Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Astudiaethau Celtaidd (MA)
Mae’r Astudiaethau Celtaidd (MA) yn rhaglen dysgu o bell unigryw sy’n cynnig i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gyfle i astudio amryw agweddau ar hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd yn eu cartrefi eu hunain.
- Astudiaethau Celtaidd (Tystysgrif Ôl-raddedig)
- Astudiaethau Celtaidd (Diploma Ôl-raddedig)
- Astudiaethau Celtaidd (MA)
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Tramor (pellter / ar-lein): £10,400
Mae'r ffioedd ar gyfer y cwrs cyfan.
- Os hoffech ddysgu mwy am hanes, llenyddiaeth, crefydd a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd, mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol i chi.
- Gellwch ddewis o ystod eang o bynciau diddorol a addysgir gan ddarlithwyr profiadol sy’n arbenigwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd.
- Gan fod y cwrs yn un dysgu o bell, nid oes angen i chi symud i Lambed ac aberthu’ch gwaith o ddydd i ddydd, oherwydd gellwch astudio o’ch cartref eich hun gan ddefnyddio Moodle (ein llwyfan dysgu o bell), cynnwys y cwrs a’r deunydd darllen a ddarperir gan eich darlithwyr.
- Byddwch yn dysgu ble i ddod o hyd i’r ffynonellau pwysicaf ar y Celtiaid, llenyddiaeth Arthuraidd, llên gwerin, derwyddon a seintiau Celtaidd a sut i gwestiynu’r amryw fersiynau o’r gorffennol a awgrymwyd gan haneswyr, ieithwyr, llên-gwerinwyr ac archeolegwyr.
- Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach, yn ogystal ag ystod o sgiliau pwysig y gellir eu trosglwyddo’n hawdd i’r gweithle.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r radd meistr amlddisgyblaethol hon yn caniatáu myfyrwyr i astudio ystod eang o bynciau yn y meysydd canlynol: hanes a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol cynnar a diweddar, astudiaethau rhywedd, llenyddiaeth Arthuraidd, llên gwerin, crefydd, ysbrydolrwydd ac eiconograffi.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am yr ieithoedd Celtaidd ar gyfer y rhaglen hon (ac eithrio’r Gymraeg), oherwydd bydd y myfyrwyr yn astudio ffynonellau Celtaidd mewn cyfieithiad. Addysgir y rhaglen trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoddir cyfle i fyfyrwyr fireinio’u Cymraeg ysgrifenedig.
Yn Rhan Un gwerth pob modwl yw 30 credyd ac yn ogystal ag astudio’r ddau fodwl gorfodol HPCS7003 Y Celtiaid o’r Cychwyn i’r Cyfnod Modern a HPCS7002 Yr Arthur Celtaidd a chwedlau’r Mabinogi, bydd myfyrwyr yn cael dewis dau fodwl dewisol o blith y rhestr o fodylau dewisol a geir isod.
Wedyn, yn Rhan Dau, rhoddir cyfle i’r myfyrwyr ymchwilio’n fanwl i bwnc sy’n apelio atynt ac ysgrifennu traethawd ymchwil estynedig. Bydd cyfarwyddwr yn eu cynorthwyo ac yn goruchwylio eu hymchwil. Cydweithredwn â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a goruchwylir rhai o’n myfyrwyr MA gan staff y Ganolfan sydd hefyd yn cynnig arbenigedd o’r radd flaenaf ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr di-Gymraeg ddygu’r Gymraeg.
HPCS7003C Y Celtiaid: o’r Cychwyn i’r cyfnod modern Sicrha y modwl hwn fod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth feirniadol o gyd-destun a chefndir ehangach tarddiad, datblygiad hanesyddol a nodweddion y cymdeithasau Celtaidd. Galluoga’r myfyrwyr i asesu a gwerthuso’n feirniadol ddehongliadau amrywiol yng nghyswllt hanes y Celtiaid. (gorfodol)
HPCS7002C Yr Arthur Celtaidd a Chwedlau’r Mabinogi Rhydd y modwl hwn ddealltwriaeth systematig i fyfyrwyr o gynnwys, cyd-destun, pwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol Pedeir Keinc y Mabinogi ac astudir yn y modwl hwn amrywiaeth o ffynonellau Arthuraidd Celtaidd (gorfodol)
HPCS7004C Hanes y Ferch yn yr Oesoedd Canol: ffynonellau o’r rhanbarthau Celtaidd Rhydd y modwl hwn wybodaeth estynedig i fyfyrwyr am yr ystod eang o ffynonellau canoloesol sy’n ymwneud â statws, hawliau, diddordebau a phrofiadau merched yn y rhanbarthau Celtaidd yn ystod yr Oesoedd Canol. (dewisol)
HPCS7005C Ysbrydolrwydd, Sancteiddrwydd a’r Seintiau Celtaidd Yn y modwl hwn bydd myfyrwyr yn ystyried yn fras y cefndir cyn-Cristnogol i ysbrydolrwydd Celtaidd a’r cysyniad o’r ‘derwydd’. Olrheinir dyfodiad Cristnogaeth i Gymru ac Iwerddon ac anogir myfyrwyr i werthuso’n feirniadol y cysyniad o ‘Gristnogaeth Geltaidd’; olrheinir datblygiad llenyddiaeth am y seintiau fel genre ac astudir y dystiolaeth ynglŷn â chyltiau nifer o’r seintiau yn y rhanbarthau Celtaidd gan ystyried amrywiaeth eang o ffynonellau megis bucheddau’r seintiau, barddoniaeth ganoloesol, ffynhonnau sanctaidd a chysegriadau eglwysi, llên gwerin a thraddodiadau llafar. (dewisol)
HPCS7007C Adfywio’r Celtiaid: O’r Ddeunawfed Gannrif hyd Heddiw Bydd y modwl hwn yn magu dealltwriaeth feirniadol o'r ffyrdd y mae hunaniaethau Celtaidd wedi cael eu dyfeisio, ailddyfeisio, a'u hadfywio yn y cyfnod modern. Arolygir yn fanwl cyfres o fudiadau Adfywiol adnabyddus, gan ganolbwyntio'n arbennig ar yr "Adfywiad Barddol" yng Nghymru a'r Alban, a'r "Dadeni Gwyddelig" ar droad yr ugeinfed ganrif. Ystyrir derbyniad ac adfywiad amcanion Celtaidd yn yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain, gan gynnwys themâu Celtaidd yn llenyddiaeth ffantasi, crefydd neo-baganaidd, a chenedlaetholdeb cyfoes. (dewisol)
HPCS7010C Traethawd Hir 15,000 o eiriau (60 credyd)
Plis sylwch, mae'r modiwlau hyn yn gallu newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.
Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), astudiaethau cymharol, gwerthfawrogiadau ac adolygiadau llenyddol, aseiniadau byrion, ac un traethawd estynedig 15,000 o eiriau.
Gwybodaeth allweddol
- Andrew Currie
- Prof Jane Cartwright
- Dr Rhys Kaminski-Jones
Disgwylir y bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch). Eto i gyd, ystyrir pob cais ar sail cryfderau’r unigolyn ac felly gellid cynnig lle ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Mae’n bosibl y cynigir lle ar y Dystysgrif neu’r Diploma Ôl-raddedig i ymgeiswyr a chanddynt gradd ail ddosbarth is neu ymgeiswyr heb radd ac y medrir uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd addas.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rheini sydd am ddysgu mwy am hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol Cymru a’r rhanbarthau Celtaidd er mwyn gwella eu rhagolygon gwaith. Mae llawer o’r myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen yn rhan amser eisoes mewn gwaith cyflog ac yn dymuno cael cymhwyster ôl-raddedig fel ffordd bosibl o hyrwyddo neu newid rôl eu swydd. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr mae newyddiadurwyr, awduron, storïwyr, athrawon, darlithwyr, golygyddion a phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau twristaidd neu dreftadaeth. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen hefyd i wneud ymchwil bellach mewn Astudiaethau Celtaidd ar lefel PhD.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
- Medieval Studies (MA)
- Astudiaethau Hanesyddol (MA, Dip Ôl-radd, Tyst Ôl-radd)
- Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd (MA)
Jeanne Mehan, Gearhart, Oregon
"Bu gen i ddiddordeb mewn Astudiaethau Celtaidd ers amser hir, ond ni chefais erioed gyfle i astudio’r pwnc yn iawn fel myfyriwr academaidd. Roeddwn i wrth fy modd o weld y rhaglen dysgu o bell hon yn Llambed oherwydd roeddwn yn gallu dilyn y cwrs tra’n gweithio a byw yn America. Gwneuthum wir fwynhau’r amrywiaeth o bynciau a thestunau a astudiwyd ar y modylau - popeth o chwedlau Arthuraidd i ddefodau llên gwerin. Teimlaf bellach fod gennyf wybodaeth lawer mwy trwyadl am y testunau yr oeddwn i’n arfer eu darllen er pleser ac achubais ar y cyfle hefyd i ddysgu Cymraeg fel rhan o’m rhaglen ac ymweld â Llambed am gyrsiau iaith dwys ychwanegol. Deuthum i ymddiddori’n arbennig yn seintiau Cymru tra’r oeddwn yn gweithio ar fy nhraethawd estynedig ac rwyf bellach wedi fy hudo’n gyfan gwbl ganddynt. Ar ôl graddio ar y radd MA a llwyddo i ennill rhagoriaeth, gwneuthum gais i wneud doethuriaeth ac rwyf bellach yn gwneud gwaith ymchwil ar ferched Brychan Brycheiniog."
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am gyllid i gynorthwyo’ch astudiaethau. Am ragor o wybodaeth am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd eraill am gyllid, ewch i’r adran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau os gwelwch yn dda.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.