Cliciwch ar yr enwau i weld eu manylion bywgraffyddol.
Yn raddedig o Brifysgol Cymru (Bangor) a PCYDDS, cafodd Emlyn Dole yrfa gynnar yng ngweinidogaeth y Bedyddwyr ac yn y celfyddydau cyn dod yn Gynghorydd Sir etholedig. Gwasanaethodd am saith mlynedd fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin lle bu’n gyfrifol am weledigaeth a strategaeth gorfforaethol y Cyngor. Roedd yn un o brif benseiri Bargen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â llwyddiant y Cyngor i ddenu cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU. Mae’n un o ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn parhau i weithio’n rhan amser fel gweinidog hunan-ordeiniedig.
Roedd yr Hybarch Randolph Thomas yn Archddiacon Aberhonddu rhwng 2003 a 2013, ar ôl dal yn flaenorol swyddi Ficer Caerfyrddin (1993–2003) a Chanon Cadeirlan Tyddewi (1996–2003).
Mae hefyd wedi gwasanaethu’n Ustus Heddwch; Cadeirydd Grŵp Gwalia; Llywodraethwr Coleg Crist Aberhonddu; a Chyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae’n un o sylfaenwyr Cymdeithas Tai Cartrefi Cymru ar gyfer pobl sydd ag anghenion arbennig ac yn Gadeirydd Bwrdd Amddiffyn yr Eglwys yng Nghymru.
Mae Justin Albert OBE wedi bod yn Gyfarwyddwr ar Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er 2011. Mae ganddo gefndir cyfreithiol a phrofiad helaeth o arweinyddiaeth fasnachol ac nid-er-elw mewn sefydliadau cadwraeth, addysgol a diwylliannol. Mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys bod yn aelod o fwrdd Croeso Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac yn ymgynghorydd i Weinidog y Cabinet ar gyfer Economi a Thrafnidiaeth; mae ei rolau cyfredol yn cynnwys Is-Lywydd Gŵyl y Gelli, Ymddiriedolwr Farms for City Children a llywodraethwr yr Ysgol Fale Frenhinol.
Yn ogystal â’i radd yn y gyfraith mae ganddo radd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru. Mae’n ddinesydd deuol y DU a’r Unol Daleithiau.
Wedi’i eni a’i addysgu yng Nghaerfyrddin, mae gan Timothy Llewelyn gefndir mewn bancio. Roedd ganddo uwch swyddi rheolaethol ym Manc Lloyds tan 2018, ac yn fwyaf diweddar, bu’n Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol dros Gymru a’r Rhanbarth Gorllewinol. Mae ganddo bellach nifer o swyddi anweithredol: ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin; mae’n aelod Lleyg o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Sefydlog; yn Is-gadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi; ac yn Drysorydd Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin.
Arwel Ellis Owen OBE yw Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Cyfarwyddwyr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Chadeirydd Cyfeillion yr Ystafell Fyw. Ymunodd â’r BBC ar ôl graddio mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac roedd yn Olygydd Newyddion a Materion Cyfoes Cymru cyn cael ei benodi’n Bennaeth Rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon.
Ar ôl ennill Cymrodoriaeth Ymchwil gyntaf y Guardian yng Ngholeg Nuffield, Rhydychen, gadawodd i sefydlu’i gwmni annibynnol ei hun yn y cyfryngau, Cambrensis Communications. Gadawodd y busnes teuluol ym maes darlledu a’r cyfryngau i fynd yn Brif Swyddog Gweithredol interim S4C ac Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n darlledu’n aml ar faterion Eingl-Wyddelig, yn awdur ac yn Gymrawd Churchill ac yn Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth.
Mae cefndir gan Nigel Roberts ym maes bancio ac mae wedi dal swyddi rheoli gyda Banc Midland/HSBC tan 2010, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Bancio Masnachol ar gyfer Gorllewin Cymru. Bellach mae’n gweithio fel ymgynghorydd i Clay Shaw Butler, Cyfrifyddion Siartredig ac mae’n dal nifer o swyddi anweithredol o fewn Esgobaeth Tyddewi. Mae rolau cyfredol eraill yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ymddiriedolwr ar gyfer Canolfannau Teulu Caerfyrddin. Mae hefyd yn aelod o’r Panel Benthyciadau ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.
Wedi ei magu a’i haddysgu yng Nghymru, gweithiai Elizabeth Siberry fel gwas sifil yn Llundain: yn Gyfarwyddwr AD adrannol rhwng 2003-08 ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol rhwng 2008-11. Bellach mae ganddi bortffolio o rolau sector cyhoeddus ac ymddiriedolaethau yn y sector elusennol: yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor y Brifysgol mae’n un o Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Celfyddydau Brycheiniog, ac Ymddiriedolaeth Gregynog.
Astudiodd hanes yn Llundain a Chaergrawnt a dyfarnwyd iddi PhD yn 1982. Mae’n parhau i ysgrifennu a chyhoeddi fel hanesydd, gan weithio ar agweddau ar hanes canoloesol a hanes Sir Frycheiniog ac mae hi’n aelod o fwrdd golygyddol y cylchgrawn Brycheiniog. Dyfarnwyd iddi OBE yn 1997.
Mae gan Maria Stedman gefndir ym maes cyfrifeg ac mae hi wedi dal swyddi uchel yng Nghyngor Sir Dyfed, Cyngor Sir Caerfyrddin a Phrifysgol Abertawe. Bu’n Bennaeth ar CIPFA Wales Cymru am naw mlynedd cyn ymddeol.
Ar ôl cyflawni amrywiol rolau gwirfoddol oddi mewn i bwyllgorau rhanbarthol CIPFA, rhwng 1999 a 2002 hi oedd Llywydd CIPFA De Cymru a Gorllewin Lloegr; Aelod Cyfetholedig o Gyngor CIPFA; Cadeirydd Bwrdd Cymwysterau CIPFA, Is-gadeirydd Pwyllgor y Rhanbarthau; Aelod o Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant CIPFA.
Mae hefyd wedi gwasanaethu’n Llywodraethwr Ysgol ac yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin; Trysorydd yr Ŵyl Ffilm Geltaidd Ryngwladol; yn un o sefydlwyr, aelod bwrdd a thrysorydd canolfan ieuenctid galw heibio Dr M’z, Caerfyrddin; a rhwng 2012 a 2014, yn aelod lleyg o Bwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg.
A hithau’n Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bu Deris Williams yn Gyfarwyddwr Menter Cwm Gwendraeth am bron ugain mlynedd cyn ymddeol yn 2015. Mae hefyd wedi gweithio’n helaeth yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys fel llywodraethwr ysgol, cynghorydd cymuned ac aelod o’r Bwrdd Iechyd Lleol. Hi oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr ac Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Mae’n gweithio’n llawrydd ar hyn o bryd fel Arolygydd Lleyg i Estyn ac mae’n gyfrannwr rheolaidd i’r rhaglen ‘Prynhawn Da’ ar S4C ac amrywiol raglenni ar Radio Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Hanfod Cymru, yr elusen gofrestredig sy’n dosbarthu grantiau i grwpiau cymunedol ar ran Loteri Cymru.
Mae Geraint Evans MBE wedi bod yn Gadeirydd Corfforaeth Coleg Caerdydd a’r Fro er 2011. Mae’n gyfreithiwr sydd wedi treulio mwy nag ugain mlynedd yn gweithio’n rheolwr gyfarwyddwr i gwmni manwerthu. Mae wedi rhedeg nifer o fusnesau llwyddiannus ac wedi gweithio mewn nifer o swyddi gwirfoddol yn y sectorau busnes ac addysg yn gwasanaethu cymunedau lleol ar draws Caerdydd a’r Fro. Tan yn ddiweddar, ef oedd Cadeirydd Busnes mewn Ffocws – y cwmni cefnogi busnesau a mentrau, lle mae’n parhau’n gyfarwyddwr. Mae’n Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, ar ôl treulio deuddeng mlynedd yn Gadeirydd. Mae’n gefnogwr chwaraeon brwd, yn enwedig rygbi a chriced, ac mae wedi chwarae i’r MCC yn y gorffennol.
Iwan Thomas yw Cadeirydd cyfredol Corff Llywodraethu Coleg Sir Benfro. Ef yw Prif Weithredwr PLANED, elusen ddatblygu cymunedol ranbarthol sy’n gweithio ar draws Gorllewin Cymru ac mae’n Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. At hynny, mae Iwan yn gwasanaethu’n wirfoddol ar nifer o gyrff a sefydliadau allweddol, yn cynnwys yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i Gymru, yn Gyfarwyddwr i Groeso Sir Benfro ac yn Gadeirydd Cyngor Eglwysig Eglwys y Santes Fair Llanllwch. Yn ei amser sbâr mae’n cefnogi nifer o fudiadau cymunedol gyda chodi arian a gweithgareddau.
Penodwyd gan y Staff Academaidd
Ymunodd Stuart Robb â Phrifysgol Cymru yn 2012, ar ôl dal swyddi yn adrannau gweinyddu, addysgu, a gofal bugeiliol nifer o brifysgolion eraill. Tra roedd ym Mhrifysgol Cymru, cyflawnodd Stuart rolau arweiniol wrth reoli partneriaethau rhyngwladol, sicrhau ansawdd, polisi a rheoleiddio sefydliadol, a gwella academaidd. Fe’i penodwyd yn Bennaeth Partneriaethau Cydweithredol (Cysylltiadau Partneriaethau) yn 2018 ac mae’n arwain yn y maes hwn ar ran Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn Cerddoleg.
Clerc y Cyngor
Clerc y Cyngor yw:
Rebecca Doswell
Dirprwy Ysgrifennydd y Brifysgol
E-bost: r.doswell@uwtsd.ac.uk