Cynllunio Strategol
Cynllunio Strategol
Mae prif gyfrifoldebau’r swyddogaeth hon yn cynnwys:
- Ymchwilio a mapio amcanion a thargedau strategol cenedlaethol er mwyn llywio cynllunio sefydliadol.
- Drafftio a chyflwyno dogfennaeth strategol allweddol i Uwch Dîm Rheoli’r Brifysgol a chyrff statudol eraill yn cynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
- Darparu cyngor, cymorth ac arweiniad i eraill yn y Brifysgol sydd â chyfrifoldeb dros ddrafftio a chyflwyno strategaeth a pholisi.
- Cydlynu ac ymateb i geisiadau data gan gyrff statudol yn cynnwys yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a CCAUC.
- Monitro ac adrodd ar dargedau Cynllun Strategol y Brifysgol, targedau’r Cynllun Ffioedd, Dangosyddion Perfformiad Allweddol a mesurau perfformiad eraill.
- Dadansoddi a dehongli data i gefnogi cynllunio strategol a phenderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Sicrhau ansawdd data a ddefnyddir mewn cyhoeddiadau allanol e.e. tablau cynghrair prifysgolion.
- Cydlynu casglu data Setiau Gwybodaeth Allweddol (KIS) a chyhoeddi’r canlyniadau ar wefan Unistats.
Cysylltu â ni:
Er mwyn cysylltu â’r Tîm Cynllunio Strategol, anfonwch e-bost i: Strategy@uwtsd.ac.uk