Cefndir
Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar 18 Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llambed a Choleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin, o dan Siarter Frenhinol 1828 Llambed.
Ar 1 Awst 2013, daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o PCYDDS. Siarter Frenhinol y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl rhai prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Mae’r Drindod Dewi Sant wedi arwain datblygiad strwythur prifysgol sector deuol, a elwir yn Grŵp PCYDDS, fframwaith i alluogi cydweithredu gyda sefydliadau eraill yn y rhanbarth. Yn rhan o’r datblygiad hwn, unodd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion â Grŵp PCYDDS yn 2013/14. Fe’u cynrychiolir ar y prif gyrff sy’n gwneud penderfyniadau academaidd o fewn y Brifysgol, gan gadw eu hunaniaeth sefydliadol nodedig eu hunain.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru wedi ymrwymo i integreiddio cyfansoddiadol di-droi’n ôl i greu Prifysgol sector deuol ar ei newydd wedd i Gymru. Mae’r ddwy Brifysgol wedi bod wrth galon addysg a bywyd diwylliannol Cymru ers eu sefydlu yn 1828 a 1893ac maent yn gweithredu dan drefniadau llywodraethu a gweinyddu integredig.