Peter Millam (1936-2010) oedd Uwch Gaplan Eglwys Gadeiriol Christ Church ar Ynysoedd Falkland. Gwnaeth gyrraedd y tudalennau blaen ledled y byd am ei ymglymiad â’r cwmni hedfan Aerolinas Argentina pan wnaeth awyren a oedd wedi’i herwgipio lanio ar gae rasio Port Stanley.

Gwasanaethodd tad Millam, William Robert Millam, ar Ynysoedd Falkland fel Is-swyddog /Telegraffydd. Yno, gwnaeth gwrdd â Beatrice Orissa Bender, merch i rai o ymsefydlwyr arloesol y drefedigaeth. Priododd y pâr yn Lloegr yn 1923, a ganwyd Peter yn Portsmouth. Fel plentyn, gwnaeth gwrdd yn aml â gwesteion o’r ynysoedd, a gwnaeth dyfu wedi’i drochi yn llên gwerin Ynysoedd Falkland. Mynychodd ef Ysgol Ramadeg Sirol Bromley, ac yna Ysgol Ramadeg Cheltenham.  Ar ôl ymadael â’r ysgol, mynychodd Goleg Dewi Sant, Llambed ac yna, Coleg Ridley, Caergrawnt. Treuliodd dair blynedd yn addysgu Saesneg ac Ysgrythur yn ysgol Tinkers Farm, cyn cael ei ordeinio yn offeiriad. Gwasanaethodd yn Eglwys Gadeiriol Caerloyw ac yna yn Christ Church, Cheltenham. 

Priododd Millam â Jillian Helen Ridgway yn 1960; cawsant bedwar o blant Rosalind Caroline, Kevin John, Sarah Elizabeth ac Andrew Peter. 

Yn 1966, daeth Millam yn uwch (ac unig) gaplan Eglwys Gadeiriol Christ Church, Port Stanley, prifddinas Ynysoedd Falkland.  Cafodd y teulu groeso cynnes; meddai Millam yn ddiweddarach bod pobl yn ei ystyried yn fachgen lleol a oedd wedi codi yn y byd. Yn ogystal â bod yn weinidog gweinyddol, roedd ei ddyletswyddau yn cynnwys agor y cyngor deddfwriaethol gyda gweddïau a gwasanaethu’r genhadaeth i forwyr. A dweud y gwir, ar achlysur,  byddai’r barnwr gweithredol yn cyfeirio achosion llys ato, pe bai e’n meddwl y gallai’r ‘padre’ ddatrys yn foddhaol anghydfodau cartref. Gwnaeth Millam ymweld â phob rhan o’r ynysoedd, yn teithio mewn Land Rover, awyren fôr Beaver, cwch, ar gefn ceffyl neu ar droed i gynnal priodasau, bedyddiadau a chyfarfodydd gweddi, Cyrhaeddodd South Georgia yn 1967, ac yno, gwnaeth weddïo wrth ochr bedd Syr Ernest Shackleton ac arwain gwasanaeth yn eglwys Grytviken. Ym mis Mawrth 1968, gwnaeth allforio chwe deg o bengwiniaid i Loegr ar gyfer Len Hill o Birdland, Swydd Gaerloyw; dim ond un aderyn bu farw ar y ffordd.  

Dim ond ar ôl ychydig o fisoedd ers i Millam gyrraedd Ynysoedd Falkland, roedd ef yn un o ddau offeiriad a gafodd eu hymglymu yn yr ymgais i herwgipio un o awyrennau cwmni hedfan Aerolinas Argentina. Roedd grŵp o genedlaetholwyr asgell dde o’r Ariannin, aelodau o’r grŵp ‘Condor’, wedi cipio awyren DC-4 gan orfodi’r peilot ei hedfan i Port Stanley.  Yna, bu rhaid i’r awyren lanio dan orfod ar y cae rasio. Cafodd Millam, yn ogystal â Phrif Swyddog yr Heddlu, a phum aelod o arsiwn y Môr-filwyr Brenhinol, eu cymryd yn wystl pan wnaeth ef gynnig help. Gwnaeth yr herwgipwyr adael iddo fynd i roi gwybod i’r llywodraethwr gweithredol eu bod nhw wedi dod i ‘ryddhau’r ynysoedd rhag gormes gan y Prydeinwyr.’ Gwnaeth Millam, ynghyd â Thad Rodolfo Roel, offeiriad Catholig a oedd yn medru siarad Sbaeneg, ddychwelyd i’r awyren  er mwyn trefnu bod y menywod a’r plant yn cael eu rhyddhau. Yng nghanol y dryswch, llwyddodd ef smyglo Terry Peck, Prif Swyddog yr Heddlu, drwy ei guddio dan ei fentyll clerigol, a’i roi ar gefn Land Rover! Ar ôl i’r herwgipwyr dreulio noswaith oer dros ben heb fwyd na dŵr, llwyddodd y ddau offeiriad sicrhau eu hildiad, gan ryddhau gweddill y gwystlon. Meddai Millam yn ddiweddarach ‘This earned me a free drink in any Royal Marine Mess!’ 

Roedd ail hanner y 1960au yn wleidyddol gynhyrfus i’r Ynysoedd Falkland. Gwnaeth gweinidog Swyddfa Dramor Prydain, yr Arglwydd Chalfont, ymweld â nhw ym mis Hydref 1968, gan obeithio perswadio’r ynyswyr i adael yr Ariannin ymwneud â’u busnes. Gofynnwyd  i’r teulu Millam ei dderbyn a threfnu te ar ei gyfer, ac yno, gwnaeth gwrdd â rhai o aelodau cynulleidfa’r eglwys gadeiriol. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Millam, ‘Lord Chalfont confidently expected that an English-born, -bred and -trained Anglican contract priest would hold “sensible” views regarding relations with Argentina. I am proud to say that he left the deanery almost a broken man.’ Yn hwyrach y noswaith honno, gwnaeth Chalfont wynebu cyfarfod cyhoeddus gelyniaethus yn Neuadd Dref Port Stanley. O hynny ymlaen, bu Millam yn gefnogwr brwd o’r ymgyrch ‘Keep the Falklands British.’ 

Gwnaeth Millam ddychwelyd i Loegr ym mis Mehefin 1970. Parhaodd yn ddi-ball ffyddlon i’r Ynysoedd Falkland am weddill ei oes a gwnaeth ymladd yn ddiflino dros yr ynysoedd yn y cyfryngau ac mewn pwyllgorau. Roedd yn aelod sefydlol ac yn swyddog lles Pwyllgor Ynysoedd Falkland. Ar ôl y goresgyniad gan yr Ariannin yn  1982, ef oedd y cyntaf i ddarlledu i’r ynyswyr ar Wasanaeth Byd y BBC; darllenodd yr ail wers yng Ngosber yr Ynysoedd Falkland yn Eglwys Gadeiriol St Paul ar Sul y Blodau canlynol. Cymerodd ran hefyd yn y broses o gael dinasyddiaeth Brydeinig lawn i drigolion Ynysoedd Falkland, yn ogystal â hawl preswylio. Tuag at ddiwedd ei fywyd, pan oedd yn ddifrifol sâl, gwnaeth ymadael â’i wely yn yr ysbyty i arwain y gwasanaeth wrth y Gofadail a wnaeth goffáu pen-blwydd y fuddugoliaeth lyngesol a drodd y fantol, sef Brwydr yr Ynysoedd Falkland, 1914.  

Gweithiodd Millam fel ficer Pulloxhill â Flitton o 1970 tan 1979, yn St Paul Luton rhwng 1979-1989 ac yna, yn Chipping Camden ag Ebrington o 1989 i 1994. Yn 1992, roedd yn gaplan i Uchel Siryf Swydd Gaerloyw. Gwnaeth iechyd gwael olygu y byddai rhaid iddo ymddeol yn gynnar, yn 1994. Gwnaeth un o’i lythyrau at y Daily Telegraph ddisgrifio gwerthiant ei lyfrgell o lyfrau diwinyddiaeth, a gasglwyd ganddo dros gyfnod o ddeugain mlynedd, am £170 yn unig. Mewn cyferbyniad, gwnaeth calendr Pirelli, yn dal yn ei focs, ac yn dyddio o’r 1980au cynnar, a roddwyd iddo gan ei fodurdy fel  ‘jôc ddrwg’, werthu am £200!  

Bu farw Millam yn Ysbyty St Richard, Chichester, ar Fehefin 8fed 2010, yn saith deg a phedair blwydd oed.

Ffynonellau 

Dictionary of Falklands Biography including South Georgia. (2018). Millam, Peter John 1936-2010. Adalwyd ar Fedi 15 2020 oddi wrth https://www.falklandsbiographies.org/biographies/327 

The Reverend Peter Millam. (2010, July 9). Daily Telegraph. Adalwyd oddi wrth  https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/130E036E723F3478?p=UKNB 

Daily Telegraph Correspondent. (1966, September 30). Islanders Keep Watch as Invaders Shiver. Daily Telegraph, 30. Adalwyd oddi wrth  https://link.gale.com/apps/doc/IO0704764560/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=b2217f6e 

Millam, P. (2001, November 30). Tea but no sympathy. Daily Telegraph. Adalwyd oddi wrth  https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/0F2B73578D7370B5?p=UKNB 

Millam, P. (1994, May 20). Snapped up. Daily Telegraph. Adalwyd oddi wrth  https://go.gale.com/ps/retrieve.do?tabID=Newspapers&resultListType=RESULT_LIST&searchResultsType=SingleTab&hitCount=2&searchType=AdvancedSearchForm&currentPosition=2&docId=GALE%7CIO0701920089&docType=Letter+to+the+editor&sort=Pub+Date+Forward+Chron&contentSegment=ZTHA-MOD1&prodId=TGRH&pageNum=1&contentSet=GALE%7CIO0701920089&searchId=R4&userGroupName=nlw_ttda&inPS=true 

Millam, P. (2002). A Falklands link. The Link 55, 5-7