Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  Seicoleg Gymhwysol (MSc)

Seicoleg Gymhwysol (MSc)



Mae ein rhaglen MSc unigryw yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil cymhwysol, gwybodaeth a sgiliau proffesiynol sy’n berthnasol oddi mewn a’r tu hwnt i Seicoleg.

Mae’r rhaglen MSc unigryw hon wedi ei hanelu at ddatblygu gwybodaeth fanwl o seicoleg gymwys, gan gynnwys yr heriau moesol, moesegol a phroffesiynol a welwyd wrth ddefnyddio seicoleg gydag amrywiaeth o faterion cymdeithasol lleol, cenedlaethol a byd-eang.  

Bydd modylau arbenigol ym meysydd seicoleg iechyd a seicoleg gymdeithasol yn archwilio sut y gallwn ddeall materion y byd go iawn megis hyrwyddo iechyd, ymddygiad amgylcheddol a rhagfarn a gwahaniaethu. 

Bydd y ffocws cymhwysol yn annog myfyrwyr i ystyried yn feirniadol sut y gallwn ni ymyrryd i wella iechyd unigolion, sefydliadau a chymdeithas a gweithrediad cymdeithasol.  

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil a sgiliau proffesiynol y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o arbenigeddau oddi mewn a thu hwnt i Seicoleg.

Bydd hefyd yn datblygu eich gallu i adfyfyrio’n feirniadol ar eich heriau proffesiynol eich hun a’ch anghenion datblygu ar gyfer gweithio ym maes seicoleg gymhwysol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Seicoleg Gymhwysol (MSc) - Amser llawn
Ymgeisio drwy MyTSD

Seicoleg Gymhwysol (MSc) - Rhan-amser
Ymgeisio drwy MyTSD


DIWRNOD AGORED TAR CAIS AM WYBODAETH YMGEISIO NAWR
Enw'r cyswllt:: Stacey Coleman


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £7,800
Dramor: £15,000

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Wedi ei addysgu gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sydd ag arbenigedd mewn seicoleg gymhwysol.
  2. Modwl unigryw sy’n seiliedig ar waith grŵp sy’n eich galluogi i ddatblygu ac adfyfyrio ar sgiliau cyflogadwyedd craidd.
  3. Cynllunio Datblygiad Personol cryf a mentora trwy’r radd.
  4. Cyfle i deilwra asesiadau a thraethawd ymchwil hir ar gyfer eich diddordebau penodol eich hun.
  5. Carfannau bach sy’n sicrhau profiad dysgu mwy personol ei ddull.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio seicoleg mewn amrywiaeth o faterion cyffrous a chyfoes yn y byd go iawn.  Mae Rhan Un o’r MSc yn cynnwys modylau a addysgir, gan arwain wedyn i brosiect ymchwil annibynnol Rhan Dau ar gyfer Traethawd Seicoleg Gymhwysol, pan fydd myfyrwyr yn cynnal prosiect ymchwil manwl o dan oruchwyliaeth aelod o’r staff sydd ag arbenigedd yn y maes hwnnw

Mae modylau arbenigol mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag iechyd a seicoleg gymdeithasol, a addysgir gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sydd ag arbenigedd mewn seicoleg gymhwysol, yn esbonio sut y gallwn ni ddeall materion llosg megis hyrwyddo iechyd, ymddygiad amgylcheddol a rhagfarn a gwahaniaethu.  Bydd y ffocws cymhwysol yn eich annog i ystyried yn feirniadol sut y gallwn ni ymyrryd i wella iechyd unigolion, sefydliadau a chymdeithas a gweithrediad cymdeithasol.  

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil, a sgiliau proffesiynol y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o arbenigeddau oddi mewn a thu hwnt i Seicoleg.  Cewch eich herio i ddod yn feddylwyr beirniadol, gan ddatblygu’r set sgiliau a’r wybodaeth i allu deall sut i ddylanwadu ar bolisi, gwaith gyda grwpiau cymunedol, ac ymgysylltu ag unigolion.  Ffocws cryf ar ddatblygu ystod o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu i’ch galluogi i ymgysylltu’n hyderus â gweithwyr proffesiynol, cydweithwyr a’r boblogaeth yn gyffredinol mewn meysydd sy’n ymwneud â defnyddio seicoleg ym mywyd pob dydd.  Cewch chi gymorth trwy’r rhaglen gan broses Cynllunio Datblygiad Personol a mentora strwythuredig.

Pynciau Modylau

Byddwch yn astudio modiwlau fel:

  • Dylunio a Dadansoddi Ymchwil Cymhwysol:  Mae’r modwl hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ddyluniad ymchwil cymhwysol a thechnegau dadansoddi cysylltiedig (boed yn rhai ansoddol neu’n rhai meintiol).
  • Sgiliau Ymchwil Proffesiynol:  Bydd y modwl arloesol hwn yn datblygu eich sgiliau gwaith tîm a’ch sgiliau ymchwil ymarferol trwy roi cyfle i chi gael profiad uniongyrchol o gynllunio a darparu prosiect ymchwil amserol.  
  • Newid ymddygiadol yn ei gyd-destun:  Bydd y modwl hwn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol fanwl i chi o’r ffactorau unigol, cymdeithasol a byd-eang sy’n dylanwadu ar amrywiaeth o ymddygiadau dynol ac sy’n llywio ymyriadau newid ymddygiad.
  • Heriau moesegol a phroffesiynol mewn Seicoleg:  Bydd y modwl hwn yn eich herio i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o amrywiaeth o drafodaethau a dadleuon moesegol wrth ddefnyddio seicoleg mewn lleoliadau yn y byd go iawn. 

Mae myfyrwyr amser llawn yn astudio gwerth 60-credyd o fodylau’r tymor yn ystod dosbarthiadau prynhawn/nos ar draws dwy noson  yr wythnos a’r modylau'n cydredeg â’i gilydd.  

Mae myfyrwyr rhan-amser yn astudio gwerth 60 credyd o fodylau'r flwyddyn yn ystod dosbarthiadau prynhawn/nos ar un noson yr wythnos a’r modylau’n dilyn ei gilydd.

Plîs sylwch, mae modiwlau'n newid ychydig o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.

Asesiad

Mae’r asesiadau yn y rhaglen hon wedi eu llunio’n benodol i’ch galluogi i ddangos amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i ystod eang o yrfaoedd seicolegol a thu hwnt.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyflwyniadau proffesiynol
  • Portffolio o gymwyseddau ymchwil
  • Adolygiadau systematig o lenyddiaeth
  • Asesiadau o sgiliau ymarferol
  • Adroddiadau adfyfyriol
  • Cynigion ymchwil
  • Papurau ymchwil (traethawd hir Rhan II)

Dolenni Cysylltiedig

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sydd â chefndir mewn Seicoleg.  Y maen prawf yw gradd anrhydedd 2.1, neu radd anrhydedd 2.2 (gan gynnwys traethawd ymchwil hir). Er efallai y byddwn yn ystyried ceisiadau gan y rhai sydd â chefndir mewn maes cysylltiedig iawn, oherwydd natur y rhaglen hon byddai hyn yn dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd a sgiliau ymchwil seicolegol.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae graddedigion o'r rhaglen hon wedi mynd yn eu blaen i weithio yn y GIG, sicrhau arian PhD, a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd.  Nid yw’r rhaglen hon yn arwain at gymhwyster BPS cyfnod I i’r rhai sy’n ceisio sicrhau statws siartredig ond mae’n llwyfan ardderchog i’r rhai sy’n ystyried yr opsiwn hwn i’r dyfodol. 

Costau Ychwanegol

Efallai y cewch gynnig cyfle i fynd i gynhadledd neu ddigwyddiad allanol ac os felly mae’n bosibl y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau.

Dyfyniadau Myfyrwyr

Tilly Jo Robinson, MSc gyda Rhagoriaeth, 2017
 “Roeddwn i’n disgwyl i’r cwrs fod yn ddiddorol, ond roedd yn fwy na hynny. Gwnes i fwynhau’r amrywiaeth yn y modylau a'r modd roedd pob darlith yn dal eich sylw, ac yn caniatáu archwilio’r amrywiol agweddau seicolegol sy’n berthnasol i’r gymdeithas sydd ohoni. Mae’r set o sgiliau mae’r MSc hwn wedi’u rhoi i mi, yn fy marn i, yn llawer mwy na’r hyn y gallai unrhyw gwrs MSc arall fod wedi’i gynnig i mi. Nid yn unig y rhoddodd i mi’r gallu i ddyfnhau fy ngwybodaeth a’m sgiliau seicolegol cyffredinol, rhoddodd hefyd i mi set o sgiliau proffesiynol a’r hyder i ddilyn unrhyw yrfa rwy’n ei dymuno.”

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Ewch i’r adran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth.

Llety

Yn ogystal â’n Llety yn Llys Glas, mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:

Map

Gwybodaeth Pellach

Mae’r Ysgol Seicoleg yn cynnig cyfuniad cyffrous o arbenigedd mewn seicoleg arbrofol, seicoleg gymdeithasol a seicoleg iechyd, gan greu amgylchedd dysgu dynamig lle gall myfyrwyr ar bob lefel lwyddo a datblygu sgiliau academaidd, ymchwil a phroffesiynol cryf.  Mae’r Ysgol yn gweithio’n agos gyda’i myfyrwyr i ddarparu cymorth academaidd a mentora cadarn ac mae ganddi ymrwymiad i lefelau uchel o safonau proffesiynol a moesegol.

Mae gennym record arbennig o dda o ran myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn cyflwyno’u hymchwil mewn cynadleddau cenedlaethol a chynigiwn nifer o gyfleoedd i fod yn rhan o ddiwylliant ymchwil ehangach yr Ysgol.  Yn ogystal mae gan yr Ysgol gysylltiadau cryf â Chymdeithas Seicolegol Prydain a chyda’r gymuned leol trwy ei gwaith yn ymgysylltu â’r gymuned, yn ogystal ag elusennau cenedlaethol a’r GIG, ynghyd â phroffil ymchwil cynyddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Credaf fod gennym gyfuniad gwych o ymchwilwyr newydd a phrofiadol yn yr Ysgol ac mae gan bob un ohonyn nhw un peth yn gyffredin – angerdd i addysgu pobl am eu meysydd seicoleg” – Dr Paul Hutchings, Cyfarwyddwr Astudiaethau.