Myfyrwyr yn nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod


10.03.2018

Mae staff a myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn nodi canmlwyddiant cyflwyno’r bleidlais i fenywod trwy ddathlu pererindod hanesyddol a gynhaliwyd yn wreiddiol gan aelodau o’r mudiad Pleidlais i Fenywod.

Students in Dynevor Building courtyard

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gan aelodau staff Coleg Celf Abertawe o fewn y Drindod Dewi Sant. Bydd grŵp o 20 o fyfyrwyr yn dathlu gorymdaith hanesyddol a gynhaliwyd gan y Swffragwyr, grŵp di-drais a oedd yn galw am y bleidlais i fenywod ac yn gweithredu ar yr un pryd â’r Swffragetiaid, trwy ail-ddychmygu pererindod a fydd yn gorffen yn y Senedd ym Mae Caerdydd.  Bydd yr orymdaith yn cychwyn ar 29 Ebrill ac yn dod i ben y diwrnod canlynol, pan fydd Julie James AC yn dod i gwrdd â’r grŵp. I ddilyn cynhelir arddangosfa yn Oriel Mission yn Abertawe gyda pherfformiad  llafar gan y grŵp o Abertawe, Poets on the Hill.

Mae Clare Bottomley yn Ddarlithydd Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yn y Drindod Dewi Sant ac yn un o brif drefnwyr y digwyddiad. Meddai: “Roedd y bererindod wreiddiol yn ddigwyddiad unigryw a ddigwyddodd yn 1913. Roedd yn ddigwyddiad ledled y Deyrnas Unedig gyda’r menywod yn gorymdeithio i Lundain. Dechreuodd y mintai o Dde Cymru yn Cathays, Caerdydd, gan ymuno â’r orymdaith o Land’s End a gorymdeithio i Lundain fel un. Roeddem ni eisiau ail-ddychmygu’r bererindod hon. Credwn mai un o’n rolau ni fel canolfan addysgol yw hyrwyddo’r sgwrs hon.”

Disgrifia Clare y digwyddiad fel ‘ail-ddychmygu’r’ bererindod wreiddiol, a gynhaliwyd gan y mudiad Pleidlais i Fenywod, yn hytrach nag achos o ail-greu. Meddai: “Rwy’n galw hyn yn weithred berfformio. Mae’n rhannol yn achos o ail-greu gan ein bod yn dilyn y llwybr gwreiddiol fel rhan o’r digwyddiad hwn, felly mae’n bendant yn berfformiad. Ond mae hefyd yn weithred wleidyddol. Prin yw’r lleisiau Cymraeg dosbarth gweithiol a glywid yn hanes mudiad y bleidlais i fenywod a chredaf fod hyn oherwydd mai prin oedd y menywod yng Nghymru ar y pryd a oedd yn perthyn i undeb. Roedd diwydiant yng Nghymru’n waith caled ac roedd yn amgylchedd a ddominyddwyd gan ddynion. Mae’n bosibl bod menywod yn cael y sgyrsiau hyn ond nid oes gennym gofnod da ohonynt. Yng ngogledd Lloegr, yn y diwydiannau cotwm, roedd menywod yn perthyn i undeb. Roedden nhw’n cael y trafodaethau hyn a chawsant eu cofnodi. Roedd goruchafiaeth diwydiant trwm yng Nghymru yn rhwystro menywod rhag cael eu sgyrsiau wedi’u dogfennu’n swyddogol.” 

Bydd pererindod y grŵp yn dechrau ym Merthyr Tudful, gan deithio ar hyd Llwybr Taf i Bontypridd. Maen nhw wedi gwahodd grwpiau lleol i fenywod, megis grwpiau gweithredu gwleidyddol a changhennau o Sefydliad y Merched, i ymuno a nhw. Ar hyd y ffordd, bydd y grŵp yn gwneud cofnod o’u trafodaethau a fydd wedyn yn cael ei gyflwyno fel maniffesto am gydraddoldeb yn y Senedd y diwrnod canlynol.

Byddan nhw hefyd yn ymweld â safleoedd o ddiddordeb hanesyddol sylweddol megis Aberfan, i ymweld â chofeb y trychineb glofaol yn 1966. Meddai Clare: “Byddwn ni’n dechrau ym Merthyr oherwydd ei hanes fel canolfan diwydiannol Cymru. Mae Llwybr Taf yn dilyn Camlas Morgannwg, a ddefnyddiwyd i gludo glo o'r Cymoedd i’r dociau yng Nghaerdydd.  Wrth i ni wneud ein ffordd drwy Gymoedd De Cymru mae'n teimlo fel pe baem yn moderneiddio. Mae aros yn Aberfan yn mynd i fod yn brofiad ingol, oherwydd mae'n safle trychineb diwydiannol a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i’r diwydiannu a oedd yn digwydd ac, yn anffodus, roedd menywod a phlant yn ddioddefwyr uniongyrchol o hynny.

Y diwrnod canlynol, bydd y grŵp yn mynd ar y trên i Cathays, lle byddant yn parhau â’u pererindod drwy ddilyn y llwybr a gymerwyd gan yr orymdaith wreiddiol yn 1913. Bydd y llwybr yn mynd â nhw o Cathays, drwy Heol y Frenhines yng nghanol Caerdydd a heibio Castell Caerdydd. Yna byddant yn gwneud eu ffordd i Fae Caerdydd i gael eu croesawu gan Julie James AC, lle byddant yn cyflwyno maniffesto y byddant wedi bod yn ei greu ar hyd y ffordd. Yn ogystal bydd perfformiad gan y côr o Gaerdydd, Songbirds.

Meddai Clare: “Mae’n bwysig nad yw’r trafodaethau hyn yn gyfyngedig i sefydliadau. Mae angen i sefydliadau addysgol gymryd rôl gyhoeddus yn y drafodaeth ac yn y gymuned ehangach. Mae angen i addysg gysylltu â’r gymuned ar y materion hyn, ni allant eu cloi eu hunain i ffwrdd. Mae gennym sefyllfa freintiedig ac mae angen inni ei defnyddio i arwain y trafodaethau hyn.

“Gyda hyn mewn golwg, rydym yn cynnal gweithdai baneri gyda grwpiau cymunedol lleol drwy ein hadran ymgysylltu â’r gymuned, a fydd yn hwyluso rhai gweithdai dan arweiniad myfyrwyr fel y bydd gennym gasgliad o faneri dwyieithog i fynd gyda ni ar ein gorymdaith.

“Mae’n ymddangos mai hawliau merched a chydraddoldeb yw’r peth cyntaf i ddioddef yn sgil mesurau cyni, felly er bod gennym bleidlais, mae trafodaethau pwysig i’w cael o hyd ynghylch y mater o gydraddoldeb a’r graddau yr ydym wedi llwyddo i'w gyflawni."

Yna bydd y baneri, y maniffesto a’r gweithiau celf a grëwyd gan y myfyrwyr yn cael eu harddangos yn Oriel Mission yn Abertawe, yn ogystal â ffilm ddogfen o’r weithred berfformio. Hefyd bydd y grŵp o Abertawe, Poets on the Hill yn cyflwyno perfformiad llafar mewn ymateb i’r arddangosfa. Bydd yn agor ar 8 Mai a bydd yr arddangosfa’n agored i'r cyhoedd tan 8 Mehefin.   

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â Clare Bottomley ar: c.bottomley@uwtsd.ac.uk

Instagram:       @a_collective_pilgramage 

Gwybodaeth Bellach

Cate Hopkins
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau| Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau CyhoeddusCorporate Communications and PR
 
Swansea:   Mount Pleasant campus, Mount Pleasant, Swansea, SA1 6ED
Mobile:      07384 467 078
Skype:       Catherine Hopkins
Email:        catherine.hopkins@uwtsd.ac.uk