Ydych chi’n ystyried dechrau busnes? Neu a oes gennych chi fusnes yn barod?
Does dim byd yn curo’r boddhad o redeg eich busnes eich hun – gan ddilyn eich angerdd i fod yn fos arnoch chi’ch hun, rheoli eich amser eich hun, a gwneud eich penderfyniadau eich hun.
Does dim byd yn curo’r boddhad o redeg eich busnes eich hun – gan ddilyn eich angerdd i fod yn fos arnoch chi’ch hun, rheoli eich amser eich hun, a gwneud eich penderfyniadau eich hun.
Efallai eich bod yn breuddwydio am weithio i chi’ch hun, bod gennych syniad gwych ar gyfer busnes newydd ond rydych chi’n poeni am y risgiau o fwrw ati ar eich pen eich hun, neu nid oes gennych ddigon o hyder a’r sgiliau angenrheidiol i gymryd y cam cyntaf. Efallai eich bod yn rhedeg busnes newydd llwyddiannus ac y byddech yn elwa o gael rhywfaint o gyfeiriad, neu efallai y byddech yn hoffi cynyddu eich set sgiliau trwy gael cyngor arbenigol. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae pob perchennog busnes yn wynebu’r un heriau.
Mae cymorth a chefnogaeth AM DDIM ar gael.
Gall YDDS gynnig y canlynol i chi:
- Cymorth i ddechrau busnes – cymorth a gyllidir gan y Sefydliad a Llywodraeth Cymru
- Grant Entrepreneuriaith i Fusnesu Newydd o £500
- Cyfarfodydd un i un
- Clwb Mentergarwch
- Cwrs Mentergarwch
- Gweithdai ar Eiddo Deallusol a Chreadigrwydd
- Cyfleoedd i drafod, archwilio, a rhwydweithio gyda myfyrwyr o’r un anian ac entrepreneuriaid
- Cysylltiadau â diwydiant – prosiectau, siaradwyr gwadd a rhwydweithio gyda busnesau
- Digwyddiadau’r Wythnos Fenter yn mis Tachwedd
- Gweithgareddau allgyrsiol – cystadlaethau, gweithdai dechrau busnes, cwrdd â chyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd
- Siaradwyr sy’n ysbrydoli (yn cynnwys ein cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd)
P’un a ydych yn byw yng Nghymru neu y tu hwnt byddai’n bleser gennym glywed oddi wrthych.
Os hoffech ragor o wybodaeth yna cysylltwch â’n Swyddog Menter naill ai:
Ffôn: 01792 481152
E-bost: Dylan.williams-evans@uwtsd.ac.uk
Cliciwch yma i weld ein hadroddiad diweddaraf
- Adroddiad Effaith Mentergarwch 2022
- Adroddiad Effaith Mentergarwch 2021
- Adroddiad Effaith Mentergarwch 2020
- Adroddiad Effaith Mentergarwch 2019
Ffeithlun Mentergarwch
Disgrifiad Testunol
Y Drindod Dewi Sant Diogelu Addysg at y Dyfodol: Y Rheidrwydd Entrepreneuraidd 2022
- Ymgysylltu: 3,500 o fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o ddechrau busnes newydd yn ddewis gyrfa.
- Grymuso: 400 o fyfyrwyr wedi’u grymuso gan weithdai i gynyddu eu gallu entrepreneuraidd.
- Arfogi: 47 o fyfyrwyr wedi’u harfogi i roi prawf ar eu syniadau busnes.
- Cymeradwyo: Derbyniodd 122 o fyfyrwyr a graddedigion gymorth i fwrw ymlaen â’u busnesau eu hunain.
- Gwella: 38 wedi cychwyn busnes naill ai yn ystod astudiaethau neu ar ôl graddio.
- Galluogi: 16 pencampwr academaidd menter wedi eu galluogi i gyfoethogi gweithgareddau’r cwricwlwm a rhai all gwricwlaidd.