Dr Martin Bates o’r Drindod Dewi Sant yn cyfrannu at brosiect “Cyffindiroedd Coll Ewrop"

20.02.2018

Mae Dr Martin Bates, geoarcheolegydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn gweithio gyda thîm ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bradford wrth iddynt archwilio "Cyffindiroedd Coll Ewrop" neu "Europe's Lost Frontiers”.

Irish Sea

Yn ystod y mis hwn bydd y tîm, sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Athrofa Technoleg Sligo, Coleg Prifysgol Cork a Sefydliad Morol Iwerddon, yn cynnal alldaith i archwilio’r tirweddau tanddwr helaeth rhwng Iwerddon a Phrydain Fawr.

Yn dilyn yr Oes Iâ ddiwethaf, boddwyd ardaloedd helaeth o dir trigiadwy yn sgil newid yn yr hinsawdd  ac wrth i lefel y môr godi ar draws y byd.  Yn fyd-eang cododd lefel y môr tua 120 metr a chollwyd ardal fwy na dwywaith maint yr Unol Daleithiau America fodern i’r môr.  Dan donnau Môr Iwerddon mae ‘palaeodirlun’ cynhanesyddol o wastatiroedd, bryniau, corstiroedd a dyffrynnoedd afonydd lle disgwylir gweld tystiolaeth wedi’i chadw o weithgarwch dynol.

Mae’r dirwedd hon yn debyg i Doggerland, yr ardal ddeheuol o Fôr y Gogledd a’r enghraifft gyfredol fwyaf adnabyddus o balaeodirlun yn Ewrop. Mae Doggerland wedi’i harchwilio’n helaeth gan yr Athro Vince Gaffney, Prif Ymchwilydd y prosiect.

“Mae ymchwil gan dîm y prosiect hefyd wedi darparu mapiau manwl gywir o’r tiroedd tanddwr sy’n gorwedd rhwng Iwerddon a Phrydain" meddai'r Athro Gaffney, “a thybir bod y rhain yn dal gwybodaeth hollbwysig ynglŷn ag anheddwyr cyntaf Iwerddon a’r tiroedd cyfagos ar hyd coridor yr Iwerydd”.

I ddarparu’r dystiolaeth hon, bydd tîm ymchwil rhyngwladol yn astudio gwaddod o tua 60 o golofnau dyfnforol, a gymerwyd o 20 o safleoedd gan y Llong Ymchwil Wyddelig Celtic Voyager ym Mae Lerpwl a Bae Ceredigion rhwng 21 a 25 Chwefror.

“Mae’r cyfle hwn yn un cyffrous iawn gan mai’r colofnau a gesglir gennym ni fydd y rhai cyntaf i’w drilio ym Mae Ceredigion o bosibl ers y 1970au,” meddai Dr Martin Bates. 

“Byddan nhw’n darparu deunydd ar ein cyfer fydd wir yn ein helpu i ddeall sut y newidiodd Bae Ceredigion wrth i’r môr orlifo’r tirwedd ar yr adeg yr oedd pobl yn dychwelyd i Gymru yn dilyn y rhewlifiant diwethaf.

Irish Sea

Dr James Bonsall, o’r Ganolfan Ymchwil Amgylcheddol, Arloesi  a Chynaliadwyedd (CERIS) yn yr Adran Gwyddor Amgylcheddol yn Athrofa Technoleg Sligo, yw’r Prif Wyddonydd ar gyfer y cam hwn o’r ymchwil, a bydd ei gydweithiwr yn y ganolfan honno, y Gwyddonydd Amgylcheddol Eithne Davis, ar fwrdd y Celtic Voyager, yn cyfarwyddo’r gweithrediadau.

“Mae’n gyffrous iawn ein bod yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i adfer y dystiolaeth gyntaf o fywyd mewn tirweddau a foddwyd wrth i lefel y môr godi filoedd o flynyddoedd yn ôl,” meddai Dr Bosnall.

“Dyma’r tro cyntaf i’r ystod hon o dechnegau gael ei defnyddio ar dirweddau tanddwr dan Fôr Iwerddon. Heddiw rydym yn ystyried Môr Iwerddon fel corff mawr o ddŵr, môr sy’n ein gwahanu oddi wrth Brydain a thir mawr Ewrop, môr sy’n rhoi hunaniaeth i ni fel ynys genedl falch.  Ond 18,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd Iwerddon, Prydain ac Ewrop yn rhan o un ehangdir a foddwyd yn raddol dros filoedd o flynyddoedd, gan ffurfio’r ynysoedd sy’n gyfarwydd i ni heddiw.

“Byddwn yn darganfod ble, pryd, pam a sut roedd pobl yn byw ar dirwedd sydd erbyn heddiw wedi’i lleoli dan y tonnau”.

Deilliannau allweddol yr ymchwil fydd ail-greu ac efelychu palaeoamgylcheddau Môr Iwerddon, gan ddefnyddio DNA hynafol, a ddadansoddwyd yn labordai Prifysgol Warwick, a data palaeoamgylcheddol a dynnwyd o’r colofnau o waddod.

Bydd yr astudiaethau o werth aruthrol wrth ddeall y cyswllt ‘cyntaf’ a’r anheddiad ‘cynnar’ o amgylch arfordiroedd Iwerddon a Phrydain. Yn ogystal dysgwn am ffyrdd o fyw'r bobl a drigai o fewn y tirweddau cynhanesyddol boddedig sy’n gorwedd rhwng ein hynysoedd, nad ydynt wedi’u harchwilio’n ddigonol gan archeolegwyr erioed.

Nodyn i'r Golygydd

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sian-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 / sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk