Cyffordd gyfieithu yw Cyfnewidfa Lên Cymru sy'n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor.

Ffenestr lenyddol rhwng Cymru a’r byd yw Cyfnewidfa Lên Cymru: asiantaeth sy’n hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru a ysgrifennwyd yn y ddwy iaith yn rhyngwladol, hwylusydd gwerthiannau hawliau cyfieithu, cronfa grantiau cyfieithu, gweithdy sy’n dod ag awduron a chyfieithwyr ynghyd, llyfrgell o gyfieithiadau, a churadur  digwyddiadau cyfieithu. Rydym yn gweithio mewn cytgord â Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau i gyfoethogi ein gweithgareddau a bod o fudd i weithwyr llenyddol proffesiynol Cymru.