Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - Theatr (Cyfarwyddo) (MA)
Mae’r rhaglen ôl-raddedig hon, sy’n flwyddyn o hyd, yn hynod ymarferol a dwys ac yn cynnig hyfforddiant a fydd yn datblygu cyfarwyddwyr proffesiynol y dyfodol.
Mae'r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn cynnig dewis o raddau ôl-raddedig a fydd yn rhoi i fyfyrwyr dechneg gadarn ochr yn ochr â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn bair byrlymus o actorion, cantorion, dawnswyr a chyfarwyddwyr y dyfodol. Mae ethos gwaith y cyrsiau yn seiliedig ar ddatblygiad personol, parch a chydweithio. Deillia hyn o’r cymorth mae'r myfyrwyr yn ei gael gan y staff ymroddgar a phroffesiynol.
Bydd y cyw gyfarwyddwyr yn arsylwi, cymryd rhan ac yn gweithio gyda'r myfyrwyr ar raglenni eraill i ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r broses actio.
Y prif faes astudio fydd sut i sefydlu a datblygu cysylltiad rhwng actorion a phroses Meisner a Stanislavsky, sut i feddwl mewn lluniau yn y byd dychmygol, sut i weithio gydag amcanion a digwyddiadau mewn proses seicogorfforol, sut i annog creadigrwydd y perfformwyr â’u hysbrydoli i greu eu gwaith gorau.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Ymgeisio Nawr Fideos Prosiect Cyfarwyddo Terfynol
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000
Pam dewis y cwrs hwn?
- Cwrs hynod ymarferol
- Wedi’i leoli yng Nghaerdydd
- Cyfleoedd i cynorthwyo cyfarwyddwyr llawrydd
- Cyfarwyddo drama lawn gyda chriw technegol proffesiynol
- Cysylltiadau cryf â'r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt
- Cyfleoedd i gysgodi cwmnïau proffesiynol
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen hefyd yn caniatáu amser ymarferol i’r cyfarwyddwr dan hyfforddiant fireinio elfennau sylfaenol cyfarwyddo gyda chyfres o astudiaethau, a fydd hefyd yn cyfoethogi profiad y perfformiwr o’r pwnc gyda dangosiadau rheolaidd yn ystod y tymor.
Bydd y cyfarwyddwr dan hyfforddiant yn cydweithio’n agos â chyfarwyddwyr a thimau technegol ar Berfformiadau Cyhoeddus. Fe’u hanogir hefyd i ddatblygu eu gwaith creadigol eu hunain yn ystod y radd.
Bydd y posibiliadau o ran dysgu am agweddau technegol ac agweddau rheoli llwyfan cynyrchiadau, marchnata a threfnu teithiau, yn ogystal â chreu gweithdai addysgol, yn ddefnyddiol dros ben er mwyn paratoi’r cyfarwyddwyr dan hyfforddiant ar gyfer y diwydiant, a’u gwneud yn ymwybodol yn ymarferol o’r holl rolau hanfodol sydd ynghlwm â chynhyrchu darn o theatr broffesiynol.
Lefel 7 (MA, Dip Ôl-radd, Tyst Ôl-radd):
- Actio Uwch 1 (20 credyd; gorfodol)
- Actio Uwch 2 (20 credyd; dewisol)
- Canu Pellach (20 credyd; dewisol)
- Cyfarwyddo 1 (20 credyd; gorfodol)
- Cyfarwyddo 2 (20 credyd; gorfodol)
- Dawns Pellach (20 credyd; dewisol)
- Dyfeisio a Theatr Gorfforol (20 credyd; dewisol)
- Perfformiadau Cyhoeddus (40 credyd; gorfodol)
- Techneg Lleisiol Gymhwysol (20 credyd; dewisol)
- Y Prosiect Cyfarwyddo (60 credyd; gorfodol).
Dyfeisio a Pherfformio
- Bydd myfyrwyr yn dyfeisio ac yn perfformio darn theatr 30 munud, fel grŵp ac yn unigol.
Arholiadau Ymarferol ac Ysgrifenedig
- Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig ill dau i brofi’r defnydd o wybodaeth a dealltwriaeth mewn damcaniaethau theatraidd.
Cyflwyniadau
- Mae cyflwyniadau fel arfer yn cael eu cynnal ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn y meini prawf asesu.
Llyfrau Gwaith Proses a Dyddlyfrau Adfyfyriol
- Bydd myfyrwyr yn dogfennu eu proses a’u gwaith ymarferol mewn llyfr gwaith sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.
Portffolio Datblygiad Proffesiynol
- Bydd y Portffolio Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau y buont yn ymwneud â nhw, ynghyd ag ystod o ddogfennau proffesiynol.
Perfformiadau Cyhoeddus ac yn y Dosbarth
- Bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/digwyddiadau drwy gydol eu gradd, lle gellir gweld twf a’r defnydd o sgiliau a gwybodaeth.
Bydd y dulliau asesu yn amrywio yn unol â’r modylau a ddewisir.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
Cyfarwyddwr y Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd: Eilir Owen Griffiths
Darlithydd Theatr: Elen Bowman
Darlithydd Dawns: Tori Johns
Swyddog Gweinyddol: Nia James
Artistiaid Gwadd:
- Rhian Morgan (Llais)
- Rhian Cronshaw (Llais)
- Aled Pedrick (Actio)
- Tonya Smith (Actio)
- Eiry Thomas (Actio)
- Robbie Bowman (Actio)
- Angharad Lee (Actio)
- John Quirk (Cyfarwyddwr Cerdd)
- David Laugharne (Canu)
- Eiry Thomas (Actio)
- Mali Tudno (Actio)
- Steve Cassey (Actio)
- Amy Guppy (Dawns)
- Alexa Garcia (Danws)
- Morgan Thomas (Theatr Gorfforol)
- Luke Hereford (Cyfarwyddwr)
- Sara Lloyd (Cyfarwyddwr)
- David George Harrington (Cyfarwyddwr Cerdd)
Gradd Baglor y DU (isafswm o 2:1) neu brofiad.
”Mae astudio yng Nghaerdydd wedi bod yn arbennig. Rwyf wedi dysgu nifer o sgiliau newydd, yn ogystal â chael cyfle i weithio ar syniadau fy hun. Mae wedi rhoi’r cyfle i mi allu cwrdd, a gweithio gyda phobl wahanol, wedi meithrin cysylltiadau newydd, ac wedi fy ngwneud yn ymwybodol o fyd y theatr yng Nghymru.”
Kallum Weyman
Please visit our Accommodation pages for more information.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.