Roedd George Bernard Austin (1931-2019) yn archddiacon Caerefrog, yn enwog neu'n ddrwg-enwog am ei ymlyniad pybyr wrth draddodiad ac yn ffigwr y byddai newyddiadurwyr bob amser yn troi ato pan fyddai angen dyfyniad.
Daeth Austin o Bury, Swydd Gaerhirfryn; roedd ei dad Oswald yn berchen ar siop faco. Enw ei fam oedd Evelyn. Niweidiwyd bywyd cartref Austin gan ei fam-gu ormesol, y credai ei bod yn wrach. Mynychodd Ysgol Eglwys Sant Chad ac wedyn Ysgol Uwchradd Bury, lle daeth yn gapten yr ysgol. Yn ei arddegau, dechreuodd Austin fynychu’r eglwys Anglicanaidd leol a chafodd ei gonffyrmio maes o law. Ar ôl gadael yr ysgol, ymunodd â'r Awyrlu Brenhinol ar gyfer ei wasanaeth milwrol. Fodd bynnag, dangosodd prawf meddygol fod ganddo ffurf guddiedig o’r diciâu; cafodd ei ryddhau'n gyflym.
Cyrchfan nesaf Austin oedd Coleg Dewi Sant, Llambed, lle astudiodd radd mewn athroniaeth. Soniodd am ei amser yno,
'Roeddwn i wrth fy modd yng ngorllewin Cymru ... Doedd gennych chi ddim hawl i gael unrhyw fenywod yn eich ystafell – dim hyd yn oed chwaer. Wnaeth hyn ddim rhwystro pobl rhag ymgyfathrachu â merched lleol a merched Llambed hanner gwragedd clerigol Cymru am wn i. Dysgais fod angen i mi fynd i’r offeren bob dydd a gwnaeth hyn fi’n gatholig. Gweddïodd ffrindiau efengylaidd am fy nhröedigaeth a gwnaeth hi’n fwy catholig byth. Mae arna i ddyled fawr i Gymdeithas Dewi Sant (y Gymdeithas Anglicanaidd erbyn hyn) ac rwy wedi bod yn ddiolchgar iawn am ffrindiau o'r dyddiau hynny fel Noel Jones (Esgob Sodor a Manaw erbyn hyn). Fe wnes i fy nghyffes gyntaf yno ...'
Ar ôl Llambed, aeth Austin ymlaen i Chichester i baratoi i’w ordeinio. Roedd ei swydd gyntaf, un anhapus, yn San Pedr yn Chorley, yn esgobaeth Blackburn. Yn 1957, symudodd i eglwys Sant Clement yn Notting Hill. Y flwyddyn nesaf, dyma’r tensiynau rhwng aelodau'r dosbarth gweithiol gwyn a'r boblogaeth Garibïaidd Affricanaidd newydd yn ffrwydro’n derfysgoedd. Gofynnodd y Church Times i Austin am erthygl 1500 gair ar ei waith yn yr ardal; hwn oedd dechrau ei gysylltiad sylweddol â'r cyfryngau. Byddai'n mynd ymlaen i greu cryn enw iddo ei hun yn ddarlledwr ac yn awdur.
Ar ôl hyn, treuliodd Austin flwyddyn yn gweithio’n gaplan ym Mhrifysgol Llundain, ond llwyddodd i gythruddo’r uwch gaplan. Wedyn, aeth yn gurad i Briordy Dunstable, lle treuliodd dair blynedd hapus. Priododd â Roberta Thompson, (Bobbie), yn 1962; gofynnodd iddi am ei llaw dim ond chwe diwrnod ar ôl eu cyfarfod cyntaf! Cawsant un mab, Jeremy. Ar ôl Dunstable, roedd ei swyddi nesaf yn Eaton Bray yn Swydd Bedford ac wedyn yn eglwys San Pedr, Bushey Heath, Swydd Hertford, lle arhosodd am ddeunaw mlynedd.
Llun: Priordy Dunstable, lle bu Austin yn gurad Gan John Armagh – Ei waith eich hun, Parth Cyhoeddus, (https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=4973887)
Yn 1970 penodwyd Austin i'r Synod Cyffredinol; daeth yn un o brif lefarwyr yr elfen Eingl-Gatholig gan ymladd brwydr hir i atal y newidiadau a oedd ar y gweill. Daeth yn un o Gomisiynwyr yr Eglwys yn 1978, yn aelod o'r Pwyllgor Sefydlog yn 1985 ac wedi hynny o Gomisiwn Penodiadau'r Goron. Fodd bynnag, pan fethodd ag ennill dyrchafiad uwch, daeth yn argyhoeddedig mai'r rheswm am hyn oedd ei wrthwynebiad i glerigwyr benywaidd a'i gondemniad o ryddfrydiaeth ddiwinyddol.
Penodwyd Austin i eglwys bentref Sant Leonard, Flamstead, Swydd Hertford yn 1988. Fodd bynnag, yn fuan wedyn, cafodd wahoddiad gan archesgob Caerefrog, John Habgood, i ddod yn archddiacon Caerefrog ac yn un o ganonau cadeirlan Caerefrog. Roedd hon yn weithred hael oherwydd dim ond ychydig o amser cyn hyn, roedd Austin wedi dweud wrth gyfwelydd teledu fod Habgood yn anaddas i fod yn archesgob Caergaint! Aeth si ar led mai ymgais i dawelu Austin oedd hon! Byddai ef a Habgood yn parhau ar delerau da, er iddynt anghytuno’n gyhoeddus iawn o bryd i’w gilydd. Fodd bynnag, cynyddodd proffil cyhoeddus Austin yn syfrdanol yn sgil y penodiad newydd hwn. Dywedodd un newyddiadurwr fod 'Dod o hyd i farn gan George Austin yn debyg i ddod o hyd i waed mewn gwythïen.'
Yn 1991, pregethodd Austin bregeth yng Nghadeirlan Caerefrog lle bathodd y term 'agenda ryddfrydol'. Siaradodd am ymgais i sefydlu 'ffydd a moesoldeb arall na all byth ein bodloni.' Awgrymodd gynllun ar gyfer cyfyngu'r difrod drwy ffurfioli'r rhaniad rhwng Eglwyswyr traddodiadol a rhyddfrydol. Dywedodd Habgood fod Austin wedi'i atgoffa o'r bachgen tew yn Pickwick Papers Dickens a oedd yn awchu am godi braw pobl.
Roedd y penderfyniad i ordeinio menywod yn dân ar groen Austin; gwelodd hyn yn rhan o becyn rhyddfrydol, a oedd yn cynnwys hawliau cyfunrywiol, priodas pobl o'r un rhyw a’r lleihau cyffredinol ar gysyniad pechod. Credai hefyd, gan ei bod yn amhosibl i fenyw fod yn offeiriad, na allai fod gan unrhyw fenyw byth alwad i’r offeiriadaeth. Yn 1993, ychydig ar ôl i Dywysoges a Thywysoges Cymru wahanu, dywedodd wrth raglen Today y BBC fod y Tywysog Charles yn anaddas i fod yn frenin. 'Ar ôl torri ei addunedau priodas bron ar unwaith, sut y byddai'n gallu mynd i Abaty Westminster a thyngu addunedau’r coroni?', holodd. Y tro hwn, George Carey, archesgob Caergaint, a’i cyhuddodd ef o 'ddiwinyddiaeth megaffon'.
Mwynhaodd Austin waith yn archddiacon ac roedd yn gydwybodol wrth ymweld â'r plwyfi. Fodd bynnag, yn y pen draw, dechreuodd ei farn eithafol ymyrryd â'i gyfrifoldebau, gan fod gwahoddiadau iddo ymweld ag eglwysi wedi lleihau a theimlai’r ddau archddiacon arall na allai eu cynrychioli ar y Synod Cyffredinol. Ym mis Chwefror 1999, penderfynodd y byddai'n 'ymddeol ac yn cau ei geg.'
I ddechrau, arhosodd yn Swydd Efrog; dychwelodd i Bushey Heath yn 2010. Bu farw Austin ar 30 Ionawr 2019.
Ffynonellau
Obituary: the ven. George Austin. (2019, 8 Mawrth). Church Times. Darllenwyd yn: https://www.churchtimes.co.uk/articles/2019/8-march/gazette/obituaries/obituary-the-ven-george-austin.
Stennett, C. (2019, Chwefror 12). Yr Hybarch George Austin – pla o'r tu allan i ryddfrydwyr Eglwys Loegr a ddatganodd y Tywysog Siarl yn anaddas i fod yn brenin. Daily Telegraph. Cyrchwyd yn https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/1718B059A06BC248?p=UKNB [Darllenwyd 29 Ebrill 2020]
Low, R. (1999). Robbie Low: the interview. George Austin. Darllenwyd 29 Ebrill 2020, yn http://trushare.com/46MAR99/mr99lowi.html.
Austin, Ven. George Bernard, (16 July 1931–30 Jan. 2019), Archdeacon of York, 1988–99, then Emeritus; broadcaster, writer. WHO'S WHO & WHO WAS WHO. Darllenwyd 4 Meh 2020, yn https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-6022.
The Times. (2019, February 16). The Venerable George Austin – outspoken archdeacon with a weakness for fine food who declared ‘jihad’ against liberals and opposed any move to modernise the Church of England. The Times. Darllenwyd yn https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/171A71235E7C94A8?p=UKNB