Dyn lleol a ddaeth yn archddiacon Bombay oedd Alexander Goldwyer Lewis (1849–1904).
Ganwyd Goldwyer Lewis yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yn blentyn i Thomas a Marie Victorie Lewis. Mae ffurflen cyfrifiad 1851 yn rhestru man geni ei fam fel Grenada. Disgrifir Thomas fel cyfreithiwr a beili uchel dros Sir Aberteifi. Ar ôl mynychu’r ysgol yn Aberhonddu, aeth Alexander i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Yn ddiweddarach, dywedwyd y byddai wedi disgleirio mewn unrhyw brifysgol. Daeth yn uwch-ysgolhaig, yn ogystal ag ennill y wobr glasurol. Graddiodd ym mis Mehefin 1871 gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Clasuron. Er ei gyflawniadau academaidd, cafodd amser hefyd i fod yn weithgar ar y cae chwaraeon ac fel cadeirydd y gymdeithas ddadlau. (Yn ddiweddarach, cwblhaodd ei radd BD yn Llanbedr Pont Steffan ym 1884, pan oedd gartref ar ffyrlo. Byddai hefyd yn dod yn gymrawd o Brifysgol Bombay).
Ordeiniwyd Lewis yn ddiacon gan Esgob Llanelwy, Joshua Hughes, ym 1872, ac yna’n offeiriad ym 1873. Cafodd ei swydd glerigol gyntaf fel curad yn Erbistock, ychydig filltiroedd i’r de o Wrecsam. Wedi hyn, bu’n gweithio fel curad yng Nghroesoswallt rhwng 1874 a 1875. Hefyd, ym 1875, priododd Annie Blaikie – roedd gan y pâr fab a dwy ferch.
Treuliwyd yr un mlynedd ar hugain nesaf o fywyd Lewis yn India. Aeth i'r dwyrain fel caplan yn sefydliad eglwysig Bombay. (Adnewyddwyd siarter Cwmni Dwyrain India ym 1813 – roedd hyn wedi cynnwys creu esgobaeth o Calcutta a fframwaith eglwysig. Yn dilyn hyn, sefydlwyd esgobaethau Madras a Bombay yn y 1830au. Daeth Sant Thomas – a gysegrwyd ym 1718, ac un o’r eglwysi hynaf yn India – yn eglwys gadeiriol Anglicanaidd Bombay.)
Daeth Lewis yn gaplan Neemuch ar 4 Mehefin 1875. Mae Neemuch ym Madhya Pradesh, yng nghanol India, ac wedi'i leoli ar lwyfandir yr ucheldir, 500 metr uwch lefel y môr. Ugain mlynedd yn flaenorol, roedd yn ganolfan aflonyddwch yn ystod gwrthryfel India.
Llun: Y tu mewn i eglwys gadeiriol Sant Thomas, Mumbai. Cymerwyd y llun yn y 1860au.
Yna daeth Lewis yn gaplan garsiwn dros dro yn yr arlywyddiaeth ym mis Ebrill 1876. Treuliodd rywfaint o amser hefyd yn gweithio yn Quetta. Gwnaeth yr Esgob Louis George Mylne ef yn archddiacon ac yn ddirprwy’r esgob ym 1888. Daeth yn archddiacon Bombay ym 1890, gan wasanaethu yn y rôl hon tan 1896. Ym 1894, roedd yn gomisiynydd â gofal dros yr esgobaeth. Ar yr adeg hon, roedd Bombay (neu Mumbai) yn ganolfan fawr ar gyfer masnach mewnforio, a gefnogwyd pan agorwyd Camlas Suez ym 1869. Roedd y rheilffordd gyntaf yn India, o Bombay i Thana, wedi agor ym 1853, a chafodd y felin nyddu a gwehyddu gyntaf ei sefydlu ym 1857. Yn fuan iawn, daeth y ddinas yn ganolbwynt diwydiant cotwm India. Fodd bynnag, wrth i'r boblogaeth gynyddu, cynyddodd y tlodi hefyd a daeth amodau gorlawn ac afiach yn fwy cyffredin.
Yn ystod ei gyfnod yn India, ysgrifennodd Lewis bamffled o'r enw ‘The position and prospects of the Anglican branch of the Catholic church in India.’ Ynddo, mynegodd y gobaith am eglwys Indiaidd, gyda'i pheiriannau eglwysig ei hun a'i harweinyddiaeth frodorol ei hun. Er mwyn cyflawni hyn, roedd yn teimlo bod 'rhaid gwneud llawer mewn ffordd wahanol iawn i'r hyn sydd, yn anffodus, y dull ystrydebol o waith cenhadol.' Beirniadodd hefyd bolisi cyffredin y cenhadon o gyfeirio eu hymdrechion tuag at aelodau'r castiau isaf, heb wneud fawr o ymdrech i drosi'r rhai o safle uwch. Cyhoeddwyd y llyfryn gan A.R. Mowbray rywbryd yn yr 1880au. Cedwir copi yng nghasgliadau arbennig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Ar ôl dychwelyd adref ym 1896, daeth Lewis yn rheithor Aldford, ger Caer. Symudodd i reithordy Davenham, ger Northwich, ym 1903. Cynrychiolodd gynfyfyrwyr yn nathliadau pen-blwydd Coleg Dewi Sant yn 75 ym 1902. Parhaodd yn gefnogwr brwd i waith cenhadol ac i Gymdeithas Taenu’r Efengyl. Fe’i disgrifiwyd fel pregethwr egnïol a huawdl, ac fel eglwyswr cymedrol uchel, ‘ond gyda safbwyntiau yn cael eu hehangu a’u meddalu gan brofiad eang o ddynion a bywyd yn gyffredinol.’
Ni fu Lewis fyw yn hen. Bu farw yn dilyn salwch o dri mis yng nghartref ei chwaer-yng-nghyfraith, ger Croesoswallt.
Ffynonellau
The Times. (1904, 7 Ionawr). Ysgrif goffa. The Times. Cyrchwyd o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS16969255/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=1953e7b9.
Bye-gones. (1904, 6 Ionawr). Current notes. Bye-gones. Cyrchwyd o https://journals.library.wales/view/2092910/2844669/4#?xywh=-1453%2C-120%2C5659%2C3464.
Ancestry. Cyrchwyd ar13 Mai 2020, o: https://www.ancestrylibraryedition.co.uk/
Obituary. (1904).St David’s College, Lampeter. The college and school magazine. 8(7),318-319
Price, D.T.W. (1977). A history of Saint David’s University College. Lampeter. Volume one: to 1898. Gwasg Prifysgol Cymru
Buckley, J.R. (1904, 9 Ionawr). Mr A. Goldwyer Lewis. An appreciation by a Lampeter contemporary. Evening express. Cyrchwyd o https://newspapers.library.wales/view/4138999/4139001/21/.
Bombay Civil List a gywirwyd hyd at 1 Ionawr 1877. (1877) Argraffwyd yn Government Central Press. Cyrchwyd o https://books.google.co.uk/books?id=1YMIAAAAQAAJ&pg=RA1-PA116&dq=%22#v=onepage&q&f=false
Death of the Rev. A. Goldwyer-Lewis. (1904, 6 Ionawr). The Chester courant and advertiser for North Wales. Cyrchwyd ar 7 Medi 2021 o https://newspapers.library.wales/view/3663142/3663150/126/