Hygyrchedd Llyfrgell Ar-lein
Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau ar-lein sy’n hygyrch i’n holl ddefnyddwyr.
Ein nod yw darparu adnoddau sy’n bodloni neu’n rhagori ar lefel AA Canllawiau W3C ar Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 ac sydd bellach yn cynnwys asesiad o hygyrchedd fel arfer safonol wrth brynu adnoddau newydd.
Mae ein casgliadau digidol yn cael eu lletya gan gyhoeddwyr trydydd parti ar eu platfformau eu hun ar y we sy’n cael eu datblygu’n annibynnol. Mae llawer o gyhoeddwyr yn blaenoriaethu hygyrchedd digidol ac mae ganddynt eu datganiadau hygyrchedd eu hun.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach isod.
Cymorth a Chefnogaeth
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau’n gysylltiedig â hygyrchedd adnoddau neu wasanaethau ein llyfrgell ar-lein, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol cysylltwch â ni yn library@uwtsd.ac.uk.
I gael cymorth penodol ynghylch defnyddio adnoddau cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd.
Llyfrau electronig
Mae gwybodaeth am hygyrchedd yng nghyswllt ein darparwyr llyfrau electronig a dolenni i’w cyfarwyddiadau ynghylch hygyrchedd ar gael ar ein tudalen Casgliadau E-lyfrau.
Catalog y Llyfrgell
Primo gan Ex Libris sy’n gyrru Catalog y Llyfrgell. Mae Primo yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Primo.
Rhestrau Adnoddau Ar-lein
Mae ein Rhestrau Adnoddau Ar-lein yn cael eu gyrru gan Leganto gan Ex Libris. Mae Leganto yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn Adroddiad Hygyrchedd Cynnyrch Leganto.
RefWorks
Mae RefWorks yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn y Canllaw Hygyrchedd RefWorks ac yr Adroddiad Hygyrchedd Cynnyrch RefWorks.
Y Gadwrfa Ymchwil
Mae Cadwrfeydd Ymchwil y Brifysgol yn cael eu gyrru gan Eprints. Gellir gweld datganiadau ar gyfer y cadwrfeydd yn:
- Research Repository Accessibility Statement [Saesneg]
- Research Data Archive Accessibility Statement [Saesneg]
Sylwer ei bod yn bosibl nad yw dogfennau hŷn mewn fformat hygyrch. Os hoffech wneud cais am gopi hygyrch o unrhyw ddogfen a gedwir yn ein cadwrfeydd ymchwil cysylltwch â repository@uwtsd.ac.uk.
Tudalennau Gwe
Gellir gweld gwybodaeth bellach am hygyrchedd ein tudalennau gwe yn Natganiad Hygyrchedd y Drindod Dewi Sant.
Offer hygyrchedd
Gall yr offer canlynol helpu defnyddwyr i weld tudalennau gwe a gwefannau yn fwy cysurus.
Estyniadau Google Chrome:
- Selection reader (text to speech)
- Reader view (page personalisation)
- Headings Map (page outliner)
- HighContrast (contrast changer)
- CopyFish (optical character recognition)
- Spreed Speed Reading tool which helps increase your reading speed without sacrificing comprehension.