Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Cyfrifiadura ac Electroneg (Mynediad Sylfaen)
Mae’r cwrs Blwyddyn Sylfaen yn rhaglen un flwyddyn llawn amser i alluogi myfyrwyr o wahanol gefndiroedd academaidd i gyflawni’r gofynion mynediad ar gyfer rhaglenni BSc/BEng o fewn yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol.
Mae’r cwrs, sydd â dwy ffrwd, yn cynnig sylfaen yn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rhaglen astudio darged myfyrwyr, gan gynnwys rhaglennu, electroneg a mathemateg.
STEM Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrydiau Cyfrifiadurol)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefelau 3 i 4)
Cod UCAS: SCT1
Gwneud cais drwy UCAS
STEM Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (Ffrydiau Electroneg)
Rhaglen Sylfaen 1 Flwyddyn (Lefelau 3 i 4)
Cod UCAS: SES1
Gwneud cais drwy UCAS
CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CADW LLE AR DDIWRNOD BLASU CAIS AM WYBODAETH blog cyfrifiadur
£9000
£13,500
Pam dewis y cwrs hwn
Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol hanes hir o “Ymgyrraedd yn Ehangach” ac rydym yn gwerthfawrogi’r heriau y gall myfyrwyr eu wynebu, yn aml heb fod yn fai arnyn nhw o gwbl. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r heriau a wynebir gan unigolion sy’n dymuno newid eu gyrfa. Bwriad y rhaglen hon yw mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion yn sgiliau’r myfyrwyr a’u datrys er mwyn bodloni gofynion mynediad ein gradd. Mae gennym ni dîm o academyddion cyfeillgar sy’n ymroddedig i les a chynnydd academaidd ein myfyrwyr ac yn cynnig cefnogaeth ragorol i fyfyrwyr ar y Flwyddyn Sylfaen hon.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r Flwyddyn Sylfaen, a gynigir hefyd fel Tystysgrif Addysg Uwch annibynnol, wedi’i llunio i ganiatáu i’r myfyrwyr gael y sgiliau sydd eu hangen i gael eu derbyn ar ein Rhaglenni BSc/BEng yn yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol. Cynigwn ddwy ffrwd yn y meysydd canlynol:
- Ffrwd Gyfrifiadura
- Ffrwd Electroneg
Mae gan bob ffrwd fodylau craidd cyffredin yn darparu cyfarwyddyd mewn sgiliau fel mathemateg, gwyddoniaeth ac ysgrifennu academaidd. Mae gan bob ffrwd hefyd fodylau arbenigol sy'n gysylltiedig â’r maes astudio (gweler Modylau isod am fanylion)
Ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen (TystAU) yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gymwys i fynd ymlaen i’r rhaglenni gradd a ganlyn:
- Ffrwd Cyfrifiadura > Holl raglenni gradd y Portffolio BSc Cyfrifiadura, ac eithrio’r rhai a restrir isod
- Ffrwd Cyfrifiadura (gydag opsiwn Mathemateg Bellach) > BSc Cyfrifiadura (Datblygu Gemau Cyfrifiadurol)
- Ffrwd Electroneg > BEng Peirianneg Electronig neu BEng Peirianneg Trydanol ac Electroneg.
Cyffredin i bob ffrwd:
- Ysgrifennu Academaidd (20 credyd)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd)
- Mathemateg (10 credyd)
- Gwyddoniaeth (10 credyd)
Ffrwd Gyfrifiadura:
- Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol
- Dadansoddi a Datrys Problemau (20 credyd) neu Fathemateg Bellach (20 credyd)
Ffrwd Electroneg:
- Systemau Cyfrifiadurol (20 credyd)
- Mathemateg Bellach
- Cyflwyniad i Electroneg (20 credyd)
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o daflenni gwaith, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniad. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Dolenni Cysylltiedig
Gwybodaeth allweddol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sy’n cynnig cymwysterau amgen. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â computing@uwtsd.ac.uk
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y Prif Brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
Ewch i’n tudalen Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.
Amherthnasol