Cynllun Cyhoeddi
Os hoffech wneud cais Rhyddid Gwybodaeth anfonwch e-bost i foi@uwtsd.ac.uk neu cysylltwch â Paul Osborne, (Swyddog Diogelu Data) yn y cyfeiriad isod.
Cyflwyniad
Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth i’w grym llawn ar 1 Ionawr 2005 a’i nod yw hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac atebolrwydd ar draws y sector cyhoeddus. Mae’n rhoi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth a gofnodwyd gan awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys prifysgolion), ac mae’n nodi eithriadau rhag yr hawl honno ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus.
Beth yw Cynllun Cyhoeddi?
Dan Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i’r Brifysgol gynnal Cynllun Cyhoeddi sydd ar gael i’r cyhoedd; dogfen sy’n amlinellu’r wybodaeth y mae’r Brifysgol yn ei chyhoeddi’n arferol, y mae wrthi’n trefnu ei bod ar gael ar hyn o bryd neu y mae’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol. Nid yw’n rhestr o ddogfennau, ond yn hytrach yn ganllaw i’r gwahanol ‘ddosbarthiadau’ neu fathau o wybodaeth y mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i fynd ati’n rhagweithiol i drefnu eu bod ar gael.
Bwriad y cynllun cyhoeddi yw helpu’r cyhoedd i ddod o hyd i wybodaeth a gedwir gan y Brifysgol a lleihau’r angen i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth ffurfiol am wybodaeth.
Sut mae’r cynllun yn cael ei drefnu
Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu dogfen ddiffinio’r Comisiynydd Gwybodaeth i brifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2013, sydd wedi’i trefnu’n saith dosbarth o wybodaeth:
- Pwy rydym ni a beth rydym yn ei wneud
- Beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario
- Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn gwneud
- Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
- Ein polisïau a’n gweithdrefnau
- Rhestrau a Chofrestri
- Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i drefnu bod gwybodaeth sy’n disgyn i’r dosbarthiadau hynny ar gael i’r cyhoedd. Mae mwy o fanylion am bob dosbarth ar gael yn nogfen ddiffinio’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y Cynllun Cyhoeddi Model i brifysgolion.
Gwybodaeth sydd wedi’i heithrio o’r cynllun
Fel arfer ni fydd gwybodaeth sydd ar gael yn y dosbarthiadau yn cynnwys y canlynol:
- Gwybodaeth y tybir ei bod wedi’i heithrio dan un o eithriadau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu eithriadau’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, neu y gwaherddir ei rhyddhau dan statud arall;
- Gwybodaeth sydd wedi’i harchifo, nad yw’n gyfredol neu nad oes fel arall fynediad iddi; neu
- Wybodaeth y byddai’n anymarferol neu y byddai’n defnyddio llawer o adnoddau i’w pharatoi i’w rhyddhau dan drefn arferol.
Fformatau eraill
Os bydd arnoch angen gwybodaeth mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â Rheolwr Cofnodion y Brifysgol.
Codi Tâl
Mae llawer o’r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan. Mewn achosion lle nad yw’n ymarferol i ni drefnu bod gwybodaeth ar gael drwy’r we, neu pan fo’r wybodaeth ar gael ar fformat copi caled yn unig, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi tâl ar gyfer costau llungopïo, postio a deunydd pacio. Mewn achosion o’r fath codir isafswm tâl o £5.00. Os bydd y cais yn fwy na 50 tudalen A4 codir tâl ychwanegol o 10c y ddalen. Codir tâl postio’n unol â chyfraddau safonol y Post Brenhinol.
Gwybodaeth arall
Sylwer bod y rhan fwyaf o’r dogfennau a gynhwysir yn y cynllun cyhoeddi hwn wedi’u creu’n bennaf at ddibenion mewnol. Yn achlysurol gall hyn greu mân broblemau o ran bod yn ddealladwy i ddarllenwyr allanol. Anfonwch unrhyw geisiadau am gyfarwyddyd i foi@uwtsd.ac.uk
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani drwy’r cynllun cyhoeddi, efallai yr hoffech roi cynnig ar y cyfle i chwilio’r we sydd ar gael yng nghornel dde uchaf y dudalen gartref.
Mae’n bosibl gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth a gedwir gan y Brifysgol nad yw’n cael ei chyhoeddi dan y cynllun hwn. Wedyn bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a’r Ddeddf Diogelu Data. Anfonwch e-bost i foi@uwtsd.ac.uk neu ddarllen tudalennau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael manylion pellach.
Hawlfraint
Mae hawlfraint gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar bron pob cyhoeddiad a restrir yn y cynllun hwn; gallai atgynhyrchu deunydd a gyflenwyd drwy’r cynllun cyhoeddi neu trwy ymateb i gais am wybodaeth, a hynny heb ganiatâd datganedig y Brifysgol (neu’r deiliad hawlfraint), dorri rheolau hawlfraint.
Person cyswllt y dudalen hon:
Paul Osborne
Swyddog Diogelu Data
Ffôn: 01792-481180 (Est. 4180)
E-bost: foi@uwtsd.ac.uk
Ysgol Fusnes Abertawe,
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,
Stryd Fawr,
Abertawe, SA1 1NE