MADE Cymru - o Fudd i Weithgynhyrchwyr mewn Cymru

MADE Books and Leaflets

Ym myd gweithgynhyrchu sy'n esblygu'n gyson, mae Diwydiant 4.0 yn gyfle i archwilio technolegau sydd â'r potensial i gynyddu effeithlonrwydd, cynyddu cynhyrchiant a diogelu busnesau at y dyfodol.

Mae MADE Cymru, cyfres o brosiectau a ariennir gan yr UE a gefnogir gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Brifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, yma i helpu. Gall ein cyrsiau sydd wedi eu hachredu gan brifysgolion a'n cynllun cymorth busnes dan arweiniad arbenigwyr helpu unigolion a sefydliadau i addasu i heriau a chyfleoedd Diwydiant 4.0.

O gyfleoedd dysgu o bell i gymorth ymarferol gyda prototeipio, mae ein tîm profiadol wrth law i'ch helpu i gofleidio'r wybodaeth, yr ymchwil a’r technolegau diweddaraf. Yn ogystal â hynny, mae rhaglenni Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 ac Arloesedd Rhyngwladol MADE Cymru yn cael eu hariannu'n llawn (ar gyfer busnesau cymwys). Dyma bum ffordd allweddol y gall MADE Cymru helpu.

1. Ffordd hyblyg o ddysgu tra byddwch yn gweithio

Mae'r rhaglenni a gynigiwn drwy MADE Cymru wedi'u datblygu'n benodol i weddu i fywydau gwaith gweithwyr proffesiynol ym maes gweithgynhyrchu ac arloesi.

Rydym yn cynnal ein sesiynau ar-lein ar brynhawn dydd Gwener bob wythnos, ac mae ein hamgylchedd dysgu rhithwir yn golygu y gallwch fynychu darlithoedd o unrhyw le, gyda chyfathrebu a chydweithredu amser real yn digwydd ar-lein rhwng cyfranogwyr y cwrs.

Byddwch yn gorffen y cwrs gyda chymhwyster prifysgol achrededig, ond ni fydd angen i chi aros nes bydd y rhaglen wedi'i chwblhau i gymhwyso'r sgiliau rydych wedi'u dysgu ar unwaith.

2. Ffordd foddhaol o gynyddu bodlonrwydd swydd

Mae MADE Cymru yn cynnig nifer o gyfleoedd uwchsgilio y gall cyflogwyr a'u timau elwa ohonynt. Gyda chyrsiau a addysgir o bell ar gael trwy ein rhaglenni Meistr Arloesedd Rhyngwladol ac Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0, gall unigolion a thimau elwa o fodiwlau dan arweiniad arbenigwyr sy'n dysgu egwyddorion gweithgynhyrchu ac arloesi blaengar ac oesol, y gellir ymarfer pob un ohonynt a'u cymhwyso'n uniongyrchol yn y gweithle.

Yn ogystal, drwy weithio gyda'n tîm Ymchwil, bydd unigolion yn gallu darganfod technolegau, prosesau a gwybodaeth sy'n trawsnewid y ffordd maen nhw’n gweithio o ddydd i ddydd.

3. Gwireddu manteision economaidd Diwydiant 4.0

Gyda mynediad at gyfleusterau o'r radd flaenaf ar gael yn ein Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol (CBM), mae cyfranogwyr yn cael y cyfle prin i ddysgu am dechnolegau uwch a’u defnyddio cyn iddynt fentro unrhyw fuddsoddiad personol mewn peiriannau neu brosesau.

Yn rhy aml o lawer, mae gweithgynhyrchwyr wedi prynu atebion offer drud iawn heb fod yn gwbl ymwybodol o sut y bydd yn cyflawni'r canlyniadau y maen nhw yn eu disgwyl. Mae ein prosiect Peirianneg Dylunio Uwch (ADE) yn gyfle i weithgynhyrchwyr yng Nghymru roi cynnig arnynt cyn eu prynu, cydweithredu ag arbenigwyr i gael mynediad at dechnolegau fel gweithgynhyrchu haen-ar-haen, sganio 3D / peirianneg wrthdro, castio gwactod a meddalwedd optimeiddio cynnyrch i weld a yw’r offer yn gywir ar gyfer y gwaith mewn gwirionedd. Yn ogystal â chael mynediad i'r technolegau uwch hyn, bydd cwmnïau sy'n cymryd rhan yn cael eu harwain gan ein tîm arbenigol drwy'r holl broses ymchwil a datblygu.

4. Cydweithio ag arbenigwyr

Gall datblygu cynhyrchion, prosesau a phrototeipiau fod yn broses hir a chymhleth. Drwy gymryd rhan yn ein rhaglen Peirianneg Dylunio Uwch, gallwch elwa o gefnogaeth ac arbenigedd ein tîm, sy'n defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad i gynnig ystod eang o ddulliau a thechnolegau a allai eich helpu i ddod â'ch prototeip neu gysyniad yn fyw.

Byddwn yn gweithio gyda chi i archwilio sut y gallai technolegau uwch, deunyddiau, offer a thechnegau newydd wneud y gorau o’ch cynhyrchion a chynyddu effeithlonrwydd yn eich prosesau gweithgynhyrchu.

Ar ôl datblygu prototeip, gallwn gydweithio â chi i weithredu'r dechnoleg, y broses neu'r cynnyrch newydd yn ateb masnachol hyfyw. Mae gan ein holl academyddion a'n hymchwilwyr brofiad cadarn yn y diwydiant - sy'n amlwg yn yr addysgu a'r prosiectau cydweithredol.

5. Rhwydwaith cymorth gydol oes

Gall gweithio gyda MADE Cymru agor cyfleoedd i gyfathrebu a chydweithio â rhwydwaith eang o weithgynhyrchwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'r carfanau'n cynnwys myfyrwyr o wahanol rolau, cefndiroedd a sectorau gweithgynhyrchu. Yn ogystal â chydweithio â'r myfyrwyr rydych yn dysgu ochr yn ochr â nhw ac yn cymryd rhan mewn prosiectau grŵp gyda nhw, bydd mynychu'r sesiynau o bell ar ein rhaglen Meistr Arloesedd Rhyngwladol yn eich cyflwyno i arbenigwyr arloesi o bob cwr o'r byd, gan eich galluogi i ddarganfod persbectif gwirioneddol fyd-eang ar weithgynhyrchu ac arloesi.

Mae gan dîm MADE Cymru hanes cadarn o weithio gyda chwmnïau a rhanddeiliaid yn y sector a gallant helpu i hwyluso cydweithio neu gynnig cyngor ac atgyfeiriadau. Gall y tîm eich cefnogi i lywio heriau gweithgynhyrchu modern a'ch helpu i ddod o hyd i'r ateb sydd ei angen arnoch.

Cysylltwch drwy ffonio 01792 481199, e-bostio MADE@uwtsd.ac.uk neu ewch i www.madecymru.co.uk.