Mary Fisher. Mynychodd ysgol genedlaethol, Llandeilo-Talybont (Pontarddulais), cyn symud ymlaen i Ysgol Llanymddyfri. Yna, roedd yn ysgolhaig, arddangoswr ac enillydd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Graddiodd gyda gradd ail ddosbarth BA mewn Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth yn 1884, a BD yn 1891. Cafodd ei ordeinio'n ddiacon yn 1885 ac yn weinidog yn 1886. Bu’n gyfrifol am dair curadiaeth yn esgobaeth Llanelwy, ym Mhontblyddyn, Llanllwchaearn, a Rhuthun. Yn 1901, fe’i penodwyd yn rheithor dros Cefn, tua phum milltir i'r dwyrain o Langollen.
Yn yr un flwyddyn, daeth Fisher hefyd yn llyfrgellydd yr eglwys gadeiriol dros Lanelwy. Yno y lluniodd gatalog llawysgrifol o'r casgliad. Gwnaed yn ganon ac yn sacristan yn 1916 ac yn ganghellor ar yr eglwys gadeiriol yn 1927. Yn 1921, cafodd ei benodi yn gaplan arholi'r Gymraeg i'r Archesgob Alfred George Edwards. Yn y rôl hon, byddai wedi bod yn gyfrifol am arholi ymgeiswyr ar gyfer eu hordeinio ac yn cynghori Edwards ynghylch eu haddasrwydd. Rhwng 1905 a 1909, roedd yn arholwr y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant. Roedd yn aelod o gorff llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru o 1917 ymlaen.
Roedd Fisher hefyd yn weithredol fel hanesydd lleol a hynafiaethydd. Ymunodd â Chymdeithas Archaeolegol Cambria yn 1899 a golygodd Archaeologia Cambrensis o 1917 hyd at 1925. Roedd yn ysgrifennydd cyffredinol y Gymdeithas rhwng 1914 a 1917 ac yn is-lywydd o 1925 ymlaen. Ysgrifennodd Fisher nifer sylweddol o erthyglau ar gyfer Archaeologia Cambrensis. Roedd y rhain yn cynnwys ‘Some place-names in the locality of St Asaph’ (6ed cyfres, c. 14, 1914); ‘Wales in the time of Queen Elizabeth’ (6ed cyfres, c. 15, 1915) a ‘Bardsey Island and its saints’ (7fed cyfres, c. 6, 1926).
Yn 1899, golygodd Fisher y llawysgrifau Cefn Coch, dwy lawysgrif bron â bod yn llawn o farddoniaeth, yn bennaf gan lenorion o ogledd Cymru. Fodd bynnag, ei brif waith llenyddol, a ysgrifennwyd ar y cyd â Sabine Baring Gould, oedd The lives of the British saints. Mae'r isdeitl yn diffinio cwmpas y gwaith: The saints of Wales and Cornwall and such Irish saints as have dedications in Britain. Casglodd y ddau awdur y traddodiadau a oedd yn gysylltiedig â'r seintiau cynnar, gan gynhyrchu trysor cudd o ffeithiau a storiau. Fodd bynnag, roedd Baring Gould a Fisher weithiau yn anfeirniadol o'u ffynonellau, ac yn tueddu i gyfuno seintiau anghysylltiedig ag enwau tebyg. Cafodd y chwe chyfrol yr ysgrifennwyd ganddynt eu cyhoeddi o dan nawdd yr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion rhwng 1907 a 1913. Er gwaethaf eu cyfyngiadau, nid ydynt wedi’u disodli gan ffynhonnell debyg hyd yma. Mae'r gwaith wedi’i ymgyflwyno i bedwar ysgolhaig blaenorol a oedd wedi gweithio yn yr un maes; un ohonynt yw Rice Rees, athro cyntaf y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant.
Aeth Fisher ymlaen i olygu detholiad o gyfnodolion a nodiadau taith yr oedd Richard Fenton (1747-1821), yr ysgrifennydd topograffig Cymreig, wedi’u gadael mewn llawysgrif. Cyhoeddodd Cymdeithas Archaeolegol Cambria y gwaith fel Tours in Wales (1804-1813). Golygodd Fisher Allwydd Paradws gan John Hughes hefyd. Ei waith olaf oedd argraffiad o gyfieithiad William Salesbury o'r efengylau a'r epistolau, Kynniver llith a Ban. Roedd y gwaith hwn yn y wasg pan fu farw Fisher.
Etholwyd Fisher yn Gymrawd y Gymdeithas Hynafiaethau yn 1918 a derbyniodd radd D.Litt. anrhydeddus gan Brifysgol Cymru yn 1920. Roedd yn aelod o'r Comisiwn Henebion (Cymru) ac o lys a chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cynrychiolodd Gymdeithas Archaeolegol Cambria ar lys Llywodraethwyr Prifysgol Cymru ac ar ei Bwrdd Astudiaethau Celtaidd.
Mynychodd Fisher gyfarfod pwyllgor i Gymdeithas Archaeolegol Cambria yn Amwythig ar 9 Mai 1930. Bu farw yn sydyn iawn yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, yn nhŷ ei frawd, y Rheithordy, Pontfadog. Claddwyd Fisher ym mynwent eglwys gadeiriol Llanelwy.
Ffynonellau
Davies, E., (1959). Fisher, John (1862 - 1930), ysgolhaig Cymreig. Y Bywgraffiadur Cymraeg. Cyrchwyd ar 5 Mehefin 2020, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-FISH-JOH-1862
Y Parch. Ganghellor John Fisher, B.D., D.Litt., F.S.A. (1930). Archaeologia Cambrensis, 1900 Journal of the Cambrian Archaeological Association. 85, 225-226. Cyrchwyd o https://journals.library.wales/view/4718179/4734246/264#?xywh=-1711%2C-273%2C6439%2C3941
Price, D.T.W. (1977). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Gwasg Prifysgol Cymru
Seintiau. The saints.(dd.) Cyrchwyd ar 12 Mai, 2020, o http://welshsaints.ac.uk/the-saints/