Eisteddfod Ryng-golegol yn dychwelyd i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

16.02.2018

Bydd yna groeso arbennig i’r Eisteddfod Ryng-golegol (9-11 Mawrth) wrth iddi ddychwelyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am y tro cyntaf ers pum mlynedd. 

Logo Eisteddfod Rhyng-gol

Cynhelir yr Eisteddfod ei hun ar ddydd Sadwrn, 10 Mawrth ar gampws y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan gyda’r cystadlaethau Chwaraeon, sy'n cynnwys rygbi, pêl droed a chystadleuaeth pêl-rwyd 7 bob ochr yn cychwyn gweithgareddau’r penwythnos ar ddydd Gwener, 9 Mawrth.   Yn dilyn y cystadlu yn yr Eisteddfod, bydd gig i ddilyn ar y nos Sadwrn lle bydd Y Cledrau, Fleur de Lys, Gwilym a DJ Garmon yn perfformio ac yn diddanu’r dorf.

Mae myfyrwyr Cymdeithas Gymraeg y Drindod Dewi Sant wedi bod yn brysur iawn yn paratoi a threfnu ar gyfer y penwythnos.  Llywydd y Gymdeithas Gymraeg yn y brifysgol yw Ifan Thomas.  Dywedodd:

“Yn 2013 cynhaliwyd yr Eisteddfod ar ein campws yng Nghaerfyrddin ond eleni rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Geredigion a champws y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan.  Mae’r penwythnos hwn yn cael ei ystyried fel un o’n prif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ac mae yna gyffro mawr yma yn ogystal â llawer o waith trefnu! 

Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â'r trefniadau ac i'r holl sefydliadau a busnesau lleol sydd wedi noddi'r Eisteddfod eleni.  Yn benodol, hoffwn ddiolch o waelod calon i Gomisiynydd y Gymraeg am noddi ein gig ar y nos Sadwrn a diolch arbennig hefyd i Morgan a Davies, WD Lewis a’i fab, ac Evans Bros, sy’n fusnesau pwysig ac adnabyddus yn y dref a’r sir, am gefnogi’r penwythnos.  Rydym yn ddiolchgar i Gangen y Coleg Cymraeg yn y brifysgol a Chanolfan Peniarth am eu cefnogaeth yn ogystal. 

Ar hyd y blynyddoedd mae’r Eisteddfod wedi sicrhau llwyfan i ddatblygu talentau cannoedd o fyfyrwyr ac mae’n siŵr na fydd eleni yn eithriad.  Felly, dewch i fwynhau'r cystadlu a’r cymdeithasu yn nhref hanesyddol Llambed!”

Lampeter

Sefydlwyd y campws yn Llambed yn 1822 fel Coleg Dewi Sant i ddarparu addysg ryddfrydol i aelodau’r glerigiaeth.  Erbyn heddiw mae’r gymuned academaidd yn parhau i ffynnu ac mae’r portffolio a gynigir yn denu carfan ryngwladol o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Dywedodd Mr Gwilym Dyfri Jones, Pro-Is Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i groesawu myfyrwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gampws hyfryd y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.  Mae’r campws yng nghanol tref farchnad hanesyddol Llambed ac yn gartref i’n darpariaeth yn y Dyniaethau.  Yma gallwch astudio pynciau sy’n amrywio o Anthropoleg ac Archaeoleg i Astudiaethau Tsieineaidd a Hanes.  Bydd yna groeso mawr i bawb yn Llambed a hoffwn longyfarch y tîm sydd wedi bod wrthi’n ddiwyd gyda’r trefniadau.  Mae’n rhaid diolch yn arbennig hefyd i’r Comisiynydd a’r busnesau lleol sydd wedi bod mor barod i gefnogi’r penwythnos.”   

Prif noddwr gig yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni yw Comisiynydd y Gymraeg.  Dywedodd Meri Huws:

“Ar 1 Ebrill eleni fe fydd gan fyfyrwyr, am y tro cyntaf erioed, hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â’u coleg neu brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys hawliau i lythyrau, gwasanaeth cwnsela, ffurflenni a thystysgrifau yn Gymraeg, yn ogystal â hawliau i dwitor personol sy’n siarad Cymraeg, cyfarfodydd Cymraeg a chyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg. Bydd y gig #MAEGENIHAWL yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ffordd o ddathlu’r hawliau newydd hyn a chodi ymwybyddiaeth myfyrwyr fod yr hawliau ar y ffordd. Rwy’n dymuno’n dda i’r trefnwyr ac i bawb sy’n cystadlu, ac yn edrych ymlaen at glywed sut bydd yr hawliau newydd yn gwella profiad myfyrwyr yng Nghymru.”

Am fwy o wybodaeth ynghylch Rhestr Testunau Eisteddfod cliciwh y linc: https://issuu.com/rhynggol18/docs/rhestr_testunau_2018 

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 01267 676663