Reverend John Silas Evans

Roedd John Silas Evans (1864-1953) yn awdur llyfrau poblogaidd Saesneg a Chymraeg ar seryddiaeth, yn ogystal â bod yn offeiriad.

Roedd Evans yn ddyn lleol; ganwyd ym Mhencarreg ar Fawrth 11 1864. Enw ei dad oedd Evan Evans. Mynychodd John Silas Evans ysgol Alcwyn C. Evans yng Nghaerfyrddin, ac yna, yr hen ysgol ramadeg yn Llambed. Dyfarnwyd iddo’r ysgoloriaethau Phillips a Treharne i Goleg Dewi Sant. Graddiodd yn 1885, wedi ennill y gwobrau Cymraeg a Gwyddoniaeth. Am y flwyddyn nesaf, addysgodd mewn coleg yng Nghofentri. Ar ôl hynny, cafodd ei ordeinio’n ddiacon yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn 1887, ac yn offeiriad yn 1888. Roedd gan Evans hanes eithriadol; dywedwyd ei fod yn gallu cynnal gwasanaethau bron yn unig oddi ar ei gof.  

Swydd glerigol gyntaf Evans oedd fel curad, yn Niserth, Sir Ddinbych, o 1887 tan 1890. Yn dilyn hyn, bu’n gurad yn Rhos-ddu, ger Wrecsam, o 1890 tan 1895, yn ficer Llanelwy ac yn ficer corawl yr eglwys gadeiriol o 1895 tan 1901, ac yn ficer Cyffylliog, a leolir i’r gorllewin o Ruthun, o 1901 tan 1909. Ei swydd olaf oedd ficer Llanrhaeadr-ym-mochnant gyda Llanarmon Mynydd Mawr (o 1909 tan 1938). Lleolir Llanrhaeadr-ym-mochnant ym mynyddoedd y Berwyn, rhwng y Bala a Chroesoswallt. Clerigwr blaenorol enwocaf yr eglwys oedd William Morgan, a wnaeth gyfieithu, am y tro cyntaf, y Beibl i’r Gymraeg. Daeth Evans yn ganon Llanelwy yn 1928. 

Roedd Evans yn seryddwr brwdfrydig, a byddai’n arfer defnyddio telesgop pedair modfedd a wnaed gan Tulley. Cyflwynodd ei lawysgrif iaith Gymraeg am seryddiaeth i gystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol 1920 ar gyfer gwaith gwreiddiol newydd. Ond er i’r beirniaid ganmol ei gyfraniad, nid oedd y gwaith yn eu barn nhw yn addas ar gyfer y gystadleuaeth belles lettres. Felly, ni chafodd ei ystyried ar gyfer y wobr. Am hynny, cyhoeddodd Evans ei waith ar ffurf llyfr,  Seryddiaeth a Seryddwyr, yn 1923. Mae’r gwaith hwn wedi’i rannu’n ddwy; caiff y rhan gyntaf, sy’n ymwneud â seryddiaeth ei hun, ei dilyn gan fywgraffiadau byrion ar y seryddwyr mawr. Mae’r llyfr yn gorffen gyda phennod ar seryddiaeth yng Nghymru. Gwnaeth adolygiad yn yr Archaeologia Cambrensis ei ddisgrifio fel y gwaith pwysig cyntaf ar seryddiaeth yn yr iaith Gymraeg.  Gwnaeth Evans ei hun fathu llawer o’r termau technegol a ddefnyddiwyd ynddo.  

Dilynodd Evans Seryddiaeth a Seryddwyr gyda llyfr iaith Saesneg ar seryddiaeth boblogaidd, sef Marvels of the sky, (cyhoeddwyd gan A.H. Stockwell, 1931). Gwnaeth gyflwyno  Marvels of the sky i ‘fy nghymar cyson a ffyddlon, fy hen delesgop plygiannol.’  

Hefyd, yn 1931, cyhoeddodd Ad astra, casgliad o wyth pregeth yn ymwneud â’r berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd. Yn y rhagymadrodd, gwnaeth Evans ddisgrifio’r eitemau cydrannol fel ‘cyfres fer o bregethau neu anerchiadau, seryddol eu cynnwys, ar agwedd grefyddol y wyddor honno.’ Yn y sgwrs gyntaf, o’r enw ‘In the beginning, God’, gwnaeth drafod nifer o bwyntiau dadleuol, gan gynnwys goblygiadau amcangyfrifon gwyddonol ynglŷn ag oed y ddaear ar gyfer stori’r greadigaeth yn Llyfr Genesis. Gwnaeth y chweched bregeth, ‘Are the planets inhabited?’ ystyried  posibilrwydd bodolaeth pethau byw estron a chanddynt ffurf wahanol. Gwnaeth y seithfed anerchiad,  ‘Which was the star of Bethlehem?’, archwilio sail wyddonol y seren enwog honno, yn ogystal â’i hystyr ysbrydol ehangach.  

Ym mis Tachwedd 1923, etholwyd Evans yn gymrawd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol; parhaodd i fod yn aelod tan fis Rhagfyr 1932. Cymaint oedd ei frwdfrydedd dros seryddiaeth, cafodd Evans nenfwd corff eglwys Llanrhaeadr-ym-mochnant ei baentio â sêr a phlanedau yn erbyn cefndir glas.  

Church pews at St Asaphs

Llun: Eglwys St Dogfan, Llanrhaeadr-ym-mochnant, lle’r oedd Evans yn ficer 

Roedd diddordebau eraill Evans yn cynnwys llên gwerin a hanes lleol. Ysgrifennodd am ei blwyf, Hanes Llanrhaeadr ym Mochnant; a chafodd hwn ei gyhoeddi yn 1940. Disgrifiodd dirnodau lleol, gan gynnwys Pistyll Rhaeadr a nifer o feini hirion a chrugiau. Adroddodd am hanes hynafol yr ardal, ei bywyd crefyddol a’i llên gwerin. Ysgrifennodd hefyd am y tu mewn i’w eglwys, St Dogfan, a’i ddisgrifio’n ‘hen iawn, ond yn naturiol, wedi’i adfer llawer o weithiau.’ 

Ar ymddeol yn 1938, symudodd Evans i Aberystwyth er mwyn gallu cyrraedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hawdd. Gwnaeth enwi ei gartref newydd Ad astra. Ymhen hir a hwyr, dychwelodd adref i Bencarreg ac ysgrifennodd hanes lleol y plwyf hwnnw. Yno, y bu farw ar Ebrill 19 1953, ac fe gladdwyd ym mynwent yr eglwys.  

Ffynonellau 

Ellis, M. G., (2001). Evans, John Silas (1864 - 1953), priest and astronomer. Dictionary of Welsh Biography. Adalwyd ar Fehefin 5 2020, oddi wrth https://biography.wales/article/s2-EVAN-SIL-1864 

Jones, B. (2011). Canon J. Silas Evans (1864-1953)Adalwyd ar Fai 7 2020, oddi wrth http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/people/jsevans/p_jsevans.html 

Seryddiaeth a Seryddwyr. Gan y Parch J. Silas Evans. (1924). Archaeologia Cambrensis, 1900 Journal of the Cambrian Archaeological Association. 7th series 4,226-227. Adalwyd oddi wrth https://journals.library.wales/view/4718179/4731052/262#?cv=262&m=29&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4718179%2Fmanifest.json&xywh=-1121%2C-170%2C4396%2C3384  

John Silas Evans. (2020, April 19). In Wikipedia. https://en.wikipedia.org/wiki/John_Silas_Evans