person sitting on a sofa looking at a laptop

Mae gennym nifer fawr o e-adnoddau ac, er ein bod yn ceisio sicrhau mynediad di-dor iddynt, mae’n bosibl y byddwch o bryd i’w gilydd yn cael anawsterau wrth gyrchu adnoddau. Gallai nifer o ffactorau gwahanol fod yn achosi’r problemau hyn megis cyhoeddwyr yn diweddaru eu llwyfannau ar-lein neu broblemau penodol gyda gosodiadau cyfrifiadur neu ddyfais defnyddiwr. Mae llyfrgelloedd PCYDDS yn cysylltu â defnyddwyr a darparwyr adnoddau i geisio datrys problemau ac adfer mynediad i adnoddau ar-lein cy

Nod y canllaw hwn yw rhoi cymorth gyda phroblemau cyffredin y gallech ddod ar eu traws.  Os oes arnoch angen help wrth chwilio neu ddod o hyd i ddeunydd perthnasol wrth ddefnyddio unrhyw un o’n hadnoddau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd.

Methu mewngofnodi/gwall mewngofnodi

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r enw mewngofnodi cywir. I gyrchu’r holl adnoddau defnyddiwch eich enw mewngofnodi a chyfrinair Prifysgol, a chysylltwch â chymorth TG os oes angen i chi ailosod eich cyfrinair.

Cais i dalu am erthyglau

Os ydych chi’n ceisio cyrchu adnodd y daethoch chi o hyd iddo gan ddefnyddio peiriant chwilio ac rydych chi oddi ar y campws, mae’n bosibl na fydd yn adnabod eich manylion mewngofnodi hyd yn oed os yw’r llyfrgell yn tanysgrifio i’r adnodd.

Defnyddiwch y cyfleuster catalog y llyfrgell i chwilio am adnoddau yr ydych chi eisiau eu cyrchu, gan ei fod yn rhoi’r dolenni cywir i fewngofnodi i eAdnoddau.

Os ydych chi wedi cael mynediad i’r adnodd trwy catalog y llyfrgell ond rydych chi’n dal i gael cais i dalu, llenwch y ffurflen rhoi gwybod am nam oherwydd gallai fod problem gyda’n tanysgrifiad.

Methu cyrchu erthygl o gyfrol neu rifyn penodol o gylchgrawn

Wrth geisio cyrchu cylchgronau electronig, mae’n bosibl y gwelwch nad ydych yn gallu cael mynediad i erthyglau neu rifynnau penodol. Defnyddiwch y cyfleuster catalog y llyfrgell i weld pa flynyddoedd y caiff y llyfrgell eu cyrchu.

Weithiau mae nifer o ddolenni ag ystodau dyddiadau gwahanol. Dewiswch y ddolen sydd â’r dyddiadau mwyaf perthnasol ar gyfer eich anghenion chi.

Library search record example

Os yw’r erthygl rydych chi’n chwilio amdani wedi’i chynnwys yn yr ystod dyddiadau ar y cyfleuster catalog y llyfrgell ac nid ydych yn gallu ei chyrchu, llenwch y ffurflen rhoi gwybod am nam oherwydd bydd angen i ni wirio ein cofnodion.

Mae’r e-lyfr neu’r e-gylchgrawn wedi’i restru ar y cyfleuster Catalog y Llyfrgell ond nid yw ar gael

Os yw’r e-lyfr neu’r e-gylchgrawn wedi’i restru ar y cyfleuster catalog y llyfrgell ond wrth glicio ar y ddolen rydych chi’n cael neges yn dweud nad yw’r eitem ar gael, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r ffurflen rhoi gwybod am nam.

Dole ddim yn gweithio

Os yw’r ddolen a ddarperir gan y cyfleustercatalog y llyfrgell yn mynd â chi at y llyfr neu’r erthygl cylchgrawn anghywir, neu’n arwain at neges gwall, megis:

  • HTTP 404 Error Message
  • EZProxy Hostname error

rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r ffurflen rhoi gwybod am nam.

Rhowch gynnig ar borwr gwahanol

Gall rhoi cynnig ar borwr gwahanol fod o help weithiau oherwydd mae darparwyr adnoddau yn aml yn ffafrio porwr penodol; dylech hefyd wneud yn siŵr fod gennych y fersiwn diweddaraf sydd ar gael o’ch porwr.

Rhowch gynnig ar glirio'r storfa briwsion o'ch powr

Gall clirio eich storfa/briwsion ac ailddechrau eich porwr helpu gan ei fod yn sicrhau fod eich porwr yn ceisio llwytho fersiwn mwyaf diweddar tudalen we. Gweler tudalennau cymorth y porwr penodol:

Problemau gyda wal dân

Mae’n bosibl y bydd defnyddwyr oddi ar y campws a defnyddwyr ar y campws sy’n cysylltu trwy eduroam gyda’u dyfeisiau eu hunain weithiau’n cael problemau oherwydd nad yw’r feddalwedd wal dân a’r feddalwedd ddiogelwch yn caniatáu mynediad i’n dirprwy weinydd.

Os cewch chi neges fod y cysylltiad wedi’i wrthod neu os gwelwch y gwall “Page Not Found” mae’n debygol mai’r achos am hyn yw’r gosodiadau diogelwch ac mae’n bosibl y bydd angen i chi addasu’r rhain i gael mynediad i’n dirprwy weinydd. I gael rhagor o wybodaeth gweler tudalennau cymorth y system weithredu benodol:

Os ydych ar gyfrifiadur gwaith (mae gan rwydweithiau’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) osodiadau wal dân llym iawn) mae’n bosibl y bydd angen i chi gysylltu â desg gymorth TG eich cwmni i weld a oes modd addasu’r wal dân i ganiatáu mynediad i chi i ddirprwy weinydd y llyfrgell.

Yr unig opsiynau y gallaf eu gweld ar gyfer yr e-lyfr yr hoffwn ei lawrlwytho yw “Add to queue” neu “reserve”

Golyga hyn fod gennym drwydded defnyddwyr cyfyngedig ar gyfer y teitl hwnnw a bod uchafswm y nifer o ddefnyddwyr a nodir ar y drwydded wedi’i gyrraedd.

Trwy glicio ar y botwm “add to queue” neu “reserve” byddwch yn cael e-bost pan fydd copi ar gael. Pan fydd ar gael bydd hyn a hyn o amser gennych i gyrchu / lawrlwytho’r e-lyfr cyn iddo symud at y person nesaf yn y ciw.

Ni allaf adnewyddu na dychwelyd fy e-lyfr

Ni ellir adnewyddu e-lyfrau. Os yw eich cyfnod lawrlwytho wedi dod i ben gallwch fel arfer ei lawrlwytho eto ar unwaith os nad oes unrhyw un arall yn y ciw.

Ni ellir dychwelyd e-lyfrau. Bydd eich mynediad yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod lawrlwytho rydych chi wedi’i ddewis.

Nid yw’r e-lyfr rydw i ei eisiau ar gael trwy’r cyfleuster Chwilio’r Llyfrgell.

Anaml iawn y byddwn yn prynu’r holl lyfrau sydd ar gael ar blatfform. Os nad yw teitl wedi’i restru ar y cyfleuster catalog y llyfrgell mae’n debygol nad oes gennym fynediad ato ond anfonwch e-bost i needmore@uwtsd.ac.uk i wirio.

Hysbysu am Ddolen wedi Torri

chat loading...