Bishop Richard David Fenwick

Wedi ei eni yng Nghaerdydd, derbyniodd Richard ei addysg gynnar yn Ysgol Eglwysig Llandaf. Ar ôl methu’r arholiad 11+ yn argyhoeddiadol (!), ymhen hir a hwyr, aeth i Uwchysgol Treganna, ac yna i Lambed, man yr oedd ef bob amser wedi ei hoffi’n frwdfrydig. A dweud y gwir, lawer yn ddiweddarach, gwnaeth wasanaethu am ddeng mlynedd ar Gyngor y Brifysgol. Gwnaeth raddio gyda gradd BA yn 1966.

Yn astudio Diwinyddiaeth yng Ngholeg Fitzwilliam, a Neuadd Ridley, Caergrawnt, ordeiniwyd ef yn 1968, a daeth yn gurad Sgiwen, ac wedyn yn gurad Eglwys St Augustine, Penarth. Yn y cyfamser, gwnaeth barhau gyda’i astudiaethau, yn enwedig Cerddoriaeth. Yn dilyn derbyn Cymrodoriaethau yng Ngholeg Cerdd Llundain (Organ) ac yng Ngholeg y Drindod, Llundain (Cyfansoddi), enillodd radd Mus.B., yn 1979, yng Ngholeg y Drindod Dulyn. Dilynodd hon gyda gradd MA o Brifysgol Cymru (thesis ar Syr John Goss yn Eglwys Gadeiriol St Paul), gan astudio yn Llambed dan athro mawr ei barch, y Canon  William Price. Yna, astudiodd am radd PhD mewn Hanes Eglwysig ("Eglwys Rydd Loegr c 1845 - c 1945"), eto gyda Dr Price. 

Roedd cerddoriaeth bob amser yn bwysig iawn iddo. Gwnaeth astudio canu’r organ dan yr organydd enwog a dall o Gymru, David Williams, a gwnaeth ei hoffter mawr am y weinidogaeth a cherddoriaeth fynd ag ef ymlaen o’i guradiaethau i Eglwys Gadeiriol Rochester, ac yna i Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain. Fel Ail Gantor Eglwys Gadeiriol St Paul, ef oedd yn gyfrifol am lunio pob gwasanaeth pwysig, yn eu plith, Gwasanaeth Diolchgarwch Pen-blwydd y Fam Frenhines, yn bedwar ugain mlwydd oed, a’r Briodas Frenhinol, yn 1981. Yna, treuliodd 8 mlynedd brysur iawn fel Ficer Ruislip, ac ar ôl hynny, symudodd i fod yn Ganon-gantor ac yn Is-ddeon yn Eglwys Gadeiriol Guildford. Yn 1997, penodwyd ef yn Ddeon Trefynwy a hefyd yn Ficer Plwyf Cadeiriol Casnewydd. Hefyd, bryd hynny, rhwng 1997 a 2011, bu’n Gadeirydd Comisiwn Litwrgaidd Cymru, ac yn Warden y Gild Cerddorion Eglwysig hirsefydlog.  

Yn 2011, etholwyd ef yn Esgob St Helena gan Eglwys Anglicanaidd De Affrica, a chafodd ef ei gysegru yn Eglwys Gadeiriol St Mark, George (ar y Penrhyn Gorllewinol). Gwnaeth ef a Jane dreulio 7 mlynedd yn yr esgobaeth hudol a mynyddig honno yn Nhe’r Iwerydd ... tŷ Napoleon yn Longwood yw dim ond un o nifer o fannau aruthrol y gellid eu fforio. Hefyd, roedd Ynys y Dyrchafael yn rhan o’i esgobaeth. Ond gwnaeth ymweld â De Affrica lawer o weithiau ar gyfer mynychu’r Synodau, ac roedd teithio yn antur go iawn, oherwydd tan 2017, yr unig ffordd o gadw mewn cyswllt ag eraill oedd drwy ddefnyddio hen Long y Post a oedd yn cymryd 5 diwrnod i gyrraedd y Penrhyn (neu wyth diwrnod, ar achlysur, pan fyddai’r peiriant yn methu).   

Mae cerddoriaeth yn parhau i fod yn agos at ei galon. Yn ogystal â rhyw 150 o gyngherddau organ unigol dros y blynyddoedd, mae ef wedi perfformio ddwywaith yn Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain. Mae hefyd wedi cynnal perfformiadau yn Eglwysi Cadeiriol  Rochester, Guildford, Cofentri, Bangor, Casnewydd a Newcastle on Tyne – a 6 o weithiau yn Eglwys Gadeiriol St Paul, ar Ynys St Helena. Hefyd, mae wedi rhoi 6 perfformiad ar Organ Capel Llambed yn ystod yr Aduniad Blynyddol.   

Ers iddo ymddeol ac ymadael â St Helena, y mae ef a’i wraig Jane (deintydd) wedi byw yng nghartref ei deulu yn Llandaf. Mae Richard yn parhau i gynnal gwasanaethau ac i bregethu ledled y wlad – unwaith eto, mae’n dal i chwarae llawer o gerddoriaeth, er bod clefyd pandemig C19 wedi rhoi stop ar ei gyngherddau ar gyfer 2020. Ond fel mae’n ei ddweud, "diolch i’r drefn, rwyf innau a Jane yn dal i fod yma, pan rydym wedi colli’n drasig cymaint o bobl!"   

Yn 2019, yn Llundain, etholwyd ef yn Feistr y Gild Cerddorion Eglwysig. Mae Cymrodorion Anrhydeddus y Gild yn cynnwys  Rick Wakeman, y Fonesig Patricia Routledge, y Fonesig Mary Archer, a’r diweddar Fonesig Dame Vera Lynn (a oedd mor annwyl i bawb). Felly, mae ganddo ddigon i’w wneud, a diolch i’r drefn, mae’n brysur iawn!