Roedd John Washington-Jones (1887-1974) yn glerigwr Anglicanaidd, a oedd yn gweithio fel ficer gyda’r gwladfawyr Cymreig ym Mhatagonia.

Roedd Washington-Jones yn ddyn lleol; cafodd ei eni ym Mhencarreg, pedair milltir yn unig i'r de-orllewin o Lanbedr Pont Steffan. Ei rieni oedd Rachel a Thomas, a oedd yn ffermwr. Cafodd ei dderbyn i Goleg Dewi Sant yn 1909; er mwyn helpu ei sefyllfa ariannol gweithiodd fel cynorthwyydd deintyddol hefyd! Graddiodd Washington-Jones yn 1912; aeth ei fab Richard a'i ŵyr Niall hefyd ymlaen i raddio o Lanbedr Pont Steffan, gan wisgo'r un cwcwll.  

Cafodd Washington-Jones ei drwyddedu yn guradur yn 1913; roedd ei swydd gyntaf yn Llantrisant. Yn 1915 priododd Myfanwy Jones yn Eglwys Sant Illtud, Pen-bre. Erbyn hyn, roedd yn gweithio fel curadur yn eglwys Sant Iago, Blaenafon.  

Fodd bynnag, yn 1919, hwyliodd John, Myfanwy a'u mab ifanc Richard am yr Ariannin. Treuliodd y saith mlynedd nesaf fel ficer gyda’r gwladfawyr Cymreig yn Nyffryn Camwy Isaf, Patagonia, wedi'i noddi gan Gymdeithas Cenhadon De America. Cafodd y dyffryn ei wladychu gan allfudwyr Cymreig yn gyntaf ychydig dros hanner canrif ynghynt. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd eu niferoedd wedi codi i 4,000 o bobl.  

Daeth yr allfudo o Gymru i Ddyffryn Camwy i ben fwy neu lai ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Cyrhaeddodd y grŵp olaf o 120 o wladfawyr yn 1911. Fodd bynnag, cafodd y rhan fwyaf o’r clerigwyr Cymraeg a oedd yn gweithio ym Mhatagonia eu hanfon o'r famwlad. Roedd eu mewnbwn yn hanfodol wrth gyflwyno syniadau newydd i'r cymunedau a oedd mewn trafferthion. Gweinidogion crefyddol oedd y rhan fwyaf o’r bobl a oedd yn hyrwyddo’r diwylliant Cymreig er bod eu hamser ym Mhatagonia yn gymharol fyr yn aml.  

Roedd pobl yr eglwys mewn lleiafrif bach ymysg y gwladfawyr, ond nid oedd y tensiwn rhwng pobl yr eglwys a phobl y capel yn bodoli i’r un graddau ag yng Nghymru. Roedd Washington-Jones yn byw yn Nhrelew, tref canolig ei maint a sefydlwyd gan y gwladfawyr Cymreig yn 1871. Roedd pwysigrwydd y wladfa wedi cynyddu yn sgil adeiladu'r rheilffordd i Borth Madryn (Puerto Madryn) yn 1889, gan ei gwneud yn haws allforio cynnyrch amaethyddol. Roedd Washington-Jones yn gwasanaethu dwy eglwys 20 milltir oddi wrth ei gilydd , Eglwys Sant Marc, Trelew ac Eglwys Llanddewi, Dolafon. Adeilad brics syml oedd eglwys Dolafon, a agorwyd yn gyntaf yn 1891. Ei sylfaenydd oedd y Parch. Hugh Davies, y gweinidog Anglicanaidd cyntaf i weinidogaethu yn Nyffryn Camwy.  

Agorodd Washington-Jones ysgol ar gyfer plant y gwladychwyr hefyd, eto wedi'i henwi ar ôl Dewi Sant.  

Roedd bywyd yn galed ac roedd yn rhaid i’r bobl fod yn ddyfeisgar ac yn annibynnol iawn. Roedd yn dal i gymryd tri diwrnod mewn cert a cheffyl i deithio i'r wladfa o ben y rheilffordd! Roedd yr Eisteddfod yn ddigwyddiad mawr blynyddol. Roedd yn cael ei chynnal yn y felin; defnyddiwyd bagiau o wenith fel seddi. Roedd yn para sawl diwrnod, gyda'r beirniaid yn dod o bob cwr o Ddyffryn Camwy.  

Dychwelodd Washington-Jones i Brydain yn ystod Streic Gyffredinol 1926. Ei swydd nesaf oedd fel rheithor Eglwys Sant Michael, Cwmafan, ychydig filltiroedd i'r gogledd-orllewin o Gastell-nedd. Arhosodd yno nes 1941. Yna daeth yn rheithor yn eglwys Sant Ilan, Eglwysilan tua saith milltir i'r de o Gaerffili. Arhosodd yn Eglwysilan nes iddo ymddeol. Bu farw yn 1974; mae eglwys Sant Ilan yn cynnwys ffenestr gwydr lliw er cof amdano. 

Ffynonellau 

Washington-Jones, N. (2020). The long arm of Lampeter academicals. The Link, 76, 17. Cyrchwyd ar 16 Tachwedd 2020 o https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/alumni/lampeter-society/the-link-summer-2020.pdf 

New curates. (1913, 29 Medi). Cambria Daily Leader. Cyrchwyd ar 16 Tachwedd 2020 o https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4425771/4425773/33/ 

Burryport wedding. (1915, 27 Ionawr). Cambria Daily Leader. Cyrchwyd ar 16 Tachwedd 2020 o https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4098337/4098340/46/ 

Brooks, W.A. (2012). Welsh Print Culture in y Wladfa: the Role of Ethnic Newspapers in Welsh Patagonia, 1868-1933. (Traethawd doethurol, Prifysgol Caerdydd, y Deyrnas Unedig). Cyrchwyd ar 16 Tachwedd 2020 o https://orca.cf.ac.uk/46450/1/WelshPrintCultureInYWladfaWalterBrooks.pdf 

Every, E.F. (1915). The Anglican Church in South America. Cyrchwyd ar 20 Tachwedd 2020 o http://anglicanhistory.org/sa/every1915/01.html 

Howat, J. (2003). Anglican Church Records in the Welsh ColonyChubut Valley, 1883 to 1903. Cyrchwyd ar 20 Tachwedd 2020 o http://www.argbrit.org/Patagonia/patagoniabapts.htm 

Brebbia, C.A. (2007) Patagonia a forgotten landfrom Magellan to PerόnSouthampton: WIT Press.