Coleg Celf Abertawe yn rhoi cipolwg ar Wneud Creadigol a’r Nodau Cynaliadwyedd yng Nghymru


04.06.2019

Mae cynhadledd a drefnwyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi rhoi cipolwg ar sut mae Coleg Celf Abertawe yn ymgorffori saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) Llywodraeth Cymru wrth addysgu, ymchwilio ac arloesi.  

Mae’r gynhadledd yn rhan o Ysgol Haf Cynaliadwyedd i fyfyrwyr israddedig o Goleg Sant Mihangel Vermont a drefnwyd gan Ysgol Fusnes Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant sy’n arbenigo mewn arfer cynaliadwyedd mewn cyd-destunau gwledig.

Dr Jane Davidson, Pro Is-Ganghellor dros gynaliadwyedd ac ymgysylltu allanol a chyn-Weinidog Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru, a gychwynnodd y berthynas â Choleg Sant Mihangel, Vermont.  

Y mis hwn, ymwelodd 15 myfyriwr a dau aelod o’r staff o Goleg Sant Mihangel â’r Drindod Dewi Sant yn rhan o’u hastudiaethau i agwedd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) ar gyfer eu gwaith prosiect, yr oeddent wedi dechrau ei astudio cyn teithio i Gymru.

Yn ystod eu hamser yn Y Drindod Dewi Sant, aethant ar ymweliadau maes a chael darlithoedd a oedd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gan ymweld â Llansteffan, Big Pit, Sain Ffagan, y Senedd, Dinbych y Pysgod, Mynyddoedd y Preseli, Menter Gymdeithasol Xcel Bowl, a’r Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth ac roeddent yn rhan o seminarau academaidd a gynhaliwyd gan Ysgol Fusnes Caerfyrddin a Choleg Celf Abertawe. 

Meddai aelodau staff Sant Mihangel Jeffrey Ayres a Laura Stroup: “Hwn yw’r trydydd ymweliad mewn pedair blynedd a’n nod yw dyfnhau’r gyfnewidfa rhwng Sant Mihangel a’r Drindod Dewi Sant o gwmpas Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol am fod llawer o synergeddau rhwng Cymru a Vermont.  Mae prosiectau’r myfyrwyr ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a phob un wedi cymryd gwahanol agweddau arni ar gyfer eu gwaith ymchwil.  Cawsom ni amrywiaeth o gyflwyniadau ar bob un o’r agweddau hyn a gweld pob un o’r rhain ar waith wrth deithio i wahanol leoliadau yng Nghymru.

Meddai trefnydd yr ymweliad, Dr Louise Emanuel, Ysgol Fusnes Caerfyrddin: “Rydyn ni’n yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau perthynas lle gall ein myfyrwyr elwa hefyd o raglenni cyfnewid â Choleg Sant Mihangel a chael cyfle i ymweld â Vermont ar gyfer ymweliad maes busnes cynaliadwy –rydyn ni wrthi’n cynllunio hyn ar gyfer y flwyddyn nesaf.”

Wrth groesawu’r myfyrwyr a’u hathrawon i Goleg Celf Abertawe, meddai’r Athro Ian Walsh, Deon y Gyfadran Celf a Dylunio: “Prif rôl addysg yw creu gwybodaeth, hyder ac angerdd yn ein myfyrwyr – hon yw ein cenhadaeth fawr.  Rydyn ni wedi ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd a nodau llesiant yn ein cwricwlwm, ein cymuned, ein campws a’n diwylliant er mwyn i ni greu artistiaid a dylunwyr gwybodus, addysgedig ac angerddol sy’n gallu meddwl am y byd rydym yn byw ynddo ac ymateb i’r heriau hynny’n greadigol”.  

Gan ddefnyddio enghreifftiau o raddedigion Coleg Celf Abertawe sydd bellach yn gwneud eu marc mewn cwmnïau byd-eang, nododd yr Athro Walsh sut oedd graddedigion yn defnyddio egwyddorion dylunio cynaliadwy i greu atebion arloesol, gan gynnwys Keira Gwynn, a raddiodd mewn dylunio cynnyrch ac a ddyluniodd y gadair sgolop yn ei blwyddyn olaf ac sy’n gweithio erbyn hyn i’r cwmni Danaidd R82, gan arbenigo mewn cynhyrchion cynorthwyol ar gyfer plant ac oedolion anabl ac Elliot Hawkins, a raddiodd mewn dylunio moduron ac a ddyluniodd Pad di-yrrwr cyntaf y DU i’r Grŵp RDM lle mae’n Brif Ddylunydd cerbydau annibynnol.

 

Yn ystod y gynhadledd, cyflwynodd staff yng Ngholeg Celf Abertawe ar bob un o’r saith Nod Llesiant a disgrifio sut y maent wedi eu hymgorffori yn eu gwaith addysgu a’u hymchwil.

  1. Cymru lewyrchus oedd maes cyflwyniad Shelley Doolan, Rheolwr Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol, a soniodd am y prosiect Canolfannau Entrepreneuriaeth y Celfyddydau a Dyniaethau (AHEH) sy’n anelu at wella gobeithion hirdymor myfyrwyr y Celfyddydau a’r Dyniaethau trwy roi’r dulliau a’r adnoddau i ddefnyddio eu doniau i gynnal dyfodol trwy wneud yr hyn sydd wrth fodd eu calon.
  2. Cymru gydnerth oedd y pwnc dan sylw gan Chris Holtom, Canolfan Ymchwil ac Arloesi'r Diwydiannau Creadigol, a ganolbwyntiodd ar y Prosiect Catalydd a ariannwyd gan yr UE rhwng Iwerddon a Chymru gan helpu cwmnïau yn y gwyddorau bywyd ar sectorau bwyd a diolch i ddod yn fwy cynaliadwy trwy fynd i'r afael, er enghraifft, â gwastraff bwyd neu gynaliadwyedd wrth becynnu.   
  3. Cymru iachach oedd thema’r Athro Cysylltiol Dr Ross Head a soniodd am lesiant plant a theuluoedd trwy waith chwyldroadol Canolfan Arloesi Cerebra  wrth gynorthwyo plant sydd â chyflyrau niwrolegol i ymwneud â gweithredoedd pob dydd.
  4. Cymru fwy cyfartal a gafodd sylw yng nghyflwyniad Caroline Thraves: Pennaeth Ysgol y Celfyddydau Cain a Chyfryngol a Chadeirydd Rhwydwaith Menywod Y Drindod Dewi Sant a amlinellodd y gwaith i ddod â menywod, a’r rhai sy’n nodi eu bod yn fenywod, gyda’i gilydd, i drafod eu profiadau cyffredin o weithio yn y Brifysgol.
  5. Cymru o gymunedau cydlynus oedd pwnc Dr Amanda Roberts, a rhoddodd gyflwyniad i amrywiaeth o fentrau addysgol yng Ngholeg Celf Abertawe megis Celfyddydau ar Waith, Arts After Dark, Diwrnodau Blasu, Y Swigen Greadigol, ac Ysgol Gelf Dydd Sadwrn, sy’n anelu at annog grwpiau yn y gymuned ac ysgolion lleol sydd wedi eu tangynrychioli i gymryd rhan yn y Celfyddydau ac Addysg Uwch.
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu oedd y thema dan sylw gan Gwenllian Beynon sydd wedi bod yn gweithio i ymgorffori’r Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe trwy annog y myfyrwyr a’r staff i ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith pob dydd ac i osod iaith a threftadaeth Cymru mewn cyd-destun byd-eang ehangach, gan gyfeirnodi perthynas hir y Brifysgol â Chanolfan Madog, ym Mhrifysgol Rio Grande yn Ohio.
  7. Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang oedd thema Dr Pete Spring, a gyflwynodd gysyniad ‘lleol-byd-eang’ ynghylch addysgu a chynorthwyo myfyrwyr i ddeall pwysigrwydd ffurf go iawn ar ymyrraeth ecolegol neu syniadau cydlynol, gan dynnu sylw at brosiect cyfredol y mae myfyrwyr ail flwyddyn yn gweithio arno gydag Undeb Rygbi Cymru, Anabledd Cymru a Cerebra i ymchwilio i’r potensial i’w cysyniadau droi’n realiti a chael effaith gadarnhaol ar blant o gwmpas y byd.

 Yn ogystal, soniodd Rhian Jones am y newidiadau ym maes y Celfyddydau ac Addysg gan roi enghreifftiau Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg NAWR, sef un o gonglfeini ‘Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau’ – cynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer y celfyddydau ac addysg a grëwyd ac a weithredir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Meddai Gwenllian Beynon, Uwch Ddarlithydd Celf a Dylunio a Chydlynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: “Rydyn ni’n falch dros ben o groesawu ysgol haf cynaliadwyedd Vermont i Goleg Celf Abertawe. Rydyn ni’n yn cynnal yn arbennig gynhadledd fach ar Wneud Creadigol a’r Nodau Cynaliadwy yng Nghymru ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 sydd â ffocws ar brosiectau o dan arweiniad Coleg Celf Abertawe ac sy’n arddangos y gwaith anhygoel a wneir yn ein prosiectau cyfredol a’r pwysigrwydd a roddwn i faterion cynaliadwyedd sy’n gysylltiedig â nodau llesiant. Mae’n braf bod gan staff a myfyrwyr Coleg Sant Mihangel yn Vermont ddiddordeb i archwilio datblygiadau ymarferol yn ogystal â rhai ymarferol ym maes cynaliadwyedd yma yn Y Drindod Dewi Sant a’r gymuned ehangach. Mae’n wych gwybod bod diddordeb rhyngwladol yn yr hyn y mae Cymru yn ei wneud i amddiffyn ein planed, y rôl sydd gan y Brifysgol a Choleg Celf Abertawe yn hyn o beth’.