Llawlyfrau Cyfeirnodi

Hafan YDDS  -  Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu  -  Defnyddio ein llyfrgelloedd  -  Adnoddau Llyfrgell  -  Llawlyfrau Cyfeirnodi

Mae cyfeirnodi cywir yn sgil hanfodol. Wrth ysgrifennu aseiniad, disgwylir i chi gydnabod gwaith pobl eraill drwy ei gyfeirnodi mewn fformat cydnabyddedig a chyson.

Yn achos cyfeirnodi, mae digon o gyngor a meddalwedd ar gael sy’n anghyson neu sydd wedi dyddio. Rydym wedi creu’r Llawlyfrau Cyfeirnodi mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Academaidd a staff academaidd ar draws y Brifysgol er mwyn rhoi canllawiau a chymorth cyson i chi.

Mae’r llawlyfrau’n rhoi egwyddorion sylfaenol cyfeirnodi a llên-ladrad i chi, sut i gael cymorth a pha adnoddau ychwanegol y gallwch eu defnyddio ar gyfer enghreifftiau mwy penodol o’r arddull gyfeirnodi rydych yn ei defnyddio.

Yn y Drindod Dewi Sant mae pedair arddull gydnabyddedig o gyfeirnodi ac mae p’un i’w defnyddio’n dibynnu ar eich maes astudio. I gael gwybod p’un y dylech ei defnyddio, edrychwch yn eich Llawlyfr Rhaglen, a lawrlwytho’ch copi yma.

Os oes gennych amheuon, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd.

Cyfeirnodi Deallusrwydd Deallusol

Library Logo
chat loading...