Timothy Rees oedd yr esgob esgobaethol cyntaf yn yr Eglwys yng Nghymru ddatgysylltiedig gyda gradd o Lanbedr Pont Steffan yn unig.
Dyn lleol oedd Rees. Fe'i ganwyd yn Llan-non ar 15 Awst 1874. Ei rieni oedd David a Catherine Rees o Lain Llan-non. Roedd y teulu'n Gymry Cymreig a gwnaeth Rees siarad Cymraeg cyn iddo ddysgu Saesneg. Yn wir, wrth siarad yn gyhoeddus, roedd bob amser yn fwy cartrefol yn siarad Cymraeg. Addysgwyd Rees yn Ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ac Ysgol Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, cyn iddo ennill ysgoloriaeth i Goleg Dewi Sant. Yn Llanbedr Pont Steffan, gwnaeth argraff yn gyflym yn y Gymdeithas Lenyddol a Dadlau; dywedwyd amdano, ‘Teimlwyd fel siaradwr Cymraeg o fri wedi cyrraedd y coleg y flwyddyn honno.’ Graddiodd Rees yn 1896 gyda BA. Ar ôl hynny, gwnaeth hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Sant Mihangel, Aberdâr. Cafodd ei ordeinio fel diacon ym mis Rhagfyr 1897 ac yn offeiriad flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd yn gurad yn Aberpennar rhwng 1897 a 1901. Dychwelodd wedyn i Goleg Sant Mihangel, Aberdâr, lle'r oedd yn gaplan rhwng 1901 a 1906.
Cam nesaf Rees oedd symud i Gymuned yr Atgyfodiad, Mirfield, Gorllewin Swydd Efrog, sef cymuned fynachaidd Anglicanaidd. Dechreuodd ei yrfa fel mynach yn 1907. Daeth yn fwyfwy adnabyddus fel pregethwr efengylaidd, ym Mhrydain a thramor. Cynhaliodd genadaethau yn Seland Newydd, Canada a Sri Lanka.
Yn 1915, roedd Rees yn un o ddeunaw o dadogion Mirfield i fod yn gaplaniaid y fyddin. Gwnaeth wasanaethu ar long ysbyty Gallipoli, yn yr Aifft ac ar y Somme. Dywedwyd amdano, ‘Ar hyd y ffosydd adfeiliedig yr âi, yn chwilio am y clwyfedig, yn annog y byw, yn claddu'r marw … Yn darged i saethwyr cudd y gelyn yn gyson, bob tro mewn perygl o du sieliau’r gelyn, ac yn hynod anghyfforddus, gwnaeth weithio'n ddiflino i leddfu poen llawer o'r clwyfedig.’ Yn ogystal â chael ei enwi mewn adroddiadau ddwywaith, derbyniodd y Groes Filwrol yn 1917 am ei waith yn achub ac yn helpu milwyr clwyfedig ar y Somme. Wedi hynny, cafodd ei anfon i ysbyty a oedd yn gofalu am ddynion a oedd yn dioddef o glefydau gwenerol. Fel caplaniaid eraill y fyddin, gwnaeth ei ddiwinyddiaeth ei hun ddatblygu dros y cyfnod hwn a gwnaeth ymgysylltu â'r cysyniad dadleuol bryd hynny o Dduw dioddefus. Mae ei emyn enwocaf, ‘God is love, let heaven adore him’, yn cynnwys y geiriau:
‘And when human hearts are breaking, Under sorrow’s iron rod, That same sorrow, that same aching, Wrings with pain the heart of God.’
Roedd Rees yn warden Coleg yr Atgyfodiad, canolfan hyfforddiant diwinyddiaeth cymuned Mirfield, rhwng 1922 a 1928. Yna gwnaeth sicrhau bod y coleg yn ddiogel ac wedi'i adeiladu ar sylfaen dda. Roedd sawl un o'i emynau wedi'u cynnwys yn Mirfield Mission Hymn Book (1922).
Yn annisgwyl, cafodd Rees ei benodi'n Esgob Llandaf yn 1931. Daeth yn amlwg yn fuan fod Rees, dyn diymhongar â chwaeth syml iawn, yn llai o brelad ac unben na gweinidog ac efengylwr. Roedd yn esgob rhagorol, yn efengylwr Catholig ag ysbrydolrwydd dwys, isymwybod cymdeithasol a chalon fugeiliol.
Roedd y dirwasgiad diwydiannol wedi bwrw De Cymru'n arbennig o galed a dyma oedd y cyfnod mwyaf anodd. Roedd ffigurau diweithdra'n amrywio o 23% i 65%; roedd yn rhaid i Rees wynebu'r problemau a achoswyd. Roedd wir yn cefnogi'r gweithiwr ac yn gweithio'n galed i leihau'r trallod a achoswyd gan gyfnodau estynedig o segurdod gorfodol. Ym mis Ebrill 1932, lansiodd apêl Esgob Llandaf, yn gofyn i ddarllenwyr y Church Times gyfrannu. Gwnaeth gynnal tŷ agored rheolaidd yn Llys Esgob i grwpiau o bobl ddi-waith, yn cymysgu gyda'i westeion heb rwystr ac yn sicrhau y cafodd pryd o fwyd da ei goginio iddynt. Sefydlodd ‘fand cenhadwyr ifanc’, sef grŵp bach o glerigwyr di-briod, a oedd yn cael eu hanfon i'r plwyfi tlotaf er mwyn helpu gyda gwaith cymorth. Roedd Rees yn gadeirydd Pwyllgor Diwydiannol Llandaf, lle trafododd ffyrdd o helpu'r sefyllfa gyda gwleidyddion lleol ac arweinwyr diwydiannol. Fel llywydd cyntaf Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol De Cymru a Sir Fynwy, roedd yn amlwg wrth hyrwyddo clybiau galwedigaethol a gweithgareddau eraill ar gyfer pobl ddi-waith a'u teuluoedd. Dywedodd y Foneddiges Rhys Williams amdanynt:
‘Roedd yr Esgob Rees ymhlith y cyntaf i weld y drygioni moesol mawr a wnaed gan bobl Prydain yn erbyn pobl yr ardaloedd dirwasgedig yn y 1930au … Efallai fod y rhan a wnaeth chwarae wrth ail-lunio meddwl gwleidyddol ei amser a pheryglu cerydd y sir yn fwy sylweddol nag yr ydym yn ymwybodol ohono.’
Roedd hefyd yn areithiwr gwych, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Yn drist iawn, fe wnaeth iechyd Rees fethu. Bu farw ar ôl cyfnod hir o salwch ar 29 Ebrill 1939. Yn addas iawn, cafodd ei emyn ‘God is love’ ei ganu yn ei angladd. Cafodd ei gladdu'n agos at yr eglwys gadeiriol; mae yna gofeb efydd iddo ar lawr Capel y Forwyn Fair.
Picture: Bedd Rees ym mynwent eglwys gadeiriol Llandaf
Ffynonellau
‘The Bishop of Llandaff’ (1 Mai 1939). The Times. Cyrchwyd o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS151205025/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=46c0988f.
Price, D. T. W. (1990). A History of Saint David’s University College Lampeter.Volume Two: 1898–1971.Gwasg Prifysgol Cymru
Ellis, T. I. (1959). ‘Rees, Timothy (1874–1939), esgob Llandaf’. Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd ar 4 Mehefin 2020 o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-REES-TIM-1874
Parker, L. M. (2013). Shell-shocked Prophets:the influence of former Anglican army chaplains on the Church of England and British society in the inter-war years.(Traethawd doethurol, Prifysgol Birmingham, y Deyrnas Unedig.) Cyrchwyd o https://etheses.bham.ac.uk/id/eprint/4495/
Josselyn-Cranson, H. (2018). ‘“O God, the strength of those who war”: the hymns and hymn writers of World War I’. Lied und Populäre Kultur. 63, 167–188. Cyrchwyd o https://search-proquest-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/docview/2210887830/fulltextPDF/D9077690F87243EEPQ/1?accountid=130472
Rees, J. L. (1945). Timothy Rees of Mirfield a Llandaff: biography.A. R. Mowbray