Rhaglen ar-lein ar gyfer rheoli, ysgrifennu a chydweithredu ym maes ymchwil yw RefWorks, a’i nod yw helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, storio a rhannu pob math o wybodaeth, yn ogystal â chreu cyfeiriadau a llyfryddiaethau.
RefWorks - Mewngofnodi neu Cofrestrwch ar gyfer RefWorks yma
Cliciwch y ddolen “create an account” a nodwch eich manylionc gan ddefnyddio eich e-bost UWTSD. Drwy ddefnyddio’r eich e-bost UWTSD, bydd RefWorks yn gwybod eich bod yn aelod o’r Brifysgol.
- Allgludo dyfyniadau o Mendeley i RefWorks
- Allgludo dyfyniadau o EndNote i RefWorks
- Canllaw Hygyrchedd RefWorks
Rhaglen Cyn-fyfyrwyr RefWorks
Bellach mae Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn gallu defnyddio RefWorks drwy Raglen Cyn-fyfyrwyr RefWorks. Mae hawl i Gyn-fyfyrwyr gael un cyfrif RefWorks yn rhad ac am ddim gyda lle i storio ffeiliau atodol. Er mwyn cael y Cod Grŵp angenrheidiol i gofrestru fel aelod o’r Rhaglen Cyn-fyfyrwyr, cysylltwch â’r Llyfrgell. Sylwer bydd y Llyfrgell yn gwirio gyda Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr fod ymgeiswyr yn gymwys cyn darparu manylion pellach.
Tiwtorial RefWorks [Saesneg]
chat loading...