Mae Judith Karen "Judy" French (a anwyd ar Dachwedd 18 1960 yn Portsmouth) yn offeiriad Anglicanaidd Prydeinig. Mae hi wedi bod yn Archddiacones Dorchester, yn Esgobaeth Rhydychen, ers 2014.

Roedd French yn dair blwydd oed pan symudodd ei rhieni a’i brawd deunaw mis oed i Kenya oherwydd swydd ei thad fel peiriannydd telathrebu. Ar ôl plentyndod eidylaidd a dreuliwyd yn fforio parciau gêm a thraethau hyfryd, mynychodd French ysgol fonedd yn Bournemouth.  Pan oedd hi’n bedair blynedd ar ddeg oed, derbyniodd hi fedydd esgob yn ei hen eglwys ‘gartref’, yn Portsmouth, ac ar orffen yn yr ysgol, symudodd yno, gan ennill Diploma Astudiaethau Busnes cyn dechrau ei bywyd gwaith fel clerc cyfrifon i gwmni yswiriant. Dechreuodd fynd i’r eglwys a chwarae rhan lawn ym mywyd yr eglwys ac yn yr addoli,  gan ddod yn aelod ieuaf y Cyngor Plwyf Eglwysig pan oedd hi’n bedair ar bymtheg mlwydd oed. Yn ei hugeiniau cynnar, teimlodd French ei bod hi’n cael ei galw i i fod yn offeiriad ordeiniedig yn Eglwys Loegr. Ar ôl llwyddo pasio ei harholiad Lefel Uwch mewn Hanes drwy fynychu dosbarthiadau nos, anogwyd hi gan yr Eglwys i wneud cais am le mewn prifysgol fel myfyrwraig hŷn. Treuliodd dair blynedd yn astudio Diwinyddiaeth yng Ngholeg Dewi Sant Llambed ac yn canu’n rheolaidd  yng Nghôr Capel y Coleg. Mae French yn cofio’r cyfnod hwnnw fel trobwynt allweddol yn ei thaith alwedigaethol: “Drwy gydol fy amser yn y brifysgol, roeddwn yn brwydro dros a oedd Duw yn fy ngalw i gael fy ordeinio, neu a’i syniad twp oedd y cyfan. Un diwrnod, roeddwn yn eistedd yng nghapel y coleg, wedi penderfynu fy mod wedi cael hen ddigon. Gofynnais i Dduw roi arwydd i mi o fewn y deng munud nesaf gan adael i mi wybod a oedd ef yn fy ngalw i fod yn offeiriad neu beidio. Bum munud wedyn daeth y caplan i mewn gan ddweud bod rhaid iddi fynd i rywle a gofyn a fyddwn innau’n fodlon cymryd y Foreol Weddi yn ei lle. A dyna fe.” 

A picture of Coventry Cathedral

Llun: Eglwys Gadeirol Cofentri DeFacto CC BY-SA  (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0)

Ar ôl graddio o Lambed yn 1989cafodd hyfforddiant ar gyfer cael ei hordeinio yn  St Stephen's House, Rhydychen, ac felly dechreuodd ei dyletswyddau gweinidogaethol fel diacones blwyf yn EsgobaethPortsmouth (1991–1994)Cafodd French y fraint o fod yn rhan o eiliad hanesyddoloherwydd, o’r ddwy ar bymtheg ar hugain o fenywod a oedd ymlith y cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriaid Eglwys Loegr yn Eglwys Gadeiriol Cofentri yn 1994, hi oedd un o’r ieuaf.  

Ar ôl cael ei hordeinio, gwnaeth wasanaethu fel curad cynorthwyol yn Esgobaeth Cofentri (1994–1997), ac yna fel Ficer yn Esgobaeth Rhydychen o 1997 tan 2014. Gwnaeth hefyd wasanaethu fel Deon ArdalChipping Norton (2007–2012). Yn 2012, gwnaed hi’n Ganon Anrhydeddus o Eglwys Gadeiriol Christ Church, Rhydychen, ac ar Fehefin 19eg 2014, cafodd ei phenodi’n Archddiacones Dorchester mewn gwasanaeth a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Christ Church, rôl y mae hi’n gwasanaethu ynddi hyd yn oed heddiw. Mae dyletswyddau French yn amrywiol ac yn cynnwys cyflwyno i’r esgob ymgeiswyr sydd am gael eu hordeinio, cynefino a sefydlu gweinidogion, cynnal ymweliadau â’r plwyfi, cynnal wardeniaid yr eglwys yn eu swyddi, darparu gofal bugeiliol thai ar gyfer y clerigwyr, trafod cwynion a chwestiynau, ac ymweld â’r tri chant dau ddeg chwech o eglwysi sydd yn  Archddiaconiaeth Dorchester Medd French am ei gwaith: “Yn fy marn i, mae gwaith archddiacones yn canolbwyntio ar wasanaethu a chynnig cefnogaeth ac anogaeth i’n heglwysi, i’n clerigwyr, ac i’n pobl. Mae’r ffocws ar wasanaethu yn y rôl hon yn parhau i fod yn thema gref, ac mae gweithio ochr yn ochr â chymaint o unigolion talentog yn beth hyfryd.”   

Ffynonellau: 

Church of England. (n.d.). Archdeacon › The Glossary: Church of England Companion. Adalwyd ar Fai 5 2020  oddi wrth https://www.churchofengland.org/terms-and-conditions/glossary  

Diocese of Oxford. (n.d.-a). Archdeacon Judy. Diocese of Oxford. Adalwyd ar Fai 5 2020  oddi wrth https://www.oxford.anglican.org/who-we-are/dorchester/archdeacon-judy/ 

Diocese of Oxford. (n.d.-b). Churches in Dorchester Archdeaconry. Diocese of Oxford. Adalwyd ar Fai 5 2020  oddi wrth https://www.oxford.anglican.org/who-we-are/dorchester/dorchester-archdeaconry-churches/ 

Duckles, J. (2014, April 10). God in the life of Judy French. Diocese of Oxford. Adalwyd oddi wrth from https://www.oxford.anglican.org/god-life-judy-french/

Wilkipedia. (2020). Judy French.In Wikipedia. Adalwyd oddi wrth https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Judy_French&oldid=950245989