John Herbert Williams (1919-2003) oedd y caplan carchar yn gyfrifol am ofal bugeiliol Ruth Ellis, y fenyw ddiwethaf i gael ei chrogi ym Mhrydain.
Daeth Williams o Bentwyn-mawr, naw milltir i’r gogledd-ddwyrain o Gaerffili. Ei rieni oedd Thomas a Mary Williams. Mynychodd yr ysgol ramadeg leol ac yna, aeth i Goleg Dewi Sant, Llambed, i astudio Saesneg. Wedyn, aeth i Goleg Diwinyddol Caersallog (Salisbury) er mwyn paratoi ar gyfer bod yn offeiriad. Ordeiniwyd ef yn 1943 gan Esgob Trefynwy, a gweithiodd fel curad ym Mlaenafon, Sir Fynwy, ac yna, yn Llanisien, Caerdydd. Yn 1948, daeth yn benoffeiriad Y Tŷ Du (Rogerstone), ym maestrefi Casnewydd. Hefyd, yn 1948, priododd ef Joan Elizabeth Morgan; cawsant un mab.
Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd, gwnaeth Williams ymgymryd â pheth gwaith bugeiliol yn y carchar lleol. Yn 1948, daeth yn gaplan carchar amser llawn, yn gweithio ar y cychwyn fel caplan cynorthwyol yng Ngharchar Strangeways, ym Manceinion. Roedd dyletswyddau caplaniaid bryd hynny, fel maent heddiw, wedi’u rhagnodi gan y gyfraith. Rhaid i gaplaniaid ymweld ag unrhyw garcharorion sydd newydd gael eu derbyn o fewn pedair ar hugain awr, ymweld â phob carcharor a gaiff ei gadw ar wahân neu sydd yn ysbyty’r carchar, a chynnal gwasanaethau crefyddol. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn gwaith bugeiliol ehangach, er enghraifft cefnogi carcharorion a staff yn ystod adegau sydd yn arbennig o anodd. Bryd hynny, byddai caplaniaid carchar ym Mhrydain hefyd yn gyfrifol am ofalu am garcharorion a oedd yn aros i gael eu crogi. Adroddwyd gan un o ragflaenyddion Williams yn Strangeways, Joseph Walker, ei fod ef wedi mynychu dienyddiadau pum dyn ac un fenyw.
Llun: Carchar Strangeways
Ar ôl Strangeways, treuliodd Williams saith mlynedd yn Llundain yn gweithio yng Ngharchar Menywod Holloway. Ac yno, gwnaeth ef gefnogi Ruth Ellis, croesawferch clwb nos a gafodd y ddedfryd marwolaeth am lofruddio ei chyn-bartner, David Blakely. Gwnaeth Williams ofalu amdani ar ddiwrnod ei dienyddiad. Daeth treial Ellis yn achos enwog. Nid dim ond oherwydd mai hi oedd y fenyw ddiwethaf i gael ei chrogi ym Mhrydain oedd y rheswm am hyn, ond roedd y gwrthdro yn erbyn ei chosb yn un o’r sbardunau a wnaeth arwain at gyflwyno ac ymgorffori’r amddiffyniad o ‘gyfrifoldeb lleihaëdig’ yn Neddf Dynladdiad 1957.
Yn dilyn ei gyfnod yn Holloway, gwnaeth Williams weithio am ddau gyfnod o saith mlynedd yr un yng Ngharchar Birmingham ac yn Wormwood Scrubs, gorllewin Llundain. Yn y ‘Scrubs’, llwyddodd berswadio Syr David Willcocks i ddod a’i gôr ‘the Bach Choir’ i ganu bob Nadolig. Daeth hwn yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr blynyddol y carchar, gan barhau am fwy na phum mlynedd ar hugain. Meddai coflith Williams yn The Daily Telegraph, ‘In each of these demanding spheres he displayed the qualities of a priest of an older school, whose pastoral work was steeped in prayer and whose espousal of traditional values was tempered by a deep compassion.’
Yn 1971, penodwyd Williams yn Gaplan Rhanbarthol Y Gwasanaeth Carchardai ar gyfer y De-ddwyrain. Gwnaeth hyn olygu mai ef oedd yn gyfrifol am oruchwylio caplaniaid y rhanbarth; gwnaeth ei ddoethineb a’i brofiad brofi o werth mawr i lywodraethwyr carchardai, yn ogystal ag i gaplaniaid. Yn 1974, symudodd i’r Swyddfa Gartref fel Dirprwy Brif Gaplan. Roedd ei ddylanwad bellach yn ymestyn i lunio polisïau, recriwtio a hyfforddi.
Mewn cyferbyniad llwyr, bu Williams yn Offeiriad Sefydlog i’r Frenhines am dair blynedd, ochr yn ochr â’i rôl yn y Swyddfa gartref. Yn rhinwedd y swydd honno, gwnaeth gynorthwyo mewn gwasanaethau a gynhaliwyd yn y Capel Brenhinol yn St James’s. Ar ôl iddo ymddeol o’r Gwasanaeth Carchardai yn 1983, daeth yn gaplan yr Urdd Fictoraidd Frenhinol ac yn gaplan Capel Savoy’r Frenhines, cartref yr Urdd honno. Ar ymddeol am y tro diwethaf yn 1989, rhoddwyd iddo’r anrhydedd o gael ei urddo’n LVO, (Is-gapten yr Urdd Fictoraidd Frenhinol).
Bu farw Williams yn Ealing ar Ragfyr 26ain 2003.
Ffynonellau
Williams, Rev. John Herbert, (15 Aug. 1919–16 Dec. 2003), Chaplain to the Royal Victorian Order and Chaplain of the Queen’s Chapel of the Savoy, 1983–89; Chaplain to the Queen, 1988–89. Who’s Who & Who Was Who. Adalwyd ar Dachwedd 5 2020, oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-40003
The Daily Telegraph: Obituary of The Reverend John Williams: Prison chaplain for 35 years who ministered to Ruth Ellis and later to the Queen and the Royal Victorian Order. (2003, December 24). Daily Telegraph. Adalwyd ar Dachwedd 5 2020, oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/news/document-view?p=UKNB&docref=news/0FFA6E25ACFBEBC6.
Phillips, P. (2016, September 6). The statutory presence of the Church of England in prisons should give it a voice on issues of imprisonment, but it remains largely silent [Blog post]. Adalwyd ar Dachwedd 5 2020, oddi wrth http://eprints.lse.ac.uk/76474/
Psychiatrist tells of visit to condemned cell execution of women : Chaplain's protest: Execution of women : Chaplain's protest. (1950, May 06). The Manchester Guardian. Adalwyd ar Dachwedd 5 2020, oddi wrth https://search.proquest.com/docview/479051038?accountid=12799
Dunn, J. (2008, January 03). Ellis [née Neilson], Ruth (1926–1955), nightclub hostess and convicted murderer. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar Dachwedd 5 2020, oddi wrth https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-56716.