Joshua Hughes (1807-1889) oedd esgob Cymraeg cyntaf Llanelwy am bron cant a hanner o flynyddoedd.
Ganwyd Hughes yn New Mill, Nanhyfer, Sir Benfro ar Hydref 7 1807. Ei rieni oedd Caleb Hughes, melinydd, a’i wraig Magdalen. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Ystrad Meurig; ar ôl hynny, ef oedd un o’r myfyrwyr cyntaf i fynychu Coleg Dewi Sant, Llambed, ac astudiodd yno o 1828 tan 1830. Bob blwyddyn, byddai’n ennill dosbarth cyntaf yn yr arholiadau, a gwobrau am ei draethodau Cymraeg a Lladin. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1830, ac yn offeiriad yn 1831. Ymhen hir a hwyr, yn 1868, graddiodd o Lambed gyda gradd B.D. Daeth dau o’i frodyr yn glerigwyr.
Priododd Jones yn 1832; ei wraig oedd Margaret, gweddw Capten Gun a merch y barwnig Gwyddelig, Syr Thomas Mckenny. Oherwydd y briodas honno, etifeddodd ystâd ar lannau Llyn Como. Cafodd ef a Margaret dri mab a phum merch; ac o’r rhain oll, byddai Joshua Pritchard Hughes yn cael ei benodi’n esgob Llandaf, a Thomas McKenny Hughes yn athro daeareg yng Nghaergrawnt.
Gweithiodd y mab hynaf, Joshua Hughes, fel curad yn Aberystwyth, ac yna yn Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin. Yn 1838, penodwyd ef yn ficer Abergwili, pentref ychydig o filltiroedd i gyfeiriad y gogledd-gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin. Roedd llys esgob Tyddewi yn ei blwyf ef, a gweithiodd yn agos gyda’r Esgob Thirlwall, gan addysgu Cymraeg iddo. Daeth Hughes yn ficer Llandingad, Llanymddyfri yn 1845. Yno, gweithiodd yn eiddgar, yn aml yn marchogaeth 25 o filltiroedd ar ddyddiau Sul i gynnal pedwar gwasanaeth. Efengylaidd oedd eglwysyddiaeth Hughes. Roedd yn fugail cydwybodol ac yn bregethwr da. Gweithiodd yn arbennig o galed ar ran achosion addysgol - ysgolion eglwysig, ysgolion Sul, ac addysg uwch. Ymhen hir a hwyr, daeth yn ddeon gwlad ac yn broctor confocasiynol yr esgobaeth. Yn y ddadl dros ddyfodol Coleg Dewi Sant, roedd e’n ffafrio cyfuno â Choleg Crist Aberhonddu. Pe bai hynny wedi digwydd, byddai’r sefydliad a grëwyd gan y cyfuno wedi’i leoli yn Aberhonddu.
Yn 1870, ar ymddeoliad yr Esgob Thomas Vowler Short o Lanelwy, aeth Gladstone, y prif weinidog, i drafferth fawr i sicrhau olynydd a oedd yn Gymro Cymraeg. Meddai Gladstone ‘I have not since taking my present office felt more strongly the gravity of any matter of duty requiring to be done than this of the Welsh bishopric.’ Gwnaeth hen is-bennaeth Hughes yn Llambed ei gymeradwyo yn ‘good man, a pupil of mine, with whom I have entertained very friendly relations ever since my early connection.’ Yn dilyn proses ddethol hir, gwnaeth Gladstone enwebu Hughes yn esgob Llanelwy; ef oedd y Cymro Cymraeg cyntaf yn y rôl honno ers i John Wynne ymadael yn 1727. Hefyd, byddai’n pregethu yn y Gymraeg ar bob cyfle. Roedd penodiad Hughes yn ddadleuol. Nid oedd wedi mynychu unrhyw un o brifysgolion Lloegr; yn ôl pob sôn, mae’n debygol y gwnaeth Gladstone feddwl bod gan Hughes radd o Gaergrawnt, oherwydd cafodd ei gamarwain gan wall yn Crockford’s Clerical Directory. Yna, ceisiodd yn aflwyddiannus ddianc o’r penodiad. Ynghyd â hyn, nid oedd llawer y tu allan i Gymru yn gwybod am Hughes, a dim ond profiad o weinidogaeth blwyfol yng Nghymru oedd ganddo. Roedd llawer o’r uwch glerigwyr esgobaethol yn ystyried eu hunain yn well nag ef o ran eu haddysg a’u statws cymdeithasol. Mae’n bosibl hefyd nad oedd hanes ei briodas ffodus wedi gwella ei statws. Ond cafodd penodiad Hughes effaith symbylol dros ben ar farn y wlad Gymreig. Yn ogystal â hyn, roedd ei amser fel esgob yn llwyddiannus, a gwelwyd cynnydd sylweddol. Adeiladwyd eglwysi newydd, yn ogystal â llawer o ysgolion eglwysig. Cyflwynodd Hughes fwrdd addysg esgobaethol yn 1870, cymdeithas ymestyn eglwysi yn 1871, a chynhadledd esgobaethol yn 1878. Er gwaethaf awyrgylch chwerw’r cyfnod hwnnw, sefydlodd berthnasau da gyda’r anghydffurfwyr. Gweithiodd yn galed i ddod o hyd i glerigwyr a oedd yn medru’r Gymraeg ar gyfer plwyfi Cymraeg a dwyieithog, yn ogystal ag annog cynnal gwasanaethau Cymraeg ar gyfer Cymry Cymraeg a oedd yn byw mewn trefi Saesneg eu hiaith. Mynnodd hefyd fod plwyfolion Cymraeg yn cael ei gwasanaethu, hyd yn oed pe bai hynny’n golygu gorfodi offeiriaid nad oedd yn gallu eu gwasanaethu eu hunain i gyflogi curadiaid addas ar gyfer hynny.
Tarwyd Hughes â’r parlys ym mis Awst 1888; ac o ganlyniad, methodd lofnodi’r weithred i ymddeol o’i esgobaeth. Bu farw ar Ionawr 21 1889, a chladdwyd ef yn Llanelwy.
Ffynonellau
Havard, W. T., (1959). Hughes, Joshua (1807-1889), bishop. Dictionary of Welsh Biography. Ar gael oddi wrth: https://biography.wales/article/s-HUGH-JOS-1807. [Adalwyd ar Ebrill 28 2020]
Buckland, A. R., and D. T. W. Price. "Hughes, Joshua (1807–1889), bishop of St Asaph." Oxford Dictionary of National Biography. 23 Sep. 2004; Ar gael oddi wrth: https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-14083. [Adalwyd ar Ebrill 28 2020]
Cragoe, M. A question of culture: the Welsh church and the bishopric of St Asaph, 1870. Welsh history review = Cylchgrawn hanes Cymru. 1996;18(1-4):228-254. Ar gael oddi wrth: https://journals.library.wales/view/1073091/1082967/239#?xywh=-1619%2C-63%2C5617%2C3438. [Ar gael o Ebrill 28 2020 ymlaen]
Brown, R.L. (2005). In Pursuit of a Welsh Episcopate. Appointments to Welsh Sees, 1840-1905. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru