Roedd David Lloyd Isaac (1818-1876) yn awdur cynhyrchiol yn ogystal â chlerigwr.
Ganwyd Isaac yn Llanwenog, tua phum milltir i orllewin de-orllewin Llanbedr Pont Steffan. Daeth yn aelod o Eglwys Bedyddwyr Aberduar yn Llanybydder. Yn 1835, ymunodd ag Academi Bedyddwyr y Fenni i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth; y flwyddyn ganlynol, symudodd gyda'r coleg i Bont-y-pŵl. Daeth yn weinidog ar gapel Bedyddwyr Cymru y Tabernacl yng Nghastell-nedd yn 1838. Roedd yn llawn bywyd, a bu bron â threblu nifer y bobl yn ei gynulleidfa, a sefydlodd eglwysi newydd yn Aberdulais, Glyn-nedd a Phontardawe. Sefydlodd Gymdeithas Cymreigyddion yng Nghastell-nedd hefyd. Fodd bynnag, cododd anawsterau pan ddychwelodd ei ragflaenydd fel gweinidog, Titus Jones, i'r dref a dechreuodd gasglu cynulleidfa mewn cystadleuaeth.
Amheuwyd Isaac o anuniongrededd. Wedi'i siomi gan yr honiad, derbyniodd gynnig i weinidogaeth yn Eglwys Trosnant, Pont-y-pŵl yn 1841. Y flwyddyn ganlynol, fe briododd Jemima Thomas yng nghapel Bedyddwyr Bethania, Castell-nedd. Dywedir bod Isaac yn gymeriad atyniadol, gan weinidogi dros eglwys gyda dros ddau gant o aelodau. Fodd bynnag, roedd ei amser yno yn gythryblus. Yn benodol, bathwyd y llysenw 'Lawr ag e' arno. Yn ystod un o'r dadleuon eithaf aml gyda'i gynulleidfa, dywedir bod hen wraig wedi'i chythruddo cymaint nes gweiddi 'Lawr ag e'.
Daeth gweinidogaeth Isaac yn Nhrosnant i ben yn sydyn yn 1853, pan drodd yn ddadleuol at Anglicaniaeth. Yna astudiodd am ddwy flynedd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Mae cofnodion Bwrdd y Coleg ar gyfer 16 Mehefin 1855 yn adrodd y dyfarnwyd Gwobr Traethawd Creaton iddo werth £7 am "Swrdwal". Ordeiniwyd Isaac yn ddiacon yn Llandaf ym mis Medi 1855, ac yna fel offeiriad ym mis Medi 1856. Roedd ei guradiaeth gyntaf yn Llangadog ger Castell-nedd. Yn 1858, symudodd Isaac i Langathen, tua 12 milltir i ddwyrain y gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin. Mae'n ymddangos ei fod wedi bod yn gydwybodol, gan lwyddo i gynyddu nifer y cymunwyr. Roedd yn gyfrifol am adferiad sylweddol o eglwys St Cathen. Tynnwyd yr oriel orllewinol, a rhoddwyd llawr, seddi a tho newydd i'r adeilad. Yn ogystal â hyn, adeiladodd Isaac ysgol a ficerdy, ac ailadeiladodd gapel adfeiliedig. Arhosodd Isaac yn Llangathen tan 1871, pan ddaeth yn ficer i Langamarch yn Sir Frycheiniog.
Llun: Eglwys Llangathen, lle'r oedd Isaac yn offeiriad
Drwy gydol ei fywyd, roedd Isaac yn awdur cynhyrchiol, ond un eithaf ansystematig, ar hanes, hynafiaeth ac ieitheg. Fel bedyddiwr, roedd yn gyfrannwr rheolaidd i Seren Gomer; ar ôl iddo ddod yn Anglicanwr, byddai'n ysgrifennu'n rheolaidd ar gyfer Yr Haul, cylchgrawn swyddogol yr Anglicaniaid. Nodai Jenkins ei gasgliad amrywiol 'Llyfrgell Llwyd o Llangathen'(1858-59) a'i erthygl ar gyfieithwyr y Beibl, a gyhoeddwyd yn 1856. Gwnaeth hefyd ennill gwobr Eisteddfod am draethawd ar 'Hanes Llanbedr a'r Gymmydogaeth' yn 1860.
Yn 1859, cyhoeddodd Isaac Siluriana, cyfrol am hanes Sir Fynwy a Morgannwg. Mae'r dudalen deitl yn ei ddisgrifio fel casglwr; roedd wedi cynnwys darnau mawr o lawysgrif anorffenedig a chaotig a ysgrifennwyd gan William Davies (1756-1823). Dywed Phillips ei bod yn aml yn amhosibl gwahaniaethu rhwng gwaith y ddau awdur. Mae'r gwaith gorffenedig yn anhrefnus o hyd; yn y rhagair, eglurai Isaac na fwriadwyd unrhyw hanes olynol na threfn gronolegol. Yn ychwanegol, cafodd rhai penodau eu hysgrifennu'n annibynnol, yn aml ar gyfer papurau newydd neu gylchgronau. Fodd bynnag, er gwaethaf ei olygu rhyfedd, mae'r llyfr yn llawn o wybodaeth anghyffredin.
Bu farw Isaac yn Llangamarch ar 31 Mawrth 1876; mae yna lechen er cof amdano ar wal ddeheuol yr eglwys. Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru 44 o lyfrau nodiadau bach, sy'n cynnwys nodiadau o'i bregethau.
Ffynonellau
Jenkins, R. T., (1959). ISAAC, DAVID LLOYD (1818 - 1876), clerigwr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd ar 21 Gorffennaf 2021, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-ISAA-LLO-1818
The Rev. David Lloyd Isaac. (1937). Transactions and archaeological record / Cardiganshire Antiquarian Society, 12, 46. Cyrchwyd ar 21 Gorffennaf 2021 o https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1177372/1178863/47#?xywh=-3322%2C-243%2C9410%2C4844
Llangamarch. (2021). Parch. D. Lloyd Isaac. Cyrchwyd ar 21 Gorffennaf 2021 ohttps://www.llangammarchhistory.co.uk/local-people-of-interest/rev-d-lloyd-isaac.html
Married. (1842, December 31).Monmouthshire Merlin.Cyrchwyd ar 23 Gorffennaf 2021 o https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3393843/3393846/32/
Phillips, D.R. (1994). A romantic valley in Wales. The history of the Vale of Neath. [S.l.]: Gwasanaeth Archifau Sir Gorllewin Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Castell-nedd
Bradney, J.A. (1992). A history of Monmouthshire from the coming of the Normans into Wales down to the present time. Llundain: Academy Books
Phillips, D.R. (1916). 'A forgotten Welsh historian (William Davies, 1756-1823)'. The journal of the Welsh Bibliographical Society, 2(1),1-43. Cyrchwyd ar 22 Gorffennaf 2021 o https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1226390/1226691/6#?xywh=-2358%2C-173%2C6697%2C3447
Isaac, D.L. (cyfansawdd) Siluriana: or, contributions towards the history of Gwent & Glamorgan. Cyrchwyd ar 23 Gorffennaf 2021 o https://books.google.co.uk/books?id=swsLAAAAYAAJ&pg=PA1&source=gbs_toc_r&cad=3#v=onepage&q&f=false