Cafodd Robert ei eni yn Abergwaun, Sir Benfro ar 9 Chwefror 1869. Mynychodd Ysgol Ramadeg Abergwaun cyn ymuno â Choleg Dewi Sant yn 1899, lle enillodd radd ail ddosbarth yn y Clasuron. Bu’n guradur yng Nghasnewydd, Lerpwl a Hoden yn Swydd Efrog gan gwrdd a phriodi â’i wraig Florence Mary yng Nghasnewydd, cyn cael ei wahodd gan yr Archesgob Mercer i fod yn rheithor New Norfolk, Tasmania.
Ddwy flynedd ar ôl hynny, cafodd ei benodi’n Genhadwr Esgobaethol a Deon Gwledig Zeehan, 1911-1915, Rheithor Queensland, 1919-1921, ac yn olaf Archddiacon Hobart yn 1923. Fel Archddiacon Hobart, roedd Thomas yn gyfrifol am sawl eglwys ac yn cynnal pum gwasanaeth bob dydd Sul. Roedd hefyd yn olygydd y Church News, yn eistedd ar sawl pwyllgor ac yn dal sawl swydd o fewn y sefydliad Masonig gan gynnwys Caplan Cyfrinfa Llynges a Milwrol Tasmania.
Roedd bob amser yn hynod o boblogaidd, yn enwedig ymhlith y mwynwyr, ac roedd yn bresennol ym mwynglawdd copr Mount Lyell yn 1912, pan aeth y tŷ pwmp ar dân gan achosi marwolaeth pedwar deg dau o ddynion. Cafodd ganmoliaeth arbennig am ei wasanaethau arwrol yn ystod y trychineb.
Yn 1914, Robert oedd un o’r pedwar caplan cyntaf a gafodd eu penodi i Luoedd Ymerodrol Awstralia. Fel caplan gyda’r drydedd brigâd, gadawodd Hobart ar 20 Hydref 1914 ar yr S.S. Geelong gyda 912 o filwyr i’r Aifft. Gwasanaethodd yn yr Aifft yn Gallipoli, yn Ffrainc ac ym mhencadlys yr Awstraliad yn Horseferry Road yn Llundain, a oedd wedi adleoli o Gairo yn 1916.
Mewn cyfweliad papur newydd gyda’r Mercury ar ôl dychwelyd i Hobart i wella ar ôl cyfnod o waeledd yn 1916, adroddodd Robert rai o’i brofiadau adeg y rhyfel.
“…cafodd ein dynion eu hyfforddi’n drylwyr; roedd lluoedd Prydeinig eraill yn yr Aifft yn eu hedmygu, a barnwyd mai nhw oedd y milwyr gorau yr oeddent erioed wedi’u gweld. Cymerodd ein brigâd ran yn y seremoni ffurfiol yn Cairo i gysylltu’r Aifft o dan y Cadfridog Maxwell. Cafodd ein brigâd ei dewis hefyd i ddarparu’r parti glanio cyntaf ar Benrhyn Gallipoli o dan y Brigadydd Sinclair Maclagan, a oedd yn anrhydedd mawr. Nid yw geiriau o ganmoliaeth yn ddigon ar gyfer y milwr ardderchog hwnnw - un o’r swyddogion gorau i arwain y frigâd. Cyn y glanio sy’n hanesyddol erbyn hyn, cawsom ein cludo i ynys Lemmos, lle hyfforddodd y lluoedd am wythnosau mewn gorymdeithiau ffordd, dringo uchderau ac yn y blaen i’w cadw’n heini, gyda lluoedd eraill o’r Aifft yn ymuno â ni’n raddol. Fy nyletswydd oedd ymweld â nifer penodol o longau, cynnal gwasanaethau, mynd i’r safleoedd ysbyty a gwneud gwaith bugeiliol mewn ffordd gyffredinol. Hyd at adeg y glanio nodedig yn Gallipoli, roedd iechyd ein lluoedd yn ardderchog. Tra yn yr Aifft, bu farw dau neu dri o’n brigâd o wahanol achosion, ond dim un dyn o Dasmania, ac ar y cyfan, cawsom amser hapus..”
Cafodd Robert ei hun sawl dihangfa lwcus a chafodd ei daro gan shrapnel ar llabed ei glust ac ar achlysur arall roedd mor agos i lwybr tân-belen fel ei bod yn crafu un o’i goesau.
Bu farw Robert Henry Richards ar 11 Hydref 1929 ac fe’i claddwyd ym Mynwent Cornelian Bay, Hobart. Adroddodd yr Advocate fod llawer wedi mynychu ei angladd gan gynnwys y Prif Swyddog, yr Anrhydeddus J.C.M. Phee a’r Cadlywydd Gwladol, Lefftenant-cyrnol H.F. Cox Taylor D.S.O. Yn ei anerchiad, dywedodd yr Archesgob Hay fod yr Archddiacon Richards “yn cael ei garu gan fwynwyr Arfordir y Gorllewin a’i blwyfolion yn Wynyard ac ardaloedd eraill”. “Byddai’n bob amser yn cael ei gofio gan y bechgyn a ymladdodd ar feysydd y gad yn Gallipoli a Ffrainc. Gorchuddiwyd ei arch â Jac yr Undeb ac atseiniwyd y Post Olaf a Reveille.
Ffynonellau:
Archdeacon Richard’s Return. Experiences at the Dardanelles. Our Brave Tasmanians. (1916, Ionawr 6). The Mercury. Cychwyd o
https://trove.nla.gov.au/newspaper/article/1058671
Y diweddar Archddiacon Richard. (1929, Hydref 4) Advocate. Cyrchwyd o https://trove.nla.gov.au/newspaper/article/67679144?searchTerm=archdeacon%20robert%20henry%20richards&searchLimits=
Ysgrif Goffa'r Hybarch Archddiacon Richard. Splendid Services. (1929, Hydref 2). The Mercury. Cyrchwyd o