Skip page header and navigation

Ymunwch â Thîm Llysgenhadon Myfyrwyr PCYDDS

Ydych chi eisiau ffordd hyblyg o ennill cyflog wrth astudio?  Ymunwch â Thîm Llysgenhadon Myfyrwyr PCYDDS  

Fel Llysgennad Myfyrwyr, byddwch yn cefnogi gwaith ein hunedau Marchnata, Recriwtio ac Ymgyrraedd yn Ehangach ar ein campysau yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Llambed a Chaerdydd. Gydag oriau gwaith hyblyg, chi fydd yn dewis pryd y byddwch chi’n gweithio.   

Profiad 

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr positif, cyfeillgar a dibynadwy i ymuno â’r tîm i gefnogi gweithgareddau recriwtio fel diwrnodau agored, digwyddiadau blasu ac ymweliadau campws yn ogystal â rhannu eich profiadau gyda’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr PCYDDS.  

Cyflogadwyedd 

Mae bod yn Llysgennad Myfyrwyr yn eich galluogi i gael profiad gwaith a meithrin sgiliau cyflogadwyedd rhagorol a fydd ond yn gwella eich CV.  

Gwneud Cais a Mathau o Swyddi

Mae llysgennad myfyrwyr da yn frwdfrydig ynghylch PCYDDS a’r cyrsiau mae’n eu cynnig, yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm, yn dda am gyfathrebu gyda phobl newydd ac yn gyfforddus wrth siarad yn gyhoeddus. 

Dyma syniad o’r hyn mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn ei wneud… 

Fel y gwelwch nid oes dau ddiwrnod yr un fath pan fyddwch yn llysgennad myfyrwyr ac rydym wedi gosod y dyletswyddau’n ôl mathau o waith isod.  Os oes rolau penodol o ddiddordeb i chi, gwnewch nodyn or rhain ar eich cais. Ond peidiwch â phoeni, gallwch ddewis gweithio ar draws yr holl rolau os hoffech chi gyda’n hymagwedd hyblyg at dderbyn llysgenhadon newydd.

Math o Swyddi

  • Cefnogi a chyflwyno sgyrsiau, cyflwyniadau a gweithgareddau gweithdy ar y campws ac oddi arno. Mynd i ddigwyddiadau gydag aelod o dîm marchnata a recriwtio PCYDDS.  

  • Cefnogi digwyddiadau ymgyrraedd yn ehangach yn weithredol ar y campws ac oddi arno gan weithio gyda phlant oed ysgolion cynradd ac uwchradd. 

    Hyrwyddo Addysg uwch fel opsiwn i grwpiau targed fel y nodir yn y Strategaeth Ehangu Mynediad ac Ymgysylltu â’r Gymuned

  • Cynorthwyo gweithgareddau’r tîm Recriwtio Marchnata wrth hyrwyddo cyrsiau arbenigol y Brifysgol a defnyddiau ac offer gweithdy cysylltiedig. Dangos sut i ddefnyddio offer neu raglenni arbenigol yn ddiogel yn ystod diwrnodau blasu a digwyddiadau.

  • Cefnogi’r tîm recriwtio Marchnata i baratoi ar gyfer digwyddiadau a phrosiectau.  Dylai llysgenhadon cymorth gweinyddol fod yn gallu defnyddio Microsoft Office yn effeithlon, ac mae gwybodaeth am bostgyfuno yn ddymunol. Mae rhoi sylw i fanylion a’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn allweddol i’r rôl.

  • Cynorthwyo gyda chyflwyno cyflwyniadau a gweithdai wedi’u hanelu at fyfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg.  Rhannwch eich profiadau chi o brosesau derbyn, cefnogaeth i fyfyrwyr a bywyd yn PCYDDS fel myfyriwr hŷn. Rhoi golwg realistig ar Addysg Uwch er mwyn helpu i reoli disgwyliadau myfyrwyr sy’n dychwelyd. 

  • Mae cynhyrchwyr cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan ganolog yn ein gweithgarwch marchnata ac allgymorth, gan greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol ar gyfer darpar fyfyrwyr sy’n ystyried ymuno â PCYDDS.    

    Yn y rôl hon, bydd disgwyl i chi rannu eich profiad chi yn PCYDDS a chynnig ambell i awgrym da trwy gynnwys ffeithiol ysgrifenedig a/neu weledol wedi’i anelu at ddarpar fyfyrwyr, rhieni a dylanwadwyr eraill.  

    Disgwylir i Eiriolwyr Cyfryngau Cymdeithasol gadw at bolisi cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol bob amser. 

Ymunwch â'r Tîm

Os oes diddordeb gennych i ymuno â’r tîm cysylltwch â ni. 

Y prif gyfnod recriwtio yw Hydref – Rhagfyr, ond gwahoddir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, byddwch yn cael eich gwahodd i Gyfweliad. Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu sesiwn hyfforddi.