Digwyddiad brecwast Caerfyrddin yn cynnig cyngor ar reoli’r cyfryngau cymdeithasol i fusnesau lleol
26.05.2017
Cynhaliwyd digwyddiad brecwast busnes yn Yr Atom yr wythnos hon er mwyn darparu cyngor i fusnesau lleol ar sut i reoli’r cyfryngau cymdeithasol. Y digwyddiad diweddaraf hwn yw’r ail mewn cyfres o ddigwyddiadau brecwast busnes a gynhelir gan Yr Atom.
Nod y digwyddiad diweddaraf oedd cynnig cyngor a chymorth i berchnogion busnesau lleol i’w helpu i farchnata eu busnesau’n effeithiol trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Lisa Jones sy’n rhedeg Sblash, sef busnes Marchnata ac Ymgynghori lleol yn Llandeilo, bu’n arwain y trafodaethau.
Yn gynharach eleni, roedd hyd at 50 o berchnogion ac arweinwyr busnes y dref yn bresennol ar gyfer y digwyddiad brecwast busnes cyntaf erioed i’w gynnal yn Yr Atom. Yn ystod y digwyddiad cyntaf hwnnw, darganfu'r rhai a oedd yn bresennol ragor am yr hyn sydd gan Yr Atom i’w gynnig a’r help sydd ar gael i fusnesau yn y dref. Trefnwyd y digwyddiad rhwydweithio brecwast busnes cyntaf hwnnw yn rhan o gynllun peilot newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg sy’n anelu at annog busnesau i ddarganfod rhagor am fanteision gweithredu’n ddwyieithog.
Meddai Rheolwr Yr Atom, Angharad Harding:
“Yn dilyn y brecwast busnes hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yn yr Atom yn gynharach yn y flwyddyn a’r diddordeb a gynhyrchwyd gan y cyfarfod hwnnw, penderfynwyd cynnal digwyddiad pellach y mis hwn. Roeddwn ni wrth ein bodd â’r adborth gan y rhai a ddaeth i’n digwyddiad cyntaf erioed ac unwaith eto mae’r adborth y tro hwn wedi bod yr un mor gadarnhaol. Cofrestrodd hyd at 50 person ar gyfer y sesiwn a hoffwn ddiolch i Lisa am ei hamser y bore ‘ma - yn sicr roedd ei chyflwyniad yn agoriad llygaid ac rwy’n siŵr ei fod wedi gwneud i ni gyd feddwl yn wahanol am sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn y byd busnes..
“Un o’m hamcanion i yw meithrin partneriaethau ar draws y dref er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg a helpu i sicrhau bod Caerfyrddin yn dref ddwyieithog go iawn.
“Rydyn ni hefyd am gynnig cymorth a chyngor arbenigol i helpu busnesau i dyfu. Bellach mae nifer fawr o gwmnïau yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru, boed yn ddarparwyr gwasanaethau neu’n werthwyr o wahanol faint, yn sylweddoli bod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn rhan o ofal cwsmeriaid da ac yn elwa yn sgil hynny.
“Un o’r ffyrdd o wneud hyn yw trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae defnydd effeithiol o’r cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol i unrhyw fusnes ac yn dilyn llwyddiant y digwyddiad heddiw rydym yn cynnig sesiynau un i un gyda Lisa ar y 8fed o Fehefin ar gyfer unrhyw fusnes sy’n dymuno gwella ei defnydd o’r cyfrwng hwn. Cysylltwch â ni i gadw’ch lle.”
Busnes o Landeilo yw Sblash sy’n arbenigo mewn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol, creu a darparu strategaethau marchnata, rheoli prosiectau gwaith ymgynghori a hyfforddi. Ychwanegodd perchennog y cwmni, Lisa Jones:
“Heddiw, mae’n anodd dychmygu busnes heb y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol. Ar yr adeg heriol hon, gall marchnata traddodiadol fod yn straen ar gyllideb unrhyw fusnes bach. Ar y llaw arall, mae marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol yn gymharol rad o ran costau ariannol go iawn ac yn rhoi llinell uniongyrchol i chi at gwsmeriaid presennol a phosibl. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol yn helpu i gryfhau’r berthynas rhwng y cwsmer a’ch busnes chi. Hefyd, mae cwsmeriaid sy’n dilyn sianeli’r cyfryngau cymdeithasol y cwmni yn cyfrannu 5.6% yn fwy o gyllid ac yn ymweld â’r busnes 5% yn fwy na chwsmeriaid sydd heb gysylltiad trwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r digwyddiadau brecwast busnes a gynhelir gan Yr Atom yn gyfle gwych i ni gyd ddod at ein gilydd i drafod a rhannu syniadau gyda phobl busnes eraill o’r ardal. Rwy’n falch iawn gyda’r nifer fynychodd heddiw ac yn edrych ymlaen at y sesiynau un i un fis nesaf.”
Mynychodd Ceri Jones o gwmni Spine and Sport Physio y digwyddiad. Yn ddiweddar, mae Ceri wedi sefydlu ei fusnes ei hun. Ychwanegodd:
"Fel busnes newydd yng Nghaerfyrddin rwy’ wedi darganfod bod y tîm yn yr Atom yn frwdfrydig a chefnogol sydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth sefydlu’r cwmni. Roedd y brecwast busnes yn gyfle arbennig i ddysgu ac i gyfarfod a pherchnogion busnes lleol eraill ac rwy’n edrych ymlaen at y digwyddiadau nesaf. Byddem yn annog busnesau eraill i gymryd mantais o’r hyn sydd ar gael yn Yr Atom."
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Arwel Lloyd, Prif Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, ar 01267 676663 / arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk