Roedd Maldwyn Lloyd Jones (1917-2014) yn glerigwr Anglicanaidd, yn genhadwr yn Ne America, ac yn gaplan llyngesol. Mae rhai o’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag ef yn debyg i’r anturiaethau sydd yn The boys’ own paper.
Ganwyd Maldwyn yn Fochriw, ger Merthyr Tudful. Roedd ei deulu yn un agos, ac o ran materion ariannol, yn lled ddiogel. Roedd ei dad yn isreolwr y meysydd glo. Yn 1925, symudodd y teulu i Fanwen yng Nghwm Nedd. Cafodd Maldwyn ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd, ac yna, yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed. Roedd gan Maldwyn hoffter parhaol am Lambed. Roedd yn aelod sefydlu ac yn Is-lywydd Cymdeithas Llambed; pan fu farw, mae’n debyg mai ef oedd yr aelod hynaf.
Ordeiniwyd Maldwyn yn ddiacon yn 1940, ac yn offeiriad yn 1941. Lleolwyd ei swydd glerigol gyntaf yng Ngorseinon, ar gyrion Abertawe. Yno, dysgodd am bwysigrwydd ymweliadau bugeiliol. Ar ôl hyn, daeth yn gaplan ac yn athro mathemateg yn ysgol breswyl Kingham, yn esgobaeth Rhydychen.
Nesaf, symudodd i Dde America. Am ei fod yn ieithydd dawnus, gwnaeth y Society for the Propagation of the Gospel ei recriwtio i wasanaethu yno. Daeth yn gaplan i Lysgenhadaeth Prydain yn Brazil, yn gwasanaethu’n gydwybodol y gymuned alltud ehangach. Roedd yn gaplan eglwys All Saints Nichteroy o 1946 i 1948, ac yn brifathro ysgol St Paul, Sao Paulo, o 1948 i 1950.
Llun:Eglwys gadeiriol Christ Church, Stanley, Ynysoedd Falkland
Cafodd ei anfon nesaf i Ynysoedd Falkland. Bryd hynny, roedd Ynysoedd Falkland wedi cael eu hychwanegu at yr esgobaeth Anglicanaidd anferth sy’n cynnwys yr Ariannin gyfan, yn ogystal â dwyrain De America. Yn ddamcaniaethol, yr esgob, Y Gwir Barchedig Daniel Ivor Evans, gŵr gradd arall o Lambed, oedd Deon Stanley. Ond roedd angen clerigwr arno i fyw ar Ynysoedd Falkland, yn ogystal â gofalu amdanynt. Roedd Maldwyn yn gyfrifol am yr ynysfor cyfan. Gwnaeth gymryd gofal dros dro am yr eglwys gadeiriol, cefnogi’r Rhaglaw ac ymweld â’i gymuned wasgaredig, gan fynd ar gefn ceffyl i deithio o un man i’r llall.
Yn 1952 cyflawnodd Maldwyn ei uchelgais hirsefydlog drwy ymuno â’r Llynges Frenhinol. Gweithiodd fel caplan llyngesol tan 1968. Roedd ei ddoniau yn arbennig o addas ar gyfer bywyd morol – byddai’n gofalu’n fugeiliol am bawb, roedd yn hoffi trefn, yn mwynhau arferion sy’n gysylltiedig â rhenc, ac roedd ganddo’r gallu i ddifyrru. Yn ystod bombardio Gogledd Korea, gwnaeth wasanaethu ar HMS Newcastle. Yno, datblygodd ef yr arfer disgybledig o ddathlu’r cymun bendigaid am 7 yb; byddai hefyd darlleniad byr o’r Beibl a sesiwn weddïo yn cael eu cynnal am 12.25 yp. Byddai pob un o’r rhain yn cael ei gyhoeddi dros uwchseinydd y llong. Byddai’r cwmplin yn dechrau am 9.15 yh. Ceisiodd ddod i adnabod pob aelod o’r criw, 850 ohonynt, wrth ei enw bedydd, a byddai’n gwneud ymdrech arbennig i chwilio am y sawl a oedd yn drist neu mewn profedigaeth. Gwnaeth hefyd wasanaethu ar HMS Tiger, ei long hapusaf.
Llun: HMS Tiger, llong hapusaf Maldwyn Gan Hugh Llewelyn o Keynsham, y DU - HMS Tiger, CC BY-SA 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=74607084
Gwnaeth y treialon bomiau atomig a brofodd Maldwyn achosi niwed parhaol i’w olwg. Pregethodd i forwyr o Brydain ac America mewn eglwys gadeiriol orlawn yn Honolulu. Hyfforddwyd ef fel offeiriad comando gyda’r Môr-filwyr Brenhinol, gan ennill y beret gwyrdd enwog. Chwaraeodd ran weithredol yng ngoresgyniad Suez, lle gwnaeth ef ofalu am y sawl a oedd wedi’u hanafu’n angheuol ar y traeth. Ymhen hir a hwyr, gwnaethpwyd ef yn gyfrifol gan y llynges am hyfforddi caplaniaid newydd.
Ar ôl ymadael â’r Llynges Frenhinol, aeth Maldwyn yn ôl i fyd addysg. Roedd yn gaplan Ysgol Filwrol Shattuck, yn Faribault, Minnesota, o 1968 i 1970. Yna, cafodd ei hyfforddi i addysgu Saesneg fel iaith dramor. Ar ddychwelyd i Brydain, gweithiodd yng Ngholeg Addysg Bellach Wandsworth.
Ni wnaeth Maldwyn erioed briodi. Ar ôl ymddeol o weinidogaethu llawn amser yn 1972, rhoddwyd iddo Drwydded Gyffredinol gan Esgobaeth Bangor ar gyfer 1972 tan 1982. Yna, gwnaeth fyw am rai blynyddoedd yn Tirley, ger Tewkesbury. Bu farw ar Ragfyr 27 2014 yng Nghartref Gofal Bae Langland, Abertawe. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Llwydcoed; yn hollol briodol, gwnaeth gŵr gwadd arall o Lambed, y Parchedig Bill Fillery, weinyddu yn y gwasanaeth.
Ffynonellau
McCloy, R. (2015, February 13). Revd. Maldwyn Lloyd Jones. Church Times. Adalwyd oddi wrth https://www.churchtimes.co.uk/articles/2015/13-february/gazette/obituaries/the-revd-maldwyn-lloyd-jones
McCloy, R., Fenwick, R. (2015). The Reverend Maldwyn Lloyd Jones, R.N.[retired] 1917-2014. The Link. 68,24-25. Adalwyd oddi wrth https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/alumni/lampeter-society/Link2015.pdf