Mae Mercator ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn adeiladu ar dri degawd o arbenigedd ym meysydd ieithoedd lleiafrifol (neu leiafrifoledig) yn Ewrop a thu hwnt, cyfnewid diwylliannol rhyngwladol, cyfieithu llenyddol a dadansoddi polisi.
Rydym yn gweithio o fewn sectorau proffesiynol ein meysydd arbenigol yn ogystal ag yn y byd academaidd, gan ganolbwyntio ar:
- ieithoedd lleiafrifol (neu leiafrifoledig) yn Ewrop a thu hwnt; gan gynnwys cynllunio ieithyddol a sosioieithyddiaeth
- cyfnewid diwylliannol rhyngwladol, cyhoeddi a chyfieithu llenyddol rhwng Ewrop a'r byd
- dadansoddi polisi yn y cyfryngau, y celfyddydau a’r sector greadigol, gyda phwyslais penodol ar y rhyngwladol.
Rydym yn gweithio’n rhyngwladol, yn amlieithog ac mewn rhwydweithiau.
Arweinir ein gwaith gan egwyddorion cydraddoldeb a chynaliadwyedd.
Ein Tîm
- Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones
- Alexandra Büchler
- Cari Lake
- Nici Beech
- Megan Farr
- Bwrdd Strategol
- Bwrdd Ymgynghorol
- Cymrodyr Academaidd
Amdanom ni
Ym maes ieithoedd lleiafrifol / lleiafrifoledig, roedd Mercator yma yng Nghymru yn un o'r pedair canolfan Mercator a ysgogwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 1988.
Dros y degawdau mae rhwydwaith a chanolfannau Mercator wedi esblygu, gan gynnal a datblygu’r arbenigedd mewn ieithoedd lleiafrifol. Heddiw, mae Mercator yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Mercator Rhyngwladol.
Mae Mercator yn gartref i:
- Gyfnewidfa Lên Cymru – sydd yn hyrwyddo cyfieithu llenyddol, cyhoeddi a chyfnewid llenyddol rhwng Cymru a'r byd
- Llenyddiaeth ar draws Ffiniau – Platfform Ewropeaidd ar gyfer Cyfnewid Llenyddol, Cyfieithu a Thrafod Polisi.
Cefnogir y gwaith hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Drwy Lenyddiaeth ar draws Ffiniau rydym yn arwain ac yn rhan o dri phrosiect Ewrop Greadigol:
- Literary Europe Live +
- Ulysses’ Shelter
- LEILA (Arabic Literature in European Languages)
Rydym yn gartref i gymrodoriaeth flynyddol Ymddiriedolaeth Charles Wallace India Trust mewn cyfieithu llenyddol ac ysgrifennu creadigol.
Rydym yn aelodau o
- ELEN (European Languages Equality Network) – pwyllgor gweithredol
- ECSPM (European Civil Society Platform for Multilingualism) – pwyllgor gweithredol
- ENLIT (European Network for Literary Translation) – sylfaenwyr
- IAMLMR (International Association for Minority Language Media Research) – sylfaenwyr
- Culture Action Europe
- Anna Lindh Foundation
- NPLD (Network for the Promotion of Linguistic Diversity)
ac yn bartner yn ENROPE (European Network for Junior Researchers in Plurilingualism).
Rydym yn cynnal ac yn gartref i Ysgrifenyddiaeth Wales PEN Cymru.