Crynodeb o brif amcanion modylau unigol:
CYAD-7015C: Cyflwyniad i Dwyieithrwydd
Gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â datblygiadau a chysyniadau damcaniaethol ym maes dwyieithrwydd drwy gyflwyno agweddau perthnasol a fydd yn sail i astudiaeth fanylach mewn modylau eraill.
CYAD-7002C: Dwyieithrwydd Cymdeithasol
Archwilio’n fanwl y prif ffactorau sydd yn gallu dylanwadu ar fywioldeb, sefydlogrwydd, ymlediad, dyfudiad neu dranc ieithoedd lleiafrifol, gan dalu sylw i broses cynllunio ieithyddol.
CYAD-7007C: Methodoleg Ymchwil
Cyflwyno myfyrwyr i draddodiadau ymchwil gwahanol a’r methodolegau meintiol ac ansoddol sydd yn perthyn iddynt gan eu darparu â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ymgymryd â phrosiect ymchwil ar raddfa fechan
CYAD-7008C: Agweddau Gwybyddol ar Dwyieithrwydd
Archwilio unrhyw effeithiau deallusol, gwybyddol a meta-ieithyddol posibl ar yr unigolyn y gellir eu priodoli i ddwyieithrwydd.
CYAD-7009C:Datblygiad Addysg Ddwyieithog yng Nghymru
Astudio datblygiad addysg Gymraeg yng Nghymru ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol ynghyd â’r ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd amrywiol a fu’n milwrio dros ac yn erbyn y datblygiad hwnnw.
CYAD-70010C: Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog
Astudio amrediad o fodelau a gwmpesir gan y term “addysg ddwyieithog” ac, yng nghyd-destun eu hamcanion gwleidyddol ac addysgol, i werthuso eu heffeithiolrwydd o safbwynt eu gallu i sicrhau lefelau dwyieithrwydd cytbwys mewn unigolion.
CYAD-7012C: Hanfodion Cynllunio Iaith
Ystyried yn feirniadol brif agweddau damcaniaethol y maes cynllunio iaith, gan gyfeirio at ddamcaniaethau a dadansoddiadau perthnasol ac at enghreifftiau ymarferol a dynnir o Gymru a gwledydd tramor ynghyd â thrafod y prif ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol o safbwynt cynllunio iaith yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.
CYAD-7013C: Hyrwyddo’r Gymraeg
Rhoi cyfle i’r myfyrwyr astudio sut yr hyrwyddir y Gymraeg yng Nghymru trwy gynllunio iaith. Edrychir ar y modd y mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo’r Gymraeg, beth sy’n eu cymell a pha brosesau ac egwyddorion yr ymwneir â nhw. Edrychir hefyd ar sut y caiff defnydd o’r Gymraeg ei hyrwyddo gan unigolion a chymunedau Cymraeg eu hiaith, gan asiantaethau’r wladwriaeth ac eraill.
Er mwyn sicrhau perthnasedd proffesiynol, rhoddir cyfle digonol i fyfyrwyr gymhwyso at eu dibenion eu hunain y deunydd a gyflwynir iddynt, ac i gyfeirio at eu meysydd gwaith unigol yng ngorff yr aseiniadau.