Y Parchedig John Roberts (1853-1949) "Rwy'n gobeithio na fyddwch chi'n fy nhynnu oddi wrth fy Indiaid."

Ganwyd John Roberts yn Fferm Llewerllyd, Dyserth, ar 31 Mawrth 1853, i Robert ac Elinor. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Rhuthun ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (a oedd yn gysylltiedig â Phrifysgol Rhydychen ar y pryd). Graddiodd gyda BA ac ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1878 yn Eglwys Gadeiriol Caerlwytgoed (Lichfield) gan y Parchedig George Augustus Selwyn. Gwasanaethodd fel curad am gyfnod byr yn Dawley Magna yn Swydd Amwythig ond gadawodd yn ddiweddarach y flwyddyn honno am Ynysoedd Bahama.  

Ordeiniwyd Roberts yn offeiriad gan y Gwir Barchedig Francis Cramer Roberts yn Nassau, daeth yn gaplan Eglwys Gadeiriol Sant Matthew, a bu'n weinidog i'r trefedigaethau gwahanglwyfus. Yn ystod yr amser hwn, cyfarfu ag organydd yr eglwys gadeiriol, Laura Alice Brown, a ddaeth yn wraig iddo yn ddiweddarach. 

St Matthew's cathedral, Nassau

Llun: Eglwys gadeiriol Sant Matthew yn Nassau heddiw (https://commons.wikimedia.org/wiki/File:ST._MATTHEW%27S_CHURCH,_NASSAU,_BAHAMAS.jpg) JERRYE AND ROY KLOTZ MD / CC BY-SA (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/deed.en)

Er bod y gwaith hwn yn galed, nid oedd yn fodlon. Roedd pobl yr ynysoedd yn Gristnogion gan mwyaf, ac roedd Roberts eisiau bod yn rhywle lle nad oedd unrhyw gredinwyr. Yn 1880, teithiodd Roberts i Efrog Newydd a gwneud cais am ei ddewis cyntaf o waith offeiriadol: bod yn weinidog i Frodorion America. Tra yn Efrog Newydd, cyfarfu â'r Esgob John Franklin Spalding (1828-1902), Esgob cenhadol Wyoming a Colorado. Dywedodd Roberts wrth Spalding fod ganddo un dymuniad yn unig – “gwneud gwaith cenhadol yn eich maes mwyaf anodd”. 

Anfonodd yr Esgob Spalding Roberts yn gyntaf i Greeley, Colorado; yna i Pueblo i fod yn weinidog ar löwyr ac ennill rhywfaint o brofiad ymarferol. Daeth yn Rheithor Eglwys y Drindod, Pueblo, a sefydlodd Genhadaeth y Drindod yn Ne Pueblo yn 1882; lle bu'n cynorthwyo i weithio yn yr ysbyty yn ystod epidemig y frech wen.  

Ym mis Chwefror 1883, rhyddhaodd Spalding ef i wasanaethu yn rhagorsaf Fort Washakie, lle’r oedd Asiantaeth Indiaidd Shoshone a Bannock ar Diriogaeth Neulltiedig Indiaidd Shoshone (a elwid yn ddiweddarach yn Wind River Indian Reservation). Roedd taith Roberts yno yn un gofiadwy. Aeth ar y trên i Green Rivera theithiodd y 150 milltir olaf mewn coets fawr. Gwnaeth y daith hon yng nghanol storm eira, pan oedd y tymheredd bron yn 60 gradd yn is na sero. Fe wnaeth taith a ddylai fod wedi cymryd 36 awr gymryd wyth diwrnod, ond o'r diwedd, fe gyrhaeddodd ei gartref newydd ar 10 Chwefror 1883. 

Yn fuan ar ôl cyrraedd, ysgrifennodd Roberts lythyr at Laura Brown yn dweud na ddylai ei i ddilyn i Wyoming ar unrhyw gyfrif. Gan ei bod hi’n hannu o deulu cyfoethog yn Nassau ac wedi arfer â gweision a thiwtoriaid preifat, roedd yn argyhoeddedig na fyddai hi’n goroesi’r gaeafau caled iawn a’r amodau byw cyntefig. Ysgrifennodd hithau’n ôl ato gan ddweud ei bod hi am ddod - ac y dylai gwrdd â hi yno! Yn 19 oed, a heb weld ei gilydd ers tair blynedd, teithiodd Brown dros 5,000 milltir gan gyrraedd fore Dydd Nadolig 1884. Gwnaethant briodi y prynhawn hwnnw, a’r seremoni honno oedd y briodas gyntaf i’w chynnal yn Eglwys Esgobol newydd Sant Thomas.  

Roedd y ddau lwyth o Americanwyr Brodorol a oedd yn byw yn y diriogaeth neulltuedig lle roedd Roberts yn gwasanaethu yn dlawd ac yn byw bywyd syml. Indiaid y Mynydd oedd y Shoshones, ac roedd yr Arapahoe, a oedd yn byw tua 20 milltir o Fort Washakie, yn Indiaid y Paith. Nid oedd y naill na'r llall yn gyfeillgar â’i gilydd.  

Yn raddol enillodd Roberts eu hymddiriedaeth, gan ddysgu ieithoedd y Shoshone a’r Arapahoe a chofnodi eu geirfa. Yn wahanol i lawer o genhadon eraill, roedd Roberts yn parchu'r bobl ac yn eu hannog i gadw eu diwylliant brodorol; ar yr un pryd, gwnaeth eu helpu i addasu i'r byd a oedd yn datblygu o'u cwmpas. Roedd y parch hwnnw yn amlwg yn ei fywyd personol – cafodd ei blant a wnaeth oroesi - Eleanor, Gwen, Marion, Gladys ac Edward (bu farw ei fab cyntafanedig yn fuan ar ôl ei eni) – eu magu yn y diriogaeth neilltuedig , roeddent yn rhugl yn yr ieithoedd brodorol a gwnaethant dderbyn eu haddysg ochr yn ochr â phlant y brodorion. 

Ym mis Ebrill 1884, cafodd Roberts yr anrhydedd o weinyddu yn angladd Sacajawea, y cyfieithydd a’r arweinydd enwog ar gyfer Alldaith Lewis a Clark yn 1803-1806. Yn 1887, rhoddodd pennaeth y llwyth, y Pennaeth Washakie, 160 erw o dir i Roberts i adeiladu ysgol a thŷ cenhadol. Aeth Roberts ati i godi arian ar gyfer y gwaith, a dysgwyd y bechgyn sut i wneud dodrefn ar gyfer yr adeiladau newydd. Cwblhawyd y gwaith yn 1890,ac roedd y tŷ yn ddigon mawr i alluogi merched Shoshone ac Arapahoe aros yno'n ddiogel. Gwasanaethodd Ysgol Genhadol Esgobol Shoshone ei chymuned tan 1945. Roedd yr ysgol yn gofeb hanesyddol annwyl yn Wyoming, ond yn anffodus cafodd ei dinistrio mewn tân yn 2016.  

Bu farw'r Pennaeth Washakie yn 1900, a gweinyddodd Roberts yn yr angladd. Roedd yn gyfnod o alar a llawenydd gan fod Washakie wedi cael troëdigaeth at Gristnogaeth dair blynedd ynghynt yn 97 oed ac wedi bod yn gwbl gefnogol i waith Roberts yn ystod ei flynyddoedd olaf.  

Yn ychwanegol at ei wasanaeth ymhlith Brodorion America, trefnodd Roberts gynulleidfaoedd yn Lander, Dubois, Crowheart, Riverton, Thermopolis, Milford, Hudson a Shoshoni. Mae pob un ond y tri olaf yn dal i fod yn weithredol. 

Cafodd John Roberts ei anrhydeddu am ei weinidogaeth arloesol a’i ymdrechion diflino wrth ddysgu a deall ‘ei’ Americanwyr Brodorol. Yn 1932, dyfarnwyd Doethuriaeth y Gyfraith iddo yn Wyoming, a Doethuriaeth Diwinyddiaeth yn Evanston, Illinois. Yn 1933, cyflwynwyd baner Wyoming i gôr mawr yr Eglwys Gadeiriol Genedlaethol yn Washington er anrhydedd i'r Parchedig a Mrs. Roberts. Neilltuwyd dydd gŵyl ar ei gyfer hefyd yng nghalendr litwrgaidd yr Eglwys Esgobol (UDA) ar 25 Chwefror. 

Bu Roberts yn weinidog yn Wyoming am 66 mlynedd. Bu farw ar 22 Ionawr 1949, a chladdwyd ef ym Mynwent Mount Hope yn Lander. Ar ôl iddo farw, casglodd a chofnododd ei ferch, Eleanor, gyfnodolion a phregethau ei thad. Y rhain oedd y sail ar gyfer llyfr am fywyd Roberts o'r enw Walk Softly, This is God’s Country, a gyhoeddwyd yn 1997. 

Ffynonellau: 

Allagree, H. (2011, 25 Chwefror). The Rev. John Roberts (1853—1949). The Good Heart. Cyrchwyd o http://thegoodheart.blogspot.com/2011/02/rev-john-roberts-1853-1949.html  

Anderson, L. (2016, 23 Mawrth). Ysgol Genhadol Esgobol Shoshone Alliance for Historic Wyoming. Cyrchwyd o https://www.historicwyoming.org/profiles/shoshone-episcopal-mission  

Crofts, B., Markley, E., a Roberts, J. (1997). Walk Softly, This Is God’s Country: 1883-1949 Among Shoshone and Arapaho Indians/Wind River Reservation. Mortimore Pub. 

John, H. (2009). Dyserth—John Roberts. A Welshman Amongst the Indians in Wyoming.  Cyrchwyd o https://www.dyserth.com/johnroberts.html  

 Murphy, W. (2014, 8 Tachwedd). The Reverend John Roberts, Missionary to the Eastern Shoshone And Northern Arapaho Tribes. Cyrchwyd o