Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  Llywodraethu Un Blaned (PGCert)

Llywodraethu Un Blaned (PGCert)



Dyfarniad Lefel 7 yw’r rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig Llywodraethu Un Blaned a fydd yn darparu cyfle am ddatblygiad proffesiynol parhaus ym meysydd llywodraethu, gweinyddu a llunio polisi gwleidyddol, dinesig a chyhoeddus mewn modd cynaliadwy.

O fewn y rhaglen, bydd myfyrwyr yn astudio ymagweddau moesegol a chynaliadwy at arweinyddiaeth a gweinyddiaeth wleidyddol, a fydd yn eu paratoi at natur a rôl newidiol gwleidyddiaeth a llywodraethu yn yr 21ain ganrif. 

Mae recriwtio i'r rhaglen hon wedi ei gohirio ar gyfer 2023-2024.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Tystysgrif Ôl-radd Llywodraethu Un Blaned
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau’n uniongyrchol i’r Drindod Dewi Sant. Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn, Andy Burns, am fanylion:
E-Bost: a.burns@uwtsd.ac.uk


             Cais am Wybodaeth                        Gwnewch Gais Nawr         
E-bost Cyswllt: a.bell@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Alex Bell


£7,500
Ddim yn berthnasol

Pam dewis y cwrs hwn? 

  • Byddwch yn rhan o ailystyried busnes ar gyfer byd newidiol drwy ymuno ag ysgol fusnes sydd wedi ennill gwobrau.*
  • Astudiwch gymhwyster ôl-radd a fydd yn eich paratoi at y dyfodol.
  • Cymerwch ran mewn dysgu cydweithredol gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd.
  • Cyfunwch eich gwaith gydag astudiaethau, gyda chwrs sydd ar gael yn llawn ar-lein.
  • Byddwch ar eich elw gan academyddion a chymorth bugeiliol rhagorol.** 

*Ysgol Fusnes Caerfyrddin YDDS: Ailystyried Busnes ar gyfer Byd sy’n Newid, Enillydd ‘Gweithwyr Yfory’ yn y ‘Green Gown Awards 2018’.

**Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran ansawdd addysgu mewn Astudiaethau Busnes - The Times & Sunday Times Good University Guide 2019.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Yng Nghymru, a thu hwnt, mae llywodraethau’n dechrau deall y cyfyngiadau a roddir arnynt, gan yr adnoddau naturiol sydd o fewn eu ffiniau a gan fio-allu’r blaned, wrth ddarparu anghenion hanfodol eu dinasyddion ac amsugno effaith eu gweithgareddau, gan adael lle i natur ffynnu.

Nid yw systemau llywodraethu cyfredol, na rhai a etifeddwyd, yn darparu ar gyfer hyn, ac felly mae angen sgiliau ac arfau newydd.

Bydd y cwrs hwn yn archwilio natur yr heriau hir dymor, strategol, ecolegol a chymdeithasol sy’n wynebu’r blaned, a’r strategaethau ac arfau hanfodol wahanol sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy’n cael eu datblygu i fodloni’r heriau hyn. 

Nod y rhaglen yw hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr llywodraethol, trefol a sifil yn y ffyrdd o feddwl a’r arfau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau strategol a chyfannol hir dymor mewn perthynas â llywodraethu.

Yn nodwedd arbennig o’r cwrs, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth drylwyr o weithrediad ac effeithiolrwydd deddfwriaeth arloesol Cymru, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddant yn dod i ddeall yr heriau cydberthnasol sy’n wynebu dynoliaeth, a bywyd yn gyffredinol, ar y Ddaear, mewn perthynas â ffiniau planedol. Yna, byddant yn archwilio’n feirniadol yr arfau, safonau a methodoleg a weithredir gan wahanol weinyddiaethau o gwmpas y byd, ar draws gwahanol sectorau, mewn perthynas â’r Goliau Datblygu Cynaliadwy a chyfrifo ôl troed ecolegol. Byddant yn ffocysu ar faes dethol fel astudiaeth achos ymarferol.

Cyflwynir y rhaglen trwy ein Rhith-amgylchedd Dysgu, lle bydd myfyrwyr yn cael mynediad at yr holl weithgareddau dysgu, adnoddau a’u grŵp dysgu drwy ddefnyddio’r arfau a chymwysiadau cyfathrebu rhyngweithiol diweddaraf. Mae gwasanaethau cymorth y Brifysgol ar gael i’ch tywys drwy eich astudiaethau.

Pynciau Modylau

Mae’r rhaglen yn cynnwys dau fodwl 30 credyd a addysgir.

Ffiniau Planedol, Dangosyddion ac Ymagweddau Polisi

Yn y modwl hwn bydd myfyrwyr yn archwilio’r materion a’r heriau amgylcheddol a chymdeithasol y mae llywodraethu ‘un blaned’ yn ymdrin â nhw, ac yn datblygu agwedd feirniadol at y safonau, metrigau, a dangosyddion perthnasol. 

Datrysiadau wedi’u seilio ar y Sector

Mae’r ail fodwl hwn yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am fesurau, strategaethau, seilwaith, cyllid, a chaffael, gan ymdrin â materion newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, ynni, tai, cludiant, bwyd, diwydiant, cynllunio cymdogaeth, llesiant a pholisi cynllunio. 

Asesiad

Caiff pob asesiad ei gyflwyno ar-lein ac fe fydd yn adeiladu ac adfyfyrio ar y gweithgarwch cydweithredol o fewn y modylau.

Bydd y tiwtor yn darparu adborth ffurfiannol a chrynodol ac fe fydd ar gael trwy e-bost, dros y ffôn a/neu Skype i roi eglurhad pellach am yr adborth, os bydd y myfyriwr yn gofyn am hynny.

Bydd dilyniant a dyfarniadau’n cydymffurfio â’r rheoliadau Prifysgol safonol ar gyfer rhaglenni Meistr.

Bydd trefniadau ar gyfer ailsefyll yn cael ei ddarparu trwy Rhith-amgylchedd Dysgu’r Brifysgol.

Dolenni Cysylltiedig

Bywyd Myfyrwyr ac Caerfyrddin

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

Bydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol gan ddefnyddio’r meini prawf a ganlyn:

  • Fel arfer, meddu ar radd anrhydedd 2:2 ar y lleiaf, neu gymhwyster cyfwerth priodol, h.y. cymhwyster proffesiynol, gan sefydliad cydnabyddedig ym Mhrydain neu dramor.
  • Cymhelliant ac uchelgais priodol y gellir ei ddangos ar gyfer astudio Llywodraethu Un Blaned.
  • Bodloni meini prawf hanfodol derbyn myfyrwyr ar raglen ôl-raddedig.
  • Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cyffredinol yn llawn yn cael eu hystyried ac fe ellir eu derbyn os medrant ddangos eu bod yn gallu ymgymryd â’r rhaglen a’i chwblhau’n llwyddiannus i’r safon ofynnol, ac yn gallu cyfrannu’n llawn at, ac elwa gan, y profiadau dysgu a gyflwynir yn y rhaglen.
  • Nid oes dim gofynion i fod yn bresennol yn y DU ar gyfer y rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig Llywodraethu Un Blaned dysgu ar-lein/o bell.
  • Dylai bod gan ymgeiswyr sydd wedi’u haddysgu a’u hasesu mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg allu dangos eu bod yn hyderus i astudio drwy gyfrwng y Saesneg, i safon cyfwerth ag IELTS 6.0.
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr fynediad addas i gyfrifiadur fel y gallant gyrchu Rhith-amgylchedd Dysgu’r Brifysgol.

Gall meini prawf mynediad a chymwysterau derbyn ar gyfer y Rhaglen Ôl-raddedig hefyd gynnwys bod gofyn i’r ymgeisydd feddu ar gyfwerth â:

  • (i) Gradd baglor di-anrhydedd mewn pwnc cysylltiedig neu gytras gan brifysgol yn y DU a phrofiad perthnasol y gellir ei brofi (fel arfer yn gyfwerth neu’n gymeradwy â dwy flynedd)
  • (ii) Gradd anrhydedd gan Brifysgol yn y DU mewn pwnc nad yw’n gysylltiedig neu’n gytras lle mae gan yr ymgeisydd brofiad perthnasol y gellir ei brofi (fel arfer yn gyfwerth neu’n gymeradwy â dwy flynedd)
  • (iii) Gradd ardystiedig gan sefydliad nad yw yn y DU sy’n gyfwerth â’r rheiny a nodwyd yn (i) a (ii) uchod.
  • (iv) Cymwysterau nad ydynt yn raddau, fel y Diploma Cenedlaethol Uwch, mewn pynciau perthnasol (e.e. EdExel), neu gymwysterau tramor cyfwerth, lle mae gan yr ymgeisydd brofiad gwaith priodol (fel arfer yn gyfwerth neu’n gytras ag o leiaf tair blynedd)
  • (v) Cymwysterau gan gyrff proffesiynol, sydd ar lefel yn is na Gradd Anrhydedd y DU ond yn dangos profiad proffesiynol perthnasol (fel arfer yn gyfwerth neu’n gytras ag o leiaf tair blynedd)

Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â swyddi mewn meysydd cysylltiedig, neu brofiad o faes/disgyblaeth/pwnc cysylltiedig, neu brofiad o faes gwaith cysylltiedig tebyg i’r rhaglen heb radd neu gymwysterau cyfwerth â gradd os ydynt yn gallu dangos eu potensial i fodloni gofynion dysgu’r rhaglen.

Mynediad Uwch gyda RPCL (Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol)

Bydd ymgeiswyr sydd ag achrediad proffesiynol perthnasol a derbyniol yn cael eu hystyried ar gyfer eithriadau.  Sylwer: nid yw achrediad a gafwyd yn barod mewn cymwysterau yn dderbyniadwy.

Cyfweliadau

Fel arfer, caiff pob ymgeisydd lefel ôl-raddedig gyfweliad. Gellir cynnig lle i ymgeisydd ar sail y ffurflen gais yn unig gan gynnwys hanes academaidd, datganid personol a geirda.

Mae gofynion ychwanegol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, nad Saesneg yw eu mamiaith, a bydd rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth o afael digonol ar Saesneg llafar ac ysgrifenedig i fodloni gofynion rhaglenni ôl-raddedig. Fel arfer, y gofynion yw sgôr o 6.0 yn y prawf IELTS, neu 232 ar gyfer y prawf cyfrifiadur, neu dystiolaeth neu eirdaon sy’n dangos eu bod wedi gweithio am gyfnod o flwyddyn ar y lleiaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Cyfleoedd Gyrfa

Lluniwyd y Dystysgrif Ôl-raddedig Llywodraethu Un Blaned i ddarparu cyfle am ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer llywodraethu, gweinyddu a gwneud polisïau gwleidyddol, trefol a chyhoeddus cynaliadwy.

O fewn y rhaglen, bydd myfyrwyr yn astudio ymagweddau moesegol a chynaliadwy at arweinyddiaeth a gweinyddiaeth wleidyddol, a fydd yn eu paratoi at natur newidiol a rôl gwleidyddiaeth a llywodraethu yn yr 21ain ganrif.  

Bydd myfyrwyr sydd ar y rhaglen yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o Lywodraethu Un Blaned drwy ymgysylltu’n feirniadol â’u harfer eu hunain.

Ymhlith y rolau allweddol posibl, mae:

  • Rheolwr cynaliadwyedd
  • Rheolwr prosiect
  • Ymgynghorydd
  • Gweithredwr cynaliadwyedd neu asiant newid mewn busnes, diwydiant, datblygu
  • Y Celfyddydau
  • mentrau cymdeithasol
  • llywodraeth
  • Cyrff anllywodraethol
  • elusennau, iechyd neu addysg
Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

Gall myfyrwyr ddewis prynu defnyddiau ar gyfer modylau, fel y traethawd hir, ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn dylanwadu ar y radd derfynol.

Cyrsiau Cysylltiedig

Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd (MBA) (Ar-lein)

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

 

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.