Roedd Noël Debroy Jones (1932-2009) yn gymeriad a hanner a ddaeth yn Brif Lyngesydd, ac yna, yn esgob Sodor a Manaw.

Ganwyd Jones ar Ddydd Nadolig 1932 i Brinley a Gwendoline Jones. Addysgwyd ef yn Ysgol ‘Haberdashers’’, Trefynwy, ac yna yng Ngholeg Dewi Sant Llambed. Ar ôl graddio, astudiodd ar gyfer cael ei ordeinio yng Ngholeg Diwinyddiaeth Wells. Gweithiodd fel curad yn eglwys St James, Tredegar, ac yna yn eglwys St Mark, Casnewydd.   

Symudodd nesaf i ogledd Nigeria; daeth yn ficer Kano, lle, yn ôl pob son, y cafodd ef effaith fawr mewn byr amser. Mewn ardal Islamaidd, sylwyd ei fod yn agored i rai traddodiadau Cristnogol eraill. Oherwydd y byddai ef bob amser yn gwisgo casog, heblaw am achlysuron pan gynhelid chwaraeon, nid oedd hi’n hawdd ei gamgymryd am rywun arall.  

Yn 1962, anfonwyd Jones i Singapore a Brunei fel caplan llyngesol. Roedd hwn yn gyfnod anodd i’r Llynges Fach gyda’r glannau o longau pysgota ffrwydron oherwydd daeth hi’n rhan o wrthryfel Brunei (yn erbyn cynhwysiad arfaethedig Brunei yng ngwladwriaeth Malaysia). Sefydlodd Jones gydberthynas hynod o dda gyda’r llongwyr; dywedwyd y byddai’r dynion yn y llongau pysgota ffrwydron a oedd wedi eu hangori tipyn o bellter wrth yr un yr oedd ef yn cynnal gwasanaeth Sul ynddi, yn llogi tacsis dŵr er mwyn ei glywed yn pregethu. Yn Singapore, cynhaliodd ef ei fedydd llyngesol cyntaf, gan ddefnyddio cloch HMS Puncheston, wedi ei throi wyneb i waered, fel bedyddfaen.  

Nesaf, gwnaeth Jones wasanaethu gyda’r Môr-filwyr Brenhinol, lle y gwnaeth ef weithio gyda ‘42 Commando’ gan gymryd rhan yn y ciliad o Aden. (Roedd e’n falch ei fod wedi pasio Cwrs Comando’r Môr-filwyr Brenhinol!). Uned Jones oedd yr olaf i ymadael. Gwnaeth Jones adrodd stori am ymweld ag ysbyty gan ddisgwyl gweld dynion wedi’u clwyfo ynddi. Yn lle hynny, daeth o hyd i’r gelyn, a gwnaeth eu hadnabod oherwydd roedd ganddynt dwrbanau a drylliau. Meddai ei fod wedi troi a rhedeg ar unwaith ‘like a madman for a low wall, which I hopped over just in time’ 

Yn 1969, priododd Jones â Joyce Leelavathy Aralanandam yn Singapore. Cafodd y pâr ddau o blant, Vanessa a Ben.   

Treuliodd Jones dair blynedd fel caplan staff i’r Weinyddiaeth Amddiffyn; yna, o 1977 tan 1980, bu’n Uwch Gaplan i’r lluoedd Prydeinig yn Hong Kong. Yn rhinwedd y swydd hon, byddai’n ymweld â theulu pob morwr gan gyflwyno ei hun fel ‘your vicar’. Ar un achlysur, dechreuodd rhai o’r gweithwyr cynhyrfawr Tsieineaidd a oedd yn adeiladu ar safle HMS Tamar derfysgu. Yn dawel, gwnaeth Jones ddiarfogi’r arweinydd a oedd ganddo fwyell.   

Erbyn dechrau Rhyfel Ynysoedd Falkland, roedd Jones yn ôl ym Mhrydain. Rhoddwyd iddo’r  dasg anodd o roi newyddion drwg i‘r perthnasau agosaf. Dywedwyd ei fod wedi gwneud hyn gyda thosturi a gallu mawr. Penodwyd ef yn gaplan anrhydeddus i Frenhines Elizabeth II yn 1983 ac yn Gaplan y Llynges ac yn Archddiacon y Llynges Frenhinol yn 1984. Gwnaeth gynorthwyo ym mhriodas Dug a Duges Efrog yn Abaty Westminster yn 1986. 

Picture of Peel Cathedral, Isle of Man

Llun: Eglwys Gadeiriol Peel, ar Ynys Manaw lle y bu Jones yn esgob 

Mewn cyferbyniad llwyr, yn 1989, penodwyd Jones yn Esgob Sodor a Manaw, (Ynys Manaw a’i hynysigau cyfagos). Mae hon yn esgobaeth anarferol; mae’r esgob yn aelod llawn o senedd yr ynys, sef y Tynwald, ac mae ganddo’r hawl i bleidleisio, ond dim hawl i gael sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ar y dechrau, roedd y swydd hon yn dipyn o ysgytwad diwylliannol iddo, ond yn fuan, roedd Jones wedi ymgysylltu â’r gymuned gyfan. Dywedwyd bod pawb yn y gymuned fechan hon yn adnabod yr esgob, ar y maes awyr, yn yr archfarchnad, ac yn yr eglwys, oherwydd ei gasog borffor. Caiff ei gofio’n annwyl fel ‘the bishop in the pink dress.’  Roedd yn weithredol iawn o ran materion lleol, ac yn ôl pob sôn, roedd yn rhedeg yr esgobaeth ‘like an aircraft-carrier!’ 

O ran ei eglwysyddiaeth, roedd Jones yn Anglo-Gatholig ac yn draddodiadwr blaenllaw yn y dadleuon ynglŷn â dyfodol Eglwys Loegr. Daeth yn wrthwynebwr cadarn ei argyhoeddiad o ran ordeinio menywod. Byddai’n gwrando ar y dadleuon, ond bob tro byddai’n dod i’r casgliad ‘I just have this gut feeling that it is wrong.’  Roedd hefyd yn gwrthwynebu ailbriodi ysgaredigion yn yr eglwys, gan ddweud ei fod am osgoi achosi parau i dyngu anudon o flaen yr allor. Teimlodd fod yr unigolyn a oedd yn ailbriodi, yn ei hanfod, yn dweud ‘Nid oeddwn yn ei wir feddwl y tro diwethaf’.  

Ar ôl iddo ymddeol, daeth Jones yn esgob cynorthwyol Caerefrog, a gwnaeth hefyd helpu yn y plwyfi lleol ac yn eglwys All Saints Caerefrog. Bu farw o ganser yn St Christopher’s Hospice, Scarborough, ar Awst 28 2009.

Ffynonellau 

Jones, Rt Rev. Noël Debroy, (25 Dec. 1932–28 Aug. 2009), an Hon. Assistant Bishop, diocese of York, since 2003. Who's who & Who was who. Adalwyd ar Fehefin 5 2020, oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-35599

 The Right Rev Noël Jones. (2009, September 11). The Times. p. 81. Adalwyd oddi wrth https://go-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/ps/retrieve.do?tabID=Newspapers&resultListType=RESULT_LIST&searchResultsType=SingleTab&searchType=AdvancedSearchForm&currentPosition=5&docId=GALE%7CIF0503913854&docType=Obituary&sort=Pub+Date+Reverse+Chron&contentSegment=ZTMA-MOD2&  

Obituary of the Right Reverend Noel Jones outspoken and conservative Bishop of Sodor and Man who went supermarket shopping in his purple pomp. (2009, September 11). Daily Telegraph. Adalwyd oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/12AACE63D3FC64E0?p=UKNB 

Obituary: the Rt Revd Noël Debroy Jones. (2009, September 23). Church Times. Adalwyd oddi wrth https://www.churchtimes.co.uk/articles/2009/25-september/gazette/obituary-the-rt-revd-noël-debroy-jones