Gwnaeth Leslie Badham gyfuno gweinidogaeth eglwysig, a oedd yn cynnwys bod yn gaplan i’r Frenhines, â darlledu ar y radio, darlithio ac ysgrifennu.

Ganwyd Leslie Stephen Ronald Badham (1908-1975) yn Cosheston, Sir Benfro; ei dad Stephen oedd prifathro’r ysgol leol. Cafodd pump o blant eu geni i’r teulu. Yn drist, bu dau ohonynt farw pan oeddent yn fabanod; wedyn, bu farw brawd a chwaer o’r ddarfodedigaeth pan oeddent yn oedolion ifanc. Y bwriad oedd y byddai’r mab wedi bod yn offeiriad; teimlodd Leslie, ei frawd iau, y dylai ef fynd i mewn i’r weinidogaeth yn ei le.    

Gwnaeth Badham astudio Saesneg yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed, ac yno, yn ystod ei flwyddyn olaf, daeth yn Uwch Ysgolhaig.  Yna, dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, ac yno, astudiodd am ail radd mewn diwinyddiaeth. Ar ôl iddo gael ei ordeinio, gwnaeth weithio yn gyntaf fel curad yn Noc Penfro, ac wedyn yn Ninbych-y-pysgod. Ar ôl hynny, daeth yn ficer Walton West a Talbenny, hefyd yn Sir Benfro. Priododd Effie Garratt yn 1938; ac yn anarferol am y cyfnod hwnnw, roedd ganddi radd BSc o Ysgol Economeg Llundain. Cafodd y pâr bedwar o blant; ac yn ddiweddarach, cafodd eu mab Paul ei benodi’n bennaeth adran ac yn Athro Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Cymru Llambed.  

Pan ddechreuodd y rhyfel, daeth Badham yn gaplan yn y RAF. Bu farw llawer o bobl y gwnaeth ef weithio â nhw yn ystod yr ymladd. Gwnaeth caplaniaid ymgymryd â’r dasg anodd o ysgrifennu at y sawl a oedd mewn profedigaeth, a thynnu cyrff allan o ddrylliau awyrennau a chladdu’r meirw. Nid yw Paul, mab Badham, yn gwybod pwy yw ei dadau bedydd, oherwydd lladdwyd cymaint o’r rhai mwyaf tebygol. Ar ôl ymadael â’r lluoedd arfog, rhoddwyd iddo breswylfa Coleg yr Iesu yn Rotherfield Peppard, pentref yn y  Chilterns, ychydig o filltiroedd i’r gorllewin o  Henley-on-Thames. Fel un o breswylfeydd y coleg, yn draddodiadol, ysgolhaig byddai fel arfer wedi byw ynddi; ystyriodd Badham ei fod ef hefyd yn rhan o’r llinach honno.  

Mae llyfr Badham Verdict on Jesus (Williams a Norgate, 1950) wedi’i seilio ar bregethau y gwnaeth ef eu rhoi yn ei eglwys blwyf. Wedyn, gwnaeth eu mireinio fel sgyrsiau i’w darlledu, cyn eu golygu eto i greu llyfr. Yn ogystal ag archwilio’r hyn a ddywedodd ac a wnaeth yr Iesu, ysgrifennodd Badham am yr effaith y mae bywyd ac addysgu’r Iesu wedi’i chael ar hyd y canrifoedd. Mae’r llyfr yn ystyried effaith gymdeithasol, ddiwylliannol, wleidyddol ac economaidd yr Iesu ar y byd. Diben yr elusen Newson Trust yw dosbarthu Verdict on Jesus. Gwnaeth y Parchedig S.J. Newson, un o ficeriaid blaenorol eglwys St Andrew, yn Chelsea, ymadael â’i ystâd i ddarparu copïau ar gyfer holl glerigwyr Anglicanaidd Ynysoedd Prydain, er mwyn bod ganddynt ‘well ddealltwriaeth o’n Harglwydd Iesu Grist’. Yn fwy diweddar, mae’r ymddiriedolaeth hefyd wedi dechrau rhoi’r gyfrol hon i weinidogion Methodistaidd ac i weinidogion yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Mae’r 5ed argraffiad mwyaf diweddar, a gyflwynir gan ei fab Paul, yn cynnwys tair pennod newydd ar yr Iesu hanesyddol, ar theistiaeth ac athroniaeth, ac ar yr Iesu a’i le yng nghrefyddau’r byd.   

St John the Baptist, Windsor, where Badham was vicar

Llun:  Eglwys St John the Baptist, Windsor, lle’r oedd Badham yn ficer 

Yn 1958, daeth Badham yn ficer Eglwys Blwyf  Windsor. Yn 1964, fe benodwyd yn gaplan i Frenhines Elizabeth II; roedd ei ddyletswyddau yn cynnwys pregethu yng nghapel preifat y Frenhines ym Mharc Mawr Windsor. Dywedwyd bod ganddi un o gopïau cyntaf oll Verdict on Jesus! Mae cyhoeddiadau eraill Badham yn cynnwys These Greatest Things, llyfr o bregethau ar gyfer y Llu Awyr Brenhinol, a Love Speaks from the Cross, sy’n archwilio geiriau’r Iesu pan oedd ar y groes.  

Yn 1965, cafodd Badham ganser y prostad; deng mlynedd wedyn bu farw o ganser. 

Ffynonellau 

Newsom Trust (2019). Verdict on Jesus. Adalwyd ar Fedi 22 2020 oddi wrth https://verdictonjesus.com/ 

Badham, Rev. Leslie (Stephen Ronald). (2007). Who’s Who & Who Was Who. Adalwyd ar Fedi 22 2020 oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-151919?rskey=RjHjPS&result=2

P. H.S. (1995, February 6). The very man - Diary. Times.Adalwyd oddi wrthhttps://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/0F9247290F48615C?p=UKNB 

Wakeham-Dawson, A., Rance, E. (2020, September 15). From our archive: Sky pilots and the Battle of Britain. Church Times. Adalwyd ar Hydref 1 2020 oddi wrth https://www.churchtimes.co.uk/articles/2020/18-september/features/features/from-our-archive-sky-pilots-and-the-battle-of-britain