Ganwyd y Parchedig Richard Williams Morgan yn Llangynfelyn, Sir Aberteifi, tua 1815. Yn nai i John Williams, Archddiacon Aberteifi, addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed. Ef oedd curad Mochdre, Sir Drefaldwyn, am y cyfnod 1842-53. Yn 1842, penodwyd ef yn gurad parhaol Tregynon, Sir Drefaldwyn, swydd y gwnaeth ef ei chadw tan 1862.
Llun: Eglwys a mynwent Cynon Sant, Trgynon (cc-by-sa/2.0/) (c) Christine Johnstone - https://geograph.org.uk/p/5017822
Ychydig o flynyddoedd yn gynt, roedd grŵp o academyddion Anglicanaidd a chlerigwyr o Rydychen wedi dechrau teimlo’n gynyddol anhapus gyda’r diffyg parch a oedd, mae’n debyg, yn cael ei ddangos gan y sefydliad tuag at ei ddyletswyddau crefyddol. Cyhoeddodd y Mudiad Rhydychen, a ddatblygodd o ganlyniad i hyn, gyfres o draethodynnau yn sefydlu athrawiaeth a diwygiadau a ddaeth eu hadnabod fel Tractariaeth.
Wedi cael ei herio gan lawer o ddadlau Mudiad Rhydychen, daeth Morgan yn un o nifer mawr o Dractariaid Cymru. Nid oedd ef mewn unrhyw ffordd yn wrth-Gatholig, ond roedd yn wrth-Babaidd ac yn wrth-Rufeinig iawn. Am nad oedd hwn yn cael ei ystyried yn safbwynt eithafol, ar y cyfan cafodd ef a’i gyd-Dractariaid eu derbyn gan yr Eglwys Anglicanaidd.
Fel y rhan fwyaf o Dractariaid Cymru, roedd Morgan yn falch o fod yn wladgarwr Cymreig, er roedd ganddo weithiau natur bigog. Yn ymgyrchwr di-flewyn-ar-dafod dros y defnydd a wnaed o’r iaith Gymraeg mewn ysgolion ac eglwysi, roedd yn feirniad llym o glerigwyr o Loegr a oedd yng Nghymru (gan gynnwys ei esgob ef ei hun) am beidio â dysgu’r Gymraeg a chynnal gwasanaethau yn Saesneg yn unig – iaith nad oedd neb yn ei deall. Gwnaeth fynnu bod gweinyddu’r sagrafennau mewn iaith dramor, “nid dim ond ei hun yn beth anwir, ond hefyd yn enllibus i’r ffydd Anglo-Gatholig” ac nad oedd esgobion a oedd yn gwneud hyn yn wir arweinwyr yr eglwys, ond esgobion mewn enw yn unig.
Tebyg iawn, gwnaeth ei feirniadaeth gyson a’i alwadau am newid achosi iddo fethu cael ei ddyrchafu i swyddi uwch yn yr eglwys, ond gwnaethant hefyd arwain at wrthod y cymun iddo yn ei eglwys ef ei hun yn Nhregynon yn 1857. Er na wnaeth ef ymddeol yn ffurfiol o fod yn gurad tan 1862, ni chafodd fyth eto swydd eglwysig yng Nghymru.
Gwnaeth Morgan hefyd chwarae rôl allweddol yn y mudiad diwygiad Celtaidd. Roedd yn un o bedwar o ddynion yn gyfrifol am drefnu Eisteddfod Llangollen yn 1858. Roedd hwn yn ddigwyddiad arwyddocaol a hanesyddol, a chaiff ei dderbyn yn gyffredinol mai dyna pryd cafodd gwreiddiau Eisteddfod Genedlaethol Cymru eu plannu. Gwnaeth hefyd gyfrannu at Orsedd y Beirdd (cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac unigolion eraill sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at Gymru, ei hiaith a’i diwylliant), gan ddefnyddio’r enw barddol ‘Môr Meirion’.
Yn ystod y 1850au hwyr, symudodd Morgan i Lundain, lle y gwnaeth ef dreulio y rhan fwyaf o weddill ei fywyd. Gwnaeth ei frwdfrydedd dros adfer pethau Celtaidd arwain at fod yn gyd-sylfaenydd (ochr yn ochr â Jules Ferrette) yr Ancient British Church yn 1874. Gwnaeth y mudiad crefyddol hwn hyrwyddo adfer yr eglwys Gristnogol i’r arddull a ddefnyddiwyd i gynnal oedfaon ar Ynysoedd Prydain yn ystod y mileniwm cyntaf. Gwnaeth hyn ddilyn Cristnogaeth Geltaidd neu neo-Gristnogaeth gyfoes, sy’n portreadu math o ffydd Gristnogol a ffordd o ymarfer y ffydd honno sy’n dyner, yn oddefgar, yn ‘werdd’, yn fyfyriol, yn egalitaraidd ac yn gyfannol. Cafodd Morgan ei “fedyddio, ei gonffyrmio, ei ordeinio a’i gysegru” gan Ferrette, fel Patriarch Cyntaf yr Eglwys, ar Fawrth 6ed, 1874 a rhoddwyd iddo’r enw crefyddol ‘Mar Pelagius I’.
Gwnaeth yr Ancient British Church barhau yn y DU tan ganol yr ugeinfed ganrif. Er nad yw bellach yn bodoli, gellid dweud bod sawl eglwys sy’n bodoli heddiw wedi ei deillio (neu wedi ei deillio’n rhannol) o’r mudiad hwnnw, yn ogystal â ffyrdd Celtaidd llai ffurfiol eraill o fynegi ffydd. Ceir llwybrau’r olyniaeth sy’n dechrau gyda Mar Pelagius I hyd yn oed heddiw yn yr Eglwys Esgobol Brotestannaidd Rydd (erbyn hyn y Cymundeb Anglicanaidd Rhydd) ac mewn canghennau rhai eglwysi Uniongred.
Yn awdur cynhyrchiol, ysgrifennodd Morgan lawer o lyfrau, erthyglau a cherddi barddol yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Gellid dadlau mai ei lyfr enwocaf oedd Verities of the Church, lle gwnaeth ef esbonio ei “deep-founded affection for the Catholic faith, as guarded and propagated by the Apostolic Church of England.”
Yn ogystal â’i ymrwymiad i ddilynwyr yr Ancient British Church, parhaodd Morgan i wasanaethu tair gwaith eto fel curad Eglwys Loegr cyn y bu ef farw yn 1889.
Ffynonellau
ap Emlyn, H. (n.d.). Llangollen Eisteddfod—September 1858. Llangollen.Com. Adalwyd oddi wrth: http://www.llangollen.com/llangollen-eisteddfod-september-1858/
BBC. (2014).BBC Wales—Eisteddfod—Guide—What is the Gorsedd?Adalwyd oddi wrth: http://www.bbc.co.uk/wales/eisteddfod2008/sites/guide/history/pages/gorsedd.shtml
Freeman, P. (2000). The Revd Richard Williams Morgan of Tregynon and his writings. Montgomeryshire Collections, 88, 87–93.
Independent Sacramental Movement. (n.d.). Richard Williams Morgan—Morningstar. Adalwyd oddi wrth: https://sites.google.com/site/gnostickos/bishopsmorgan
Jones, N. C., (1959). MORGAN, RICHARD WILLIAMS (Môr Meirion, c. 1815 - c. 1889), cleric and author. Dictionary of Welsh Biography. Retrieved 16 Dec 2021, from https://biography.wales/article/s-MORG-WIL-1815.
Lord, P. (1995). Words with Pictures: Welsh Images and Images of Wales in the Popular Press, 1640-1860 (First Edition edition). Planet Books.
Morgan-Guy, J. (2003). A short biography of the Reverend Richard Williams Morgan (c:1815 1889), the Welsh poet and re-founder of the ancient British Church. An enquiry into the origins of neo-Celtic Christianity, together with a reprint of several works by Richard Williams Morgan and Jules Ferrette, etc. By G. H. Thomann. Pp. Iii+133. Solna, Sweden: St Ephrem’s Institute, 2001. The Journal of Ecclesiastical History, 54(1), 97–194. Cambridge Core. Adalwyd oddi wrth: https://doi.org/10.1017/S0022046903615691
Schlossberg, H. (n.d.). The Tractarian Movement. In Religious Revival and the Transformation of English Sensibilities in the Early Ninteeenth Century. Adalwyd oddi wrth: http://www.victorianweb.org/religion/herb7.html
University of Oxford. (1834). Tracts for the times. London : Printed for J.G.F. & J. Rivington & J.H.
Parker, Oxford. Adalwyd oddi wrth: http://archive.org/details/a633807606univuoft