Idris Jones oedd esgob Glasgow a Galloway, a Phrif Esgob (Primus) Eglwys Esgobyddol yr Alban.
Ganwyd Idris yn yr Ardal Ddu, yn fab i Edward Jones a’i wraig Alice (Burgess gynt). Mynychodd Ysgol Ramadeg West Bromwich; meddai nad oedd ef wedi mwynhau ei addysg yn fawr tan iddo gyrraedd y chweched dosbarth. Er hynny, teimlodd gyntaf yr alwad i fod yn offeiriad pan oedd yn ddeuddeg mlwydd oed yn unig. Mae’n cofio mai dylanwad ficer yr eglwys lle’r oedd e’n canu yn y côr oedd, i ran helaeth, y rheswm am hynny.
Ar ôl ymadael â’r ysgol, astudiodd Jones yng Ngholeg Dewi Sant Llambed, gan raddio yn 1964. Medd ef ‘The debt that I owe … is almost beyond description. Firstly for admitting me as an undergraduate and then for the privilege of being lectured by so many outstanding members of staff and giving me a basis in higher education that has stood the test of time.’ Wedi byw yn Lloegr a Chymru, ei gyrchfan nesaf oedd yr Alban. Cafodd ei hyfforddi i fod yn offeiriad yn New College, Caeredin, lle dyfarnwyd iddo’r radd Trwyddedog mewn Diwinyddiaeth.
Ordeiniwyd Jones yn ddiacon yn 1967, ac yn offeiriad yn 1968. Ei swydd glerigol gyntaf oedd gartref yn Swydd Stafford; gwnaeth wasanaethu fel curad cynorthwyol yn eglwys St Mary, Stafford, am dair blynedd tan 1970. Yna, gweithiodd fel Cantor Eglwys Gadeiriol St Paul, Dundee, o 1970 tan 1973. Yn rhinwedd y rôl honno, roedd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r canu yn yr eglwys gadeiriol ac am y gwasanaethau corawl.
Yn 1973, dechreuodd Jones yn y swydd a fyddai’r un olaf iddo y tu allan i’r Alban; daeth yn brif offeiriad (priest-in-charge) eglwys St Hugh, Gosforth, ar gyrion Newcastle-upon-Tyne. Hefyd yn 1973, fe briododd ef ag Alison Margaret Williams; ganwyd iddynt ddau fab.
Symudodd Jones yn ôl i’r gogledd unwaith eto yn 1980 i fod yn rheithor yn eglwysi St Mary a St Peter, Montrose, a hefyd yn eglwys St David, Inverbervie. Ochr yn ochr â gweithio, llwyddodd ddod o hyd i amser ar gyfer astudio ymhellach; dyfarnwyd iddo’r radd Doethur mewn Gweinidogaeth gan Athrofa Ddiwinyddol Efrog Newydd yn 1987. Ar ôl ymadael â Montrose, treuliodd dair blynnedd fel caplan Anglicanaidd ym Mhrifysgol Dundee, a hefyd fel prif offeiriad (priest-in-charge) yn eglwys All Souls, Invergowrie. Ei rôl olaf fel offeiriad plwyfol cyffredin oedd fel rheithor eglwys Holy Trinity, Ayr, gan ddechrau yno yn 1992. Cwblhaodd hefyd ddiploma mewn Therapy sy’n Canolbwyntio ar Unigolion, a bu’n weithredol fel seicotherapydd lleyg. Roedd yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Bugeiliol yn Athrofa Ddiwinyddol Eglwys Esgobyddol yr Alban o 1995 tan 1999, (pan oedd yn dal i fod yn offeiriad yn eglwys Holy Trinity).
Yn 1998, cafodd Jones ei gysegru’n Esgob Glasgow a Galloway. Roedd ei esgobaeth newydd yn cynnwys de-orllewin yr Alban, (Wigtonshire, Kirkcudbright, Dumfriesshire, Ayrshire, Lanarkshire, Renfrewshire, Dunbartonshire a rhan o Stirlingshire). Yn 2006, etholwyd ef yn Brif Offeiriad (Primus) Eglwys Esgobyddol yr Alban, ac felly ef oedd arweinydd y 50,000 o Anglicaniaid a oedd yn yr Alban. Pan ddewiswyd Jones, roedd yr esgobion wedi’u rhannu’n gyfartal yn ddwy rhwng y ddau ymgeisydd; yn y diwedd, penodwyd Jones drwy ‘fwrw coelbren!’
Mae Jones yn awgrymu y gallai ‘esgob llywyddol’ neu ‘esgob-gymedrolwr’ fod yn well deitl na ‘Prif Offeiriad’ (Primus). Yn wahanol i fod yn archesgob, ystyrir y Prif Offeiriad (Primus) y cyntaf ymhlith cydraddolion (‘primus inter pares’). Caiff ei ethol gan y chwe esgob cyfredol arall sydd yn yr Alban i fod yn gynullwr yn eu cyfarfodydd ac yn brif gysegrwr Esgobion. Mae ef hefyd yn eu cynrychioli nhw a’r eglwys ehangach gartref ac fel rhan o’r Cymundeb Anglicanaidd. Roedd Jones yn un o 657 o esgobion a wnaeth fynychu’r bedwaredd ar ddeg Gynhadledd Lambeth a gynhaliwyd yng Nghaergaint yn 2008. Meddai ef ‘And it was incredible to have experts from all areas of secular life bringing us up to speed on issues like climate change.’
Gwnaeth Jones ymddeol yn 2009. Roedd yn mwynhau golff a garddio, yn cynnig ei wasanaeth fel offeiriad pan oedd angen, ac o bryd i’w gilydd, yn canu’r organ yn ei eglwys leol. Ond, mae hefyd wedi bod yn weithredol yn Trades House of Glasgow. Sefydlwyd y Trades House yn 1605 i helpu diogelu a chefnogi crefftwyr Glasgow; heddiw, mae’n elusen sy’n canolbwyntio ar fentrau addysgol ac ar gynnal pobl sydd mewn angen. Mae’r Tŷ a’i bedair masnach ar ddeg yn dosrannu tua £600000 y flwyddyn ymhlith elusennau, yn ogystal â threfnu gwobrau crefft a helpu prentisiaid. Roedd Jones yn Gasglwr i’r Trades House rhwng 2012 a 2013, ac yna, yn Gynullwr Hwyr rhwng 2013 a 2014. Yna, bu’n Ddiacon-gynullwr rhwng 2014 a 2015. Yn y rôl honno, roedd ganddo’r teitl parchus ‘ Y Trydydd Dinesydd’ a byddai’n cymryd rhan yn nigwyddiadau seremonïol yr Arglwydd Brofost.
Yn 2007, gwnaethpwyd Jones yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Cymru Llambed.
Ffynonellau
MacMath, T.H. (2013, March 1). Interview: Idris Jones, former Primus, Scottish Episcopal Church. Church Times. Adalwyd ar Ionawr 22 2021 oddi wrth https://www.churchtimes.co.uk/articles/2013/1-march/features/interviews/interview-idris-jones-former-primus-scottish-episcopal-church
Jones, Rt. Rev. Dr Idris (2021). Who’s Who & Who Was Who. Adalwyd ar Ionawr 22 2021 oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540884.001.0001/ww-9780199540884-e-17241?rskey=yWsJwf&result=2