Randolph Thomas

Alfred James Randolph Thomas yw Cadeirydd y Cyngor ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n offeiriad yr Eglwys yng Nghymru ac yn gyn-Archddiacon Aberhonddu.

Mynychodd Thomas Ysgol Ramadeg Llanelli, cyn symud i Goleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1971 ac yn offeiriad yn 1972. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, priododd Jean Mary Gravell. Cawsant dri mab o’r enw Simon, Stuart a Mathew. Yn anffodus, bu farw Jean yn 2018, yn 67 oed. 

Mae Thomas wedi treulio’i weinidogaeth gyfan yn Ne a Chanolbarth Cymru. Gweithiodd fel curad yng Nghydweli yn ei swydd gyntaf. Cafodd ail swydd fel curad yn eglwys Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, cyn dod yn ficer tîm yn Aberystwyth yn 1976. Yn 1981, fe’i penodwyd yn ficer Betws a Rhydaman yn un, tua phymtheng milltir i’r gogledd-ddwyrain o Lanelli. Ynghyd â hyn, roedd yn Ddeon Gwledig Dyffryn Aman rhwng 1990 a 1993. Yn ystod ei amser ym Metws a Rhydaman, roedd eisoes yn nodedig am ei rôl mewn materion cyhoeddus, yn enwedig ym maes tai ac addysg. 

Nesaf, gwasanaethodd fel ficer Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin, yr eglwys blwyf fwyaf yn esgobaeth Tyddewi, rhwng 1993 a 2002. Yn ystod ei amser yno, rhoddwyd rhaglen adfer fawr ar waith. Llwyddodd archeolegwyr i leoli penglog Syr Richard Steele, yr ysgrifydd, dramodydd a chyd-sylfaenydd enwog The Tatler, mewn casged yng nghrypt Eglwys Sant Pedr. Etholwyd Thomas yn ganon o Eglwys Gadeiriol Dewi Sant yn 1996. 

Daeth Thomas yn Archddiacon Aberhonddu yn 2003.  Yn y Cymun Anglicanaidd, mae archddiaconiaid yn offeiriaid gydag awdurdod gweinyddol a ddirprwyir gan yr esgob. Neilltuir ardal ddaearyddol benodol i bob un, a elwir yn archddiaconiaeth. Mae eu dyletswyddau fel arfer yn cynnwys goruchwyliaeth ddisgyblu gyffredinol o’r clerigwyr a gofalu am eiddo’r eglwys. Ynghyd â’i waith fel archddiacon, roedd Thomas yn Ficer Bronllys gyda Llanfilo rhwng 2002 a 2006 ac yna’n Offeiriad â gofal dros Llanfrynach a Chantref gyda Llanhamlach, ychydig filltiroedd i’r de-ddwyrain o Aberhonddu, rhwng 2006 a 2013. Ymddeolodd Thomas ym mis Ionawr 2013 a chafodd ei anrhydeddu gyda'r teitl Archddiacon Emeritws. 

Yn 1989, roedd Thomas yn un o sylfaenwyr Cartrefi Cymru, elusen sy'n cefnogi pobl ag anghenion ychwanegol. Ei nod yw sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu, sy'n byw yng Nghymoedd De Cymru ac yng nghefn gwlad Cymru, yn gallu byw yn eu cymunedau lleol gyda chymorth o'r radd flaenaf. Yn wreiddiol, gobaith Cartrefi Cymru oedd helpu pobl i ddianc o sefydliadau mawr a chael cymorth i fyw yn agosach at eu cartrefi teuluol. Mae bellach yn darparu cymorth i bobl sydd ag anableddau dysgu i fyw fel tenantiaid â chymorth o gymdeithasau tai. 

Yn 1991, sefydlodd Thomas Ganolfan Deuluol Eglwys Sant Paul yn Llanelli i ddarparu cymorth i deuluoedd yn yr ardal leol. Gall plant a'u rhieni a'u gofalwyr gael gafael ar gymorth drwy amrywiaeth o ddarpariaethau. Nod y ganolfan yw sicrhau bod plant yn cael dechrau da mewn bywyd, gyda’r iechyd gorau posibl, yn rhydd o unrhyw gamdriniaeth a cham-fanteisio, a’u bod yn cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd mewn addysg a dysgu. Mae'r ganolfan yn cefnogi pob plentyn o dan 16 oed, yn ogystal ag unrhyw un sy'n ymgymryd â’r ‘rôl rhianta’.  Mae'n rhoi mynediad am ddim i blant i amrywiaeth eang o weithgareddau chwarae, yn cynnal cyrsiau achrededig am ddim ar sgiliau rhianta, ac yn trefnu teithiau a thripiau am ddim. Mae ei bolisi ‘drws agored’ yn hybu cyfleoedd cyfartal ar gyfer pob teulu. Mewn maes tebyg, sefydlodd Thomas Ganolfan Deuluol Tŷ Ni yng Nghaerfyrddin yng nghanol y 1990au, a Chanolfan Deuluol Eglwys Sant Ioan yn Aberhonddu yn 2008. 

Mae Thomas hefyd wedi cadeirio Grŵp Gwalia, sef un o brif ddarparwyr gwasanaethau tai, gofal a chymorth yn Ne a Chanolbarth Cymru. Mae wedi gwasanaethu fel Ynad Heddwch, fel cyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac fel llywodraethwr Coleg Crist Aberhonddu. Bu’n gadeirydd grŵp Diogelu Eglwysi yng Nghymru tan 2013. Yn 2001, penododd y Frenhines ef yn aelod o Urdd Sant Ioan o Jerwsalem. (Dyma'r urdd foneddigaidd sydd fwyaf adnabyddus am sefydlu a chynnal Ambiwlans Sant Ioan.) 

Mae Thomas wedi bod yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ers2014 ac yn Gadeirydd Prifysgol Cymru ers 2018. Yn ogystal â hyn, bu’n Gadeirydd Prifysgolion Cymru rhwng 2015 a 2019 ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg ers 2015. 

Ffynonellau 

Thomas, R. (2021). Cadeirydd y Cyngor ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant [Tudalen LinkedIn]  LinkedIn. Cyrchwyd ar 16 Mawrth 2021 o https://www.linkedin.com/in/randolph-thomas-58589763/ 

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. (2021). Llywodraethu a rheoli. Cyrchwyd ar 16 Mawrth 2021 o https://www.uwtsd.ac.uk/governance-management/governance/ 

Tatler essayist’s skull discovered in lead box. (2000, 26 Medi). Guardian. Cyrchwyd ar 16 Mawrth 2021 o https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/news/document-view?p=UKNB&docref=news/0F28998AD53D7591

Archddiacon. (2013). In Livingstone, E. (gol.)The Concise Oxford Dictionary of the Christian Church.Cyrchwyd ar 16 Mawrth 2021 o https://www-oxfordreference-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/acref/9780199659623.001.0001/acref-9780199659623-e-370. 

Cartrefi Cymru (2018). Ein taith. Cyrchwyd ar 16 Mawrth 2021 o https://www.cartrefi.coop/who-we-are/our-journey 

Thomas, yr Hybarch Alfred James Randolph. Yn: Crockford’s Clerical Directory (101st ed, 2010-11). Llundain: Church House Publishing 

Dewis Cymru. (2021). Canolfan Deuluol Sant Paul – Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd. Cyrchwyd ar 22 Mawrth 2021 o https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=22177  

Canolfan Deuluol Sant Paul (2020). Adroddiad yr ymddiriedolwyr a’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 ar gyfer Canolfan Deuluol Sant Paul. Cyrchwyd ar 22 Mawrth 2020 o https://register-of-charities.charitycommission.gov.uk/charity-search?p_p_id=uk_gov_ccew_onereg_charitydetails_web_portlet_CharityDetailsPortlet&p_p_lifecycle=2&p_p_state=maximized&p_p_mode=view&p_p_resource_id=%2Faccounts-resource&p_p_cacheability=cacheLevelPage&_uk_gov_ccew_onereg_charitydetails_web_portlet_CharityDetailsPortlet_fileName=0001060020_AC_20200331_E_C.pdf&_uk_gov_ccew_onereg_charitydetails_web_portlet_CharityDetailsPortlet_objectiveId=A10403616&_uk_gov_ccew_onereg_charitydetails_web_portlet_CharityDetailsPortlet_priv_r_p_mvcRenderCommandName=%2Ffull-print&_uk_gov_ccew_onereg_charitydetails_web_portlet_CharityDetailsPortlet_priv_r_p_organisationNumber=1060020