Trysorau’r Casgliadau Arbennig

Open book with the bookplate of Swansea Training College on the front endpaper and the signature of Jane Austen on the first page

Darganfod y trysorau hanesyddol sy’n cael eu cadw yn ein Casgliadau Arbennig.

Yn ystod yr Oesoedd Canol hwyr, Llyfrau Oriau oedd llyfrau safonol defosiwn poblogaidd yng ngorllewin Ewrop [1].  O'r 13eg ganrif, fe wnaethant ddisodli  llyfr y Salmau fel y llyfrau gweddi mwyaf poblogaidd at ddefnydd seciwlar [2].  O ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg i ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, cynhyrchwyd mwy o Lyfrau Oriau nag unrhyw fath arall o lyfr, gan gynnwys y Beibl [3].  Mae Wieck yn priodoli eu poblogrwydd i ddau ffactor: - awydd y lleygwyr i ddynwared y clerigwyr ond gyda llyfr symlach na'r brefiari, a chwlt cynyddol y Forwyn Fair [3]. Mae'r llyfrau ar y cyfan yn fach ac yn gludadwy.

Er bod cynnwys Llyfrau Oriau yn amrywio, yr elfen graidd oedd yr wyth gwasanaeth a ffurfiai’r Little Office of the Blessed Virgin Mary neu Gwasanaeth Mair.  Y bwriad oedd eu dweud ar adegau penodol yn ystod y dydd, ac fe'u modelwyd ar y Divine Office neu’r Gwasanaeth Dwyfol a adroddwyd gan y clerigwyr [1]. Yn ogystal, mae Llyfrau Oriau fel arfer yn cynnwys Calendr yn dangos gwleddoedd a dyddiau'r seintiau (nad ydynt ar gael yn Llyfr Oriau Boddam), darnau o'r Efengylau, Oriau cryno er anrhydedd i'r Groes a'r Ysbryd Glân, y Saith Salm Edifeiriol gyda litani a cholectau, Gwasanaeth y Meirw, a gweddïau arbennig i'r Forwyn, y Drindod Sanctaidd ac amryw seintiau.   Credwyd bod adrodd y rhain yn lleihau'r amser y byddai’r perchennog neu ei anwyliaid yn ei dreulio ym mhurdan [2]. Mae'r testun fel arfer yn Lladin, er ei bod yn bosibl bod un neu ddwy weddi frodorol boblogaidd wedi’u cynnwys [1].

Roedd lluniau'n rhan gynhenid ​​o Lyfrau Oriau, gyda chynyrchiadau syml hyd yn oed wedi'u haddurno neu eu darlunio'n helaeth fel arfer. Roedd y rhaglen o ddarluniau yn tueddu i fod yn gymharol safonol.  Fel erioed, roedd graddfa ac ansawdd y darluniau'n cael eu rheoli gan y pris a dalwyd gan y cwsmer [1]. Fodd bynnag, cymaint yw eu harddwch nes bod Wieck yn eu cymharu ag eglwysi cadeiriol Gothig o weddïau a lluniau [3]. 

I ddechrau, roedd Llyfr Oriau yn foethusrwydd enfawr, yn waith celf a archebwyd i fodloni chwaeth a'i brynu am gost uchel.  Fodd bynnag, yn ystod y bymthegfed ganrif, yn sgil newidiadau mewn cynhyrchu llawysgrifau ac yn strwythur cymdeithas gogledd Ewrop roeddent bellach o fewn cyrraedd pobl nad oeddent yn uchelwyr.  Dechreuodd siopau copïo llawysgrifau ddarparu nifer sylweddol o gopïau wedi’u masgynhyrchu, a oedd yn fforddiadwy i fasnachwyr, perchnogion siopau a thirfeddianwyr gwledig llai [3].

Ysgrifennwyd Llyfr Oriau’r Fendigaid Forwyn Fair neu Gwasanaeth Mair yn Normandi i’w ddefnyddio yn esgobaeth Rouen tua diwedd y bymthegfed ganrif. [4]. Fel gyda brefiarïau a llyfrau offeren, yn aml mae modd adnabod Llyfrau Oriau yn ôl yr esgobaeth y maent yn dilyn ei ffurfiau a'i praeseptau [5]. Dyfala Hewerdine y gallai mwy nag un artist fod wedi cyfrannu, er gydag un cynllunydd cyffredinol [4]. Credir mai'r perchennog oedd y fenyw a gynrychiolir yn y llun o'r Forwyn a'i phlentyn ar f.68r [darlun. 13].  Mae Hewerdine yn disgrifio'r llyfr fel un o ansawdd da, er nid o'r dosbarth cynhyrchu uchaf [4].

Roedd y llawysgrif ym meddiant Charles Boddam, o Goleg y Drindod, Caergrawnt ym 1782 (arysgrif dyddiedig ‘Mehefin 1af 1782’). Graddiodd Boddam ym 1783 ac ymddengys iddo weithio yn Bengal, gan ddod yn Gyd-gasglwr refeniw'r taleithiau a ildiwyd gan Tippoo.   Bu farw ym 1811 [4]. Yn dilyn hynny, daeth ei Lyfr Oriau i feddiant Thomas Phillips o Brunswick Square, Llundain (un o brif gymwynaswyr y llyfrgell) a'i cyflwynodd ym 1846.

Yn ogystal â’r testun yn Oriau'r Forwyn, mae'r llawysgrif yn cynnwys pedwar ar ddeg o luniau o fewn fframiau pensaernïol, ac mae chwech ohonynt yn rhai tudalen lawn. Atgynhyrchir y delweddau hyn yn yr arddangosfa ganlynol.

Cyfeiriadau

  1. Backhouse, J. Books of Hours. London: British Library, 1985
  2. Sutton, K. Book of hours or horae. In: Brigstocke, H. (ed.) The Oxford Companion to Western Art.  Oxford: Oxford University Press, 2001. Available from: http://www.oxfordreference.com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/acref/9780198662037.001.0001/acref-9780198662037-e-324?rskey=QClXoQ&result=10 [Accessed 6 December 2017].
  3. Wieck, R.S. Time sanctified: the book of hours in medieval art and life. New York: George Braziller in association with the Walters Art Gallery, Baltimore, 1988
  4. Hewerdine, C.V. A study of the hours of Charles Boddam. MA thesis. University of Wales, 1981
  5. Beal, P. A dictionary of English manuscript terminology. Oxford: Oxford University Press, 2008. Available from: http://www.oxfordreference.com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/acref/9780199576128.001.0001/acref-9780199576128-e-0106?rskey=HQAoay&result=7  [Accessed 6 December 2017]
  6. Hewerdine, C.V. Symbolic decoration in a fifteenth-century Book of Hours.  Trivium 1983; 18: 49-54
  7. Panofsky, E. Studies in iconology: humanistic themes in the art of the Renaissance. New York: Harper & Row, 1962
  8. Salzman, L.F. Some notes on shepherds’ staves.  Agricultural history review 1957; 5 (2), 91-94
  9. Sill, G.F. A handbook of symbols in Christian art. London: Cassell, 1976
  10. Bodleian Library. MS Buchanan e.3. Available from http://www.bodley.ox.ac.uk/dept/scwmss/wmss/medieval/mss/buchanan/e/003.htm  [Accessed 6 December 2017]
chat loading...