Ein hymrwymiad i chi yw y byddwn yn gwneud y canlynol:
- Sicrhau mai’ch anghenion chi yw ffocws y gwasanaethau a’r casgliadau a ddarparwn a’n bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithiol er budd ein cwsmeriaid
- Cadw, amddiffyn a diogelu casgliadau’r Llyfrgell ac ar yr un pryd sicrhau’r mynediad ehangaf posibl atynt yn unol â’n Polisi Casgliadau
- Gwneud ein cwsmeriaid yn ganolog i’r hyn a wnawn drwy wrando arnoch a defnyddio’ch adborth i ddatblygu ein gwasanaethau a’n polisïau, o fewn diwylliant o dryloywder a bod yn agored
- Rheoli datblygiad ein gwasanaethau a’n hardaloedd i gefnogi a chyfoethogi strategaethau’r Brifysgol ar gyfer amgylchedd ysgogol o safon uchel sy’n gynhyrchiol o ran ymchwil
- Eich cefnogi a’ch helpu i gael eich grymuso, i fod yn feirniadol ac yn annibynnol wrth ddefnyddio gwybodaeth ac i fanteisio i’r eithaf ar yr amrywiaeth eang o adnoddau sydd ar gael
- Archwilio dulliau o wella ein gwasanaethau’n barhaol drwy fonitro a gwerthuso ein perfformiad yn erbyn ein safonau gwasanaeth, gan addasu ein harferion i fodloni’r safonau hynny
- Trin ein cwsmeriaid â chwrteisi, proffesiynoldeb a pharch cyfartal, gan ddarparu gwasanaeth amserol a rhagweithiol. Bydd modd adnabod staff wrth eu henw a byddant yn ymrwymedig i weithio gyda chi i ddatblygu partneriaethau cadarnhaol
- Sicrhau hyrwyddo cydraddoldeb i bawb yn ein holl wasanaethau, darparu amgylchedd a gweithgareddau sy’n croesawu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth, ac sy’n ymrwymo’n sylfaenol i gyfle a mynediad cyfartal
- Croesawu eich sylwadau a’ch awgrymiadau i’n helpu i wella ein gwasanaethau, delio â nhw’n brydlon a defnyddio’ch adborth i arloesi ac i wella ein gwasanaethau
- Hyfforddi a datblygu ein staff i ddelio ag ymholiadau’n briodol a byddant yn wybodus am ein gwasanaethau a’n cyfleusterau
- Cyfathrebu â chi mewn modd eglur, amserol a chywir drwy amrywiaeth o sianelau a rhoi cyhoeddusrwydd i’n hystod o wasanaethau, telerau ac amodau, oriau agor, a’ch hysbysu am unrhyw newidiadau
- Bod yn ymrwymedig i ddarparu ardaloedd dysgu croesawgar, diogel, cyfforddus ac o safon uchel sy’n ysbrydoli ac sy’n addas at eich helpu i astudio ac ymchwilio
- Gweithio’n gydweithredol ar draws yr holl brifysgol, ymgysylltu’n weithredol â’r cymunedau academaidd a phroffesiynol ehangach er mwyn rhannu a lledaenu arfer gorau
- Byddwn yn gweithio i sicrhau ei bod yn bosibl i unrhyw un a fyddai’n cael budd o gasgliadau, gwasanaethau ac arbenigedd casgliadau unigryw’r Llyfrgell wneud hynny, drwy wella mynediad a chreu amgylchedd croesawgar, ar y safle ac ar-lein, i’r holl ymwelwyr allano
Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn gofynnwn i chi wneud y canlynol:
- Cario’ch cerdyn myfyriwr gyda chi bob amser, deall pam rydym yn gofyn am ei weld a pheidio â’i fenthyg i unrhyw un arall ac os ydy ar goll rhoi gwybod am hynny cyn gynted â phosibl
- Bod â disgwyliadau uchel ohonom, dweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn dda a lle gallwn wella drwy roi’ch adborth ac awgrymiadau i ni
- Cadw at ein cod ymddygiad ystyriol, ystyried hawliau cyd-gwsmeriaid wrth ddefnyddio ein hardaloedd ffisegol a chadw at unrhyw gyfyngiadau a ddefnyddir mewn ardaloedd penodol
- Dilyn ein rheoliadau, telerau, amodau a pholisïau o ran defnyddio adnoddau ac ardaloedd, gan drin staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr â chwrteisi a pharch bob amser
- Cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a diogelwch eich hun wrth ddefnyddio unrhyw rai o’n gwasanaethau a’n hardaloedd, gan ddarllen yr holl hysbysiadau Iechyd a Diogelwch a Thân
- Ein helpu i ofalu am ein hardaloedd dysgu a dangos parch at bobl eraill drwy eu gadael yn lân ac yn daclus. Gallwch wneud hyn drwy ddod â bwyd a diod oer yn unig, neu ddiodydd poeth â chlawr, i mewn i’r holl lyfrgelloedd ac wedyn defnyddio’r biniau a’r cynwysyddion ailgylchu a ddarperir ar gyfer gwaredu sbwriel
- Defnyddio’r adnoddau a ddarparwn yn gyfrifol ac yn unol â thelerau eu defnyddio, hawlfraint, y gyfraith, cytundebau trwyddedu a rheoliadau’r Brifysgol
Ni chaniateir plant a phobl ifanc dan 16 oed yn ein llyfrgelloedd ond os oes oedolyn gyda nhw. Mae plant yn gyfrifoldeb yr oedolyn sydd gyda nhw tra byddant yn adeiladau’r Llyfrgell, a rhaid i’r oedolyn sicrhau goruchwyliaeth a rheolaeth ddigonol bob amser.
Mae’r Llyfrgell yn ymrwymedig i fod yn agored ynghylch ei gwybodaeth gorfforaethol, gan ddilyn egwyddorion deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Cynhelir cyfrinachedd gwybodaeth bersonol cwsmeriaid yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
chat loading...