Reverend Thomas James Stretch

Caplan gyda’r Fyddin a oedd yn bresennol pan ryddhawyd carcharorion gwersyll-garchar Bergen-Belsen

Ganwyd Thomas James Stretch yn 1915, yng Ngwdig, Sir Benfro, ac addysgwyd ef yn lleol cyn iddo gael cynnig lle yng Ngholeg Keeble, Rhydychen. Yn anffodus, gwnaeth anaf difrifol i un o’i lygaid ar y maes criced ei atal rhag derbyn y cynnig hwnnw, ac yn lle hynny, yn 1934, dechreuodd yng Ngholeg Dewi Sant, lle daeth hi’n amlwg yn fuan bod Llambed wedi elwa o’i bresenoldeb a Rhydychen ar ei cholled. Gwnaeth Stretch ragori’n academaidd, gan ennill nifer o wobrau, yn ogystal â rhagori hefyd mewn chwaraeon, ac er gwaethaf honiadau ei fod yn neilltuo gormod o’i amser yn astudio theori, mae’n enwog am dreulio amser ar y maes golff, gan lwyddo yn y diwedd chwarae a chlirio’i handicap o un ar ddeg.

Yn dilyn ei ordeiniad yn 1938, daeth Stretch yn gurad yn Eglwys Y Drindod, Aberystwyth, tan iddo ddechrau ei wasanaeth rhyfel gydag Adran Frenhinol Caplaniaid Y Fyddin (RACD). Roedd yn gysylltiedig ag 11eg  Adran Arfog y Fyddin a oedd yn ymladd ei ffordd i’r Almaen o droedleoedd Normandi, ac wrth wneud hynny, yn dioddef y gyfradd golledion fwyaf  a welodd  Byddin Prydain yn ystod ei rhyfelgyrch yng ngogledd Ewrop.  

Ar Ebrill 15fed, 1945, aeth lluoedd Prydain i mewn i wersyll-garchar erchyll Bergen-Belsen, ac yno, daethant o hyd i ryw  60,000 o garcharorion newynog ac afiach, yn ogystal â 13,000 o gyrff marw nad oedd wedi cael eu claddu. Gwnaeth Richard Dimbleby, gohebydd rhyfel y BBC adrodd mewn darllediad radio sydd bellach yn enwog... 

‘Here over an acre of ground lay dead and dying people. You could not see which was which... The living lay with their heads against the corpses and around them moved the awful, ghostly procession of emaciated, aimless people, with nothing to do and with no hope of life, unable to move out of your way, unable to look at the terrible sights around them ... Babies had been born here, tiny wizened things that could not live ... A mother, driven mad, screamed at a British sentry to give her milk for her child, and thrust the tiny mite into his arms, then ran off, crying terribly. He opened the bundle and found the baby had been dead for days. This day at Belsen was the most horrible of my life’ 

Er mwyn atal hyd yn oed mwy o afiechyd, bu rhaid claddu ar unwaith y meirw a oedd â theiffws mewn nifer o feddau torfol, gyda chaplaniaid Iddewig a Christnogol y Fyddin  yn cyd-weddïo uwchben y tyllau claddu. Roedd Stretch yn un o’r caplaniaid hynny, ac fe gafodd ei recordio ar ffilm newyddion i’r sinema yn sefyll o flaen un o’r beddau torfol a oedd ar agor. Yn edrych at y camera drwy sbectolau â ffrâm drwchus, a’i ddwylo wedi’u gwthio’n gadarn i mewn i bocedi ei wisg ryfel, siaradodd yn fyr ond yn rymus ...  

‘I am the Reverend T.J. Stretch attached as padre to the formation concerning this camp. My home is at Fishguard, my parish was at Holy Trinity Church, Aberystwyth. I’ve been here eight days, and never in my life have I seen such damnable ghastliness. This morning, we buried over 5,000 bodies. We don’t know who they are. Behind me you can see a pit which will contain another 5,000. There are two others like it in preparation. All these deaths have been caused by systematic starvation and typhus and disease, which will have spread because of the treatment meted out to these poor people by their SS guards and their SS chief.’ 

Gwnaeth Stretch, a’i gydweithwyr clerigol eraill yn y Fyddin wrando’n daer ac yn astud ar garcharorion y gwersyll a oedd wedi goroesi.  Gwnaeth Paul Wyand, y gohebydd Movietone News a wnaeth recordio Stretch yn siarad o flaen y twll claddu torfol gofnodi ei fod wedi gweithio ‘like ten men, distributing clothing, helping to feed the sick, spreading comfort, and holding services with his colleagues at the mass graves.’ 

Roedd stretch yn awyddus bod gwirionedd ofnadwy Bergen-Belson yn cyrraedd y gynulleidfa fwyaf bosibl. Ysgrifennodd, ‘This is so ghastly a story that the whole world should know about it’. O fewn wythnos o fynd i mewn i’r gwersyll, cyflwynodd Stretch ei adroddiad swyddogol ar y digwyddiadau, a’i lofnodi a’i ddyddio fel a ganlyn, TJ Stretch C.F., Belsen Camp, April 22nd 1945’, oherwydd roedd ef yn awyddus bod gwirionedd yr hyn yr oedd ef wedi bod yn dyst iddo yn cael ei ddweud.  

Gwnaeth Stretch arddweud ei adroddiad wrth ei fatmon (gwas yn y Fyddin), gan sicrhau bod nifer o gopïau yn cael eu paratoi a bod un ohonynt yn cael ei gyflwyno gerbron ei uwch swyddog uniongyrchol, yr Uwch Gaplan Cynorthwyol, y Parchedig  JWG Steele, a wnaeth, yn ei dro, ei ddosbarthu ymhlith yr holl uwch gaplaniaid. Cyrhaeddodd copi arall swyddfa’r Church Times, rhan o’r Eglwys Anglicanaidd a oedd wedi’i lleoli yn Llundain. Roedd hwn yn bapur newydd prif ffrwd Cristnogol a oedd yn cael ei ddarllen yn eang, ac o ganlyniad, cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ganddo yn hwyr ym mis Mai.  

Gyda dychweliad heddwch, aeth Stretch yn ôl i fywyd eglwysig fel sifiliad, yn gwasanaethu fel offeiriad a Deon Gwlad yn Swydd Gaerhirfryn. Ond gwnaeth gadw a chynnal cyswllt cryf gyda’r Fyddin, fel Uwch Gaplan y Fyddin Diriogaethol yn Swydd Gaerhirfryn. Gwnaeth hefyd barhau i hoffi golff, ac wrth chwarae rownd derfynol Gornest Golff Clerigwyr 1973, bu farw yn dilyn trawiad i’r galon.

Gwnaeth Stretch, ar orffen ei adroddiad swyddogol ar ei brofiad yn Bergen-Belsen ystyried y cwestiwn a fyddai ei ddarllenwyr yn ei gredu. Daeth i’r canlyniad y byddent yn ei gredu, oherwydd...   

‘…all I have written I have seen. And what I have seen, I shall never forget. Never. 

Ac ni ddylem ninnau anghofio chwaith.

Thompson, R. 'What I have seen, I shall never forget', Common Ground. The Magazine of The Council of Christians and Jews. Gwanwyn 2020 tud 24-27 https://ccj.org.uk/sites/ccj.hocext.co.uk/files/2020-06/Common%20Ground%202020.pdf [Adalwyd yn 2021] 

Darllen pellach:

Robert Thompson, ‘"The true physicians here are the padres": British Christian Army Chaplains and the Liberation of Bergen-Belsen', Thesis MA, Prifysgol Southampton (2019).