Yr Archimandriad Barnabas (1915-1996) oedd yr offeiriad Uniongred Cymraeg cyntaf ers Sgism Mawr 1054.

Enw’r Archimandriad Barnabas pan gafodd ei eni oedd Ian Hamilton Burton. Daeth o Bennal ger Machynlleth. Roedd ei dad Peter Jones Burton yn saer maen; Margaret née Latham oedd ei fam. Ian oedd  yr ail o bedwar plentyn i oroesi. Cymraeg oedd ei iaith gyntaf, ac ychydig o Saesneg a fedrai yn ifanc iawn. Yn dilyn anghydfod â'r rheithor dros lanhau'r eglwys, penderfynodd ei fam fynychu capel yr Annibynwyr yn hytrach na'r eglwys, ac eithrio pan oedd ei theulu'n ymweld. Meddai Burton, 'Rhaid i mi gyfaddef ei bod hi’n gas gen i wasanaethau hir a diflas y capel a fy mod i’n caru harddwch a dirgelwch yr Eglwys.' Mynychodd ysgol y pentref, cyn llwyddo arholiad yr Ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Ramadeg Tywyn.   

Gadawodd Burton yr ysgol yn 1931, ar ôl llwyddo pum credyd mewn pynciau yn y celfyddydau ond heb unrhyw lwyddiant mewn gwyddoniaeth na mathemateg. Eisoes roedd yn grefyddol iawn. Parhaodd i astudio Lladin a Groeg gyda'i Reithor, y Parchedig Robert Davies, ac yn y pen draw dechreuodd baratoi ar gyfer ei ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru. Arferai hefyd helpu gyda mân swyddi o amgylch y pentref i ennill rhywfaint o arian.  

Cyfarfu Burton â lleian feudwyaidd Anglicanaidd, y Chwaer Mary Fidelia, a oedd yn byw yn hen dŷ ei daid yn Llanwrin. Yn  dilyn ei chyngor,  ymunodd ag Urdd Anglicanaidd y Tadau Cowley yn Rhydychen, gan ddod yn ymgeisydd yno ar 7 Medi 1933. Roedd hwn yn amser ffrwythlon iddo, wrth iddo ddarllen yn helaeth a dilyn y rhaglen drylwyr o fywyd mynachaidd. 

Wedi penderfynu paratoi ar gyfer cydlynu, gadawodd Burton Cowley yn anfoddog yn 1934 a dychwelyd i Bennal. I fod yn gymwys i’w dderbyn yng Ngholeg Dewi Sant, roedd angen iddo ychwanegu mathemateg at ei dystysgrif ysgol.  Er mwyn cyflawni hyn,  mynychodd Goleg Sant Ioan, Ystrad Meurig, gan astudio'n galed a byw cwta un filltir o adfeilion Ystrad Fflur. Llwyddodd yr arholiad mynediad ar gyfer Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac fe'i derbyniwyd i'r cwrs gradd mewn diwinyddiaeth yn 1935. Fel myfyriwr roedd yn aelod o Gymdeithas uchel eglwysig Dewi Sant. Cwblhaodd ei hyfforddiant ar gyfer yr offeiriadaeth yng  Ngholeg Diwinyddol Trelái, cyn ei ordeinio yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Roedd ei guradiaeth gyntaf ym Mae Colwyn, yn gwasanaethu o dan y Canon Clement Thomson, offeiriad Eingl-Gatholig cymedrol. Yn 1940 symudodd i Fwcle, gan wasanaethu’n warden cyrchoedd awyr ar y cyd â'i ddyletswyddau bugeiliol. Ei swyddi nesaf oedd yn Ganon Isaf yn Eglwys Gadeiriol Bangor ac wedyn yn gurad yn y cadarnle Eingl-Gatholig eithafol yng Nglandŵr, ger Abertawe. Gydol yr adeg roedd  yn dod  yn fwy ac yn fwy  ymwybodol  o'r  gwrthddywediadau a oedd ynghlwm wrth Babyddiaeth Anglicanaidd, yn ogystal â dechrau dyheu am fywyd mynachaidd. Treuliodd ychydig fisoedd gyda Chymdeithas Sant Ffransis  yn  Cerne Abbas, ac wedyn ymgymerodd â chyfres o swyddi byrion yn gaplan lleianod. 

St Asaph Cathedral

Llun: Mike Searle / St Asaph Cathedral / CC BY-SA 2.0

Yn 1949 ymunodd â’r Eglwys Gatholig; ym mis Ebrill y flwyddyn honno cafodd ei dderbyn gan dad Jeswitaidd yng nghapel East Hendred  House. Ar yr adeg hon, roedd yn byw gyda'i chwaer weddw  Morwenna a'i dau blentyn bach. Ar ôl gadael yr offeiriadaeth Anglicanaidd, treuliodd Burton amser yn athro ac wedyn yn ymgeisydd yn Abaty Douai ger Reading. Fodd bynnag,  cafodd drafferth gydag awdurdod yr Eglwys Gatholig a methodd â theimlo'n gyfforddus ynddi. Darganfu fod Eglwys Rufain o’r tu mewn yn wahanol iawn i’w hymddangosai allanol. Dywedodd ei fod yn cael ei arwain yn anymwybodol at yr Eglwys Uniongred, ac  weithiau byddai'n mynychu gwasanaethau Rwsiaidd neu Roegaidd. Gadawodd Burton  yr Eglwys Gatholig, gan ailymuno â'r offeiriadaeth Anglicanaidd yn 1954. 

Ym 1956, ymwelodd Burton â Pharis, lle cyfarfu â Père Denis, mynach Uniongred a ddilynai’r ddefod orllewinol. Cafodd y cyfeillgarwch ysbrydol rhwng y ddau ddyn effaith dyngedfennol ar fywyd Burton. Cawsant drafodaethau hir ar natur yr eglwys ac ar gred Denis y dylid ailgynnwys yr Eglwys Orllewinol yn yr Eglwys Uniongred. Daeth Burton i weld mai’r Eglwys Uniongred oedd parhad yr Eglwys anwahanadwy a sefydlwyd gan Grist. Yn 1960 fe'i derbyniwyd i'r Eglwys Uniongred  a'i ordeinio ychydig fisoedd wedyn. Dyma pryd y cymerodd yr enw mynachaidd Barnabas. Treuliodd beth amser ym Mharis, gan adrodd defod Bened bob dydd ac ymuno â gwasanaethau Bysantaidd. Yn y pen draw, byddai’n symud o Uniongrededd yn ôl y Ddefod Orllewinol i’r Ddefod Fysantaidd. 

Dychwelodd i Loegr yn 1964, gan obeithio dod o hyd i safle addas ar gyfer mynachlog. Yn 1967, darganfu ffermdy ac adeiladau wedi'u hadfer yn rhannol ym mhentref  Willand, ger Cullompton yn Nyfnaint. Yno sefydlodd fynachlog y Proffwyd Sanctaidd Elias; yr oedd gan y gymuned newydd bedwar aelod. Addaswyd sied yn gapel. Roedd rhaid cymeradwyo cynlluniau i drosi'r ysgubor yn eglwys a gweddill adeiladau'r fferm yn bedair cell.  Nid oedd bywyd yn hawdd, ond roedd bywyd beunyddiol y mynachlogydd yn troi o amgylch y Gwasanaeth Dwyfol a daeth pobl o bell ac agos i gael iachâd a hedd yn yr unigrwydd, y distawrwydd a’r drefn. Roedd yr Archimandriad Barnabas yn awyddus i weld plwyf Uniongred yn datblygu y tu hwnt i'r mynaich, ac yn sefydlu eglwys tŷ bach yn Combe Martin. Bellach hwn yw Plwyf Uniongred y Proffwyd Sanctaidd Elias, gydag eglwys yng Nghaerwysg yn ogystal ag yn Combe Martin. 

Dymuniad yr Archimandriad Barnabas, gydol ei oes, oedd sefydlu traddodiad mynachaidd Uniongred ym Mhrydain. Symudodd yn ôl i Gymru yn 1973, gan ymgartrefu ym Melin Newydd, rhwng y Drenewydd a Llanfair Caereinion, y flwyddyn wedyn. Sefydlodd fynachlog, Mynachdy  Sant Elias, mewn hen ffermdy  yno. Dechreuodd bob dydd gyda Boreol Weddi a daeth i ben gyda Hwyrol Weddi a Chwmplin; cafodd yr amser yn y canol ei dorri gydag oriau Gweddi. Ochr yn ochr â hyn, treuliodd y gymuned amser ar amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys coginio, garddio, gwneud gwaith tŷ, a derbyn ymwelwyr.  Yn y 1980au,  symudodd yr Archimandriad Barnabas i Aberfan, lle daeth yn ffigwr cyfarwydd yn cerdded y strydoedd yn ei hirwisg ddu. Ar ôl hyn, galwyd ef i wasanaethu yng Nghaerdydd; bu farw yno ar 14 Mawrth 1996. 

Ffynonellau 

Price, D.T.W. (1986). Archimandrite Barnabas, Strange Pilgrimage, (Stylite Publishing, Welshpool, 1985). Journal of Welsh ecclesiastical history. 3, 101-103. Cyrchwyd 7 Hydref 2020 yn: https://journals.library.wales/view/1127665/1127868/100#?cv=100&m=2&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F% 

A Brief History of the Orthodox Parish of the Holy Prophet Elias in Devon, England. (2011). Feuillet Exarchat33, 2-3. Cyrchwyd 8 Hydref 2020 http://www.exarchat.eu/IMG/pdf/English_Feuillet_exarchat_2011_march.pdf 

Pike, D.E. (2016, 17 Tachwedd 17). The Chapels of Aberfan (3) The Last 50 Years [Postiad blog]. Cyrchwyd yn: http://daibach-welldigger.blogspot.com/2016/11/the-chapels-of-aberfan-3-last-50-years.html 

Archimandrite Barnabas. (1985). Strange PilgrimageWelshpoolStylite Publishing